1CAn ein cyfiawnhau ni can ffydd, y mae genym dangneðyf tu ac at Dduw trwy ein Arglwydd Iesu Christ.
2Trwy’r hwn hefyt y may i ni fforddoliat trwy ffydd i rrat hyn, yn yr hwn yð ym yn sefyll, ac yn ymlawenychu dan ’obeith y gogoniant Duw.
3Ac nyd ym yn gvvneuthur hyn yn vnic, eithyr hefyd ydd ym yn ymlawenychu yn gorthrymderon, gan i ni wybot may gorthrymder a ddwc ddioddefgarwch,
4a’ dioddefgarwch, broviat, a’ phroviad ’obaith,
5a’ gobaith ny chywilyddia, vot cariat Duw wedyr ddinëu yn ein caloneu can yr Yspryt glan, yr hwn a roespwyt i ni.
6Can ys Christ, pan oeddem eto yn ddinerth yn ei amser a vu varw dros yr anduwolion.
7Diau may braidd y bydd neb varw dros vn cyfiawn: er hyny dros vn da ef allei y beiddiai vn varw.
8Eithyr y mae Duw yn eglurhau ei gariat tu ac attam, o bleit a nyni yn pechaturieit, marw o Christ trosō.
9Mwy ynte o lawer, can ddarvot ein cyffiawnhau ni weithion can y waet ef, in iachëir rac digofeint trwyddaw ef.
10Can ys a’s pan oeddem ’elynion eyn cyssylieit a Duw gan angeu y Vap ef, mwy o lawer wedy’n cyssilio, in iacheir gan y vywyt ef.
11Ac nyd yn vnic hyny, eithyr ymlawenychu ddym hefyt yn‐Duw trwy ein Arglwyð Iesu Christ, can yr hwn yr awrhon y derbyniesam y cyssyl.
12Erwyð pa bleit, megis trwy vn dyn y daeth pechat ir byt, ac angae trwy pechat, ac velly yd aeth angae dros bop dyn: yn gymeint a’ phechu o bavvb oll.
13Cā ys yd amser y Ddeddyf ydd oedd pechat yn y byt, eithyr ny chyfrifir pechot, pryd nad oes Ddeddyf.
14Eithyr angeu a deyrnasawdd o Aða yd Moysen, ac arnynt wy hefyt a’r ny phechhasant yn ol cyffelipiaeth y camwedd Adda yr hwn yw ffurf yr vn a ddauei.
15Eithr nyd yw’r dawn velly, vegis y mae’r camwedd: o bleit a’s trwy gamwedd vn, y bu veirw l’awer, mwy o lawer rhat Duw, a’r dawn drwy rat, yr hyn ’sy trwy vn dyn Iesu Christ, a vwyedigawdd i lawer.
16Ac nyd yw’r dawn velly, vegis y peth a ddeuth y mevvn trwy’r vn a bechawdd: can ys y bai a ddaeth o’r vn camvvedd i varnedigeth eithyr y dawn ’sydd o gamweddae lawer i gyfiawnhad.
17Can ys a’s trwy gamwedd vn, y teyrnasawdd angae trwy vn, mwy o lawer y bydd ir ei a dderbyniant y lliosogrwydd o rat, ac o ddawn y cyfiawnder, deyrnasu ym‐bywyt trwy vn, ’sef Iesu Christ.
18Can ys yr vn modd vegis trwy gamweð vn y ddaeth y bai ar bawb dyn er barnedigeth, velly trwy gyfiawnhat vn y lliosoceit y davvn i bop dyn er cyfiawnhat bywyt.
19O bleit megis trwy anuvyðdot vn dyn y gwnaethpwyt llawer yn pechaturieit, vel’y trwy uvyðdot vn y gwnair llawer yn gyfiawn.
20Hefyt y Ddeddyf a ddaeth y mywn er amylhau camwedd: er hyny lle ’r amylhaodd pechot, yno y traamylhaodd rhat yn vwy o lawer:
21y n y byddei megis y teyrnasawð pechawt ir angeu, velly bot hefyt i rat deyrnassu drwy gyfiawnder i vywyt tragyvythawl, trwy Iesu Christ ein Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.