Psalm 71 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Psalm .lxxj.In te Domine speraui.Boreu weddi.

1YNaw ti, Arglwydd, yr ymddiriedais, na’m cywilyddier yn dragywydd.

2Achub a’ gwared vi yn dy gyfiawnder: gogwyða dy glust ataf, a’ chadw vi.

3Byð y my yn graic cadarn, val y gallwyf gyrchy yddi yn wastad: gorchymynnaist vy-cadw, can ys ti yw vy maendy a’m castell.

4Gwared vi vy-Dew, o law yr enwir: o law y drugddyn a’r craulon.

5Can ys ti yw ve-gobaith: Arglwydd Ddew, ve gobaith o’m ieuntit.

6Wrthy-ti im cynhaliwyd o’r bru: ty di am cymerth allan o emyscaroeð vy mam: vy moliant vydd yn oystat o hanot’.

7Mi euthym val angenvil i lawer: eithr ti yw vy cadarn ymddiriet.

8Cyflawner vy-genau ath voliant, dydd oth ’ogoniant.

9Na vwrw vi ymaith yn amser henaint: na ad vyvi pan yw vy nerth yn pally.

10Can ys vy-gelynion a ddywedant am danaf, a’r ei a vwriadant im enaid, a ymgynghorant ynghyt,

11Gan ddywedyt, Dew y gadawdd ef: erlidiwch a’ deliwch ef, can nad oes neb iechydwrieth: can na wnn rrivedi.

16Af rhagof yn nerth yr Arglwydd Ddew, ac a goffáf am dy gyfiawnder, am y taudi yn vnic.

17Dew dysceist vi o’m ieuntit yd y pryd hyn: am hynny] y menagaf dy ryfeddodau.

18Ac ys hyd henaint a’ phenllwydeð, á Ddew: na’ad vi, yn y venagwyf dy vraich ir genedleth, ath allu ir oll ’rei a ddelont.

19Ath gyfiawnder, Ddew, yn vchel: cans gwnaethost bethau mawrion: Dew pwy’ sy debic y-ty?

20Yr hwn a ddangosaist y-my drallodau lawer a’ drugion, ti ymchweli ac am bywéi vi, ac a ddaui drachefn, ac am cymery i vyny o eigion y ddayar.

21Ti amléi vy mawredd, ac ymchwely i’m diddanu.

22Cann hynny ith volaf dy wirionedd, Ddew, ar gerdd danneu: canaf y-ty ar y delyn, [tydi[ Sanct yr Israel.

23Hyfryd vydd gan vy-gwefusau pan ganwyf y-ty, a’m enaid’ yr hwn a waredaist.

24Vy-tafod hefyd a’ madrodd oth gyfiawnder beunydd: cann ys gwradwyddir a’ chywylyddir, yr ei a geisiant ddrwc y-my.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help