1Y Traethawt vchod, a Theopilus, a wnaethym am yr oll pethae’ry ddechreawð Iesu ei gwneythyd, a’ ei dyscy,
2yd y dydd y derchafwyt e i vynydd, gwedy yddaw trwy yr Yspryt glan, roddi gorchymyn ir Apostolon, y ddetholesei ef:
3i ba’r ei hefyt yr ymddangosawdd ehun yn vyw, gwedy iddaw ddyoddef, trwy lawer o argyhoeddion, a’ bot yn weledic yddynt tros yspait dauugain diernot, can cympwyll vvrthyn am y pethae ’r y perthynant ar deyrnas Dew.
4Ac wedy iddaw ei cynnull vvy yn‐cyd, ef ’orchymynoð yddwynt, nad elent ymaith o Gaerusalem anid ysgwyl am addewit y Tad, yr hwn, eb ef, a glywsoch y cenyf’.
5Can ys Ioan yn ddiau a vatyddiawdd a dwfr, a’ chwitheu a vatyddier a’r Yspryt glan cyn pen ny‐mawr o ddyddiae.
6Gwedy gan hynny y dyvot wynteu yn‐cyd, y govynesont iddo, gan ðywedyt, Arglwydd, ai ’r amser hyn yr advery y deyrnas ir Israel?
7Ac ef a ðyvot wrthynt, Nid yw ychwy wybot yr amserae, nai yr prydiae ’r ei ’osodes y Tat yn ei veddiant ehun:
8eithyr chwi dderbyniwch nerth y gan yr Yspryt glan, gwedy yd el ef arnoch: a’ chwi vyddwch testion ymy, ys yn Gaerusalem, ac yn yr oll Iudaia, ac yn Samareia, ac yd yn eithawedd y ddaear.
9Ac ’wedy yddaw amadrodd y pethae hyn, ac wyntwy yn tremyaw, yd erchafwyt ef y vynydd: ac wybren y cymerawdd ef i vynydd o’i golwc vvy.
10Ac mal ydd oeddent yn edrych yn ddyval parth ar nef, ac ef yn mynet, wele, y safai dau wr, wrthynt mewn gwisc ganneit,
11yr ei ac a ddywesont, Ha wyr o’r Galilaia, pa sefyll ydd ych yn tremiaw tu ar nef? Yr Iesu hwn yr vn y gymerwyt y vynydd y wrthych ir nef, a ddaw velly, yn y modd y gwelsoch ef yn mynet ir nef.
12Yno ydd ymchwelesont y Gaerusalem o y wrth y mynydd y elwir mynydd Olivar, yr hwn ’sydd yn agos i Gaerusalem, ys ef yspait ymddaith diernot Sabbath.
13Ac wedy y dyvot vvy y mewn, yð aethant i vynydd i ’orchystavell, lle ydd arosent ac Petr, ac Iaco, ac Ioan, ac Andreas, Philip, ac Thomas, Bartholomeus, ac Mattheus, Iaco vap Alpheus, ac Simon Zelotes, ac Iudas bravvd Iaco:
14yr ei hynn oll oedd yn ymaros yn vnvryt yn‐gweddi a’ goglyt y gyd a’r gwragedd, a’ Mair vam yr Iesu, ac y gyd ei vroder.
Yr Epistol ar dydd. S. Mathias
15A’r dyddiae hyny y cyuodes Petr i vynydd yn‐cenol y discipulon ac y dyvot, (a’ niuer yr enwae oedd yn yr vn lle, ytoedd yn‐cylch cant a’r vgain)
16A wyr vroder, yð oeð yn ddir cyflawny yr Scrythur hynn, yr vn a rac ddyvot yr Yspryt glan trwy enae Dauid am Iudas, yr hwn a vu dywysawc ir ei a ddaliesont yr Iesu.
17Can ys cyfrifit ef gyd a ni, ac a gawsei ged yn y weinidogaeth hynn.
18Ac ef gan hyny a ddarpar awdd vaes a gobr enwiredd: a’ gwedy yddaw, ymgrogy ef aeth yn yn ddauddryll yn ei genol, a’ ei oll ymyscaroedd a dywalltwyt.
19Ac y mae yn wybodedic y gan oll preswylwyr Caerusalem, yd pan elwir y maes hwnw yn ei tavodiaith wy, Aceldama, ys ef yw hyny, Maes y gwaet.
20Can ys e yscrivennir yn llyfer y Psalmae, Bit y breswylfa ef yn ddiffaith ac na thriget nep ynthaw: ac, bit i arall gymeryt ei, escopaeth ef.
21Erwydd paam o’r gwyr hyn a vu yn cymdeithas a nyni, yr ol’ amser y bu yr Arglwyð Iesu yn tramwy in plith,
22gan ddechry o Vatydd Ioan, yd y dydd yd erbyniwyt ef i vynydd o ywrthym, y bydd dir bot vn o hanwynt yn test oy gyfodiat ef.
23Ac wy a’ osodesont ddau gerbron, ys ef, Ioseph y elwit Barsabas, a’ ei gyfenw ytoedd, Iustus, ac Matthias.
24A’ gweddiaw a wnaethant gan ddywedyt, Tydy Arglwydd calon‐wybedydd pop dyn, dangos pa vn o’r ddau hynn a ddetholeist
25modd y gallo dderbyn ced y wenidogaeth hyn ar Apostoliaeth, y wrth pa vn y camdroses Iudas i vynet y ei le ehun.
26Yno y dodesont goelbrenni, a syrthio yr coelbren ar Matthias, ac o gydsyniat y cyfniferwyt ef gyd a’r vn ar ddec Apostolon.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.