Psalm 42 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Psalm .xlij.Quemadmodum desiderat.¶ I rhagorawl Psalm y roi addysc, ’rhon y roid at veibion Kórach

1MAl y bref yr hydd am avonydd dyfredd, velly y llefain vy enait am danat’ Ddew.

2Sychedai vy enait am Ddew, am y Dew byw: pa bryd y dauaf ac ydd ymddangosaf yn-gwydd Dew?

3Vy-daigre ytoedd yn vwyt ymy ddydd a’ nos, tra ddywedit wrthyf beunyð, P’le y mae dy Ddew?

4Pan veddyliwn hyn yma, ys tywalldwn vy eneit y wrthyf, can ymy vyned y gyd a’r dorf, a’u harwein hwy yd tuy ’r Arglwyð, gan lef caniat, moliant lliaws yn gwledda.

5Paam ith vwrir y lawr, vy enait, ac yr aflonyddy ynof? dysgwyl wrth Ddew: can ys etwo y diolchaf yðaw am borth ei wynep.

6Vy-Dew, vy enait a vwriwyt y lawr o’m mewn, can y my dy goffa, o dir Iorðanen, a Hermonim o vynyth Mitsar.

7[Sef] eigiawn a ymoralw am eigiawn gann lais dy ddyfr-bistillieu: dy oll donhae ath ystormydd aethant drosof.

8Yr Arglwydd a ganiatá ei garedicrwydd anianawl y dydd, a’r nos y canaf o hanaw, gweddi ar Ddew vy-bywyt.

9[Ys] dywedaf wrth Ddew vy craic, Paam im gollyngaist yn angof: paam y ddaf yn dwyn alar, pan vo’r gelyn gorthrymu?

10Vy escyrn a leddir tra vo vy-gelynion im gwartháu, gan ddywedyt wrthyf baunydd, P’le mae dy Ddew?

11Paam ith vwriwyt y lawr vy eneit? a’ ph’am ith aflonyddir o’m mewn?

12Dysgwyl wrth Ddew: can ys etwo y diolchaf yddaw am vot yn borth ym’ gerllaw, ac yn Ddew ymy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help