Matthew 26 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xxvj.Bwriad yr Offeiriait yn erbyn Christ. Ef yn escuso Mair Magdalen. Ordinat Swper yr Arglwydd. Gwendit y discipulon. Brad Iuddas. Y cleddyf. Can i Chirst y ’alw y un yn vap Dew, y barnwyt ef yn deilwng o angae. Petr yn ymwady, ac yn edifarhay.Yr Euangel y Sul nesaf o vlayn y Pasc.

1AC e ðarvu, gwedy i’r Iesu ’orphen y gairie hyn oll, ef a ddyvot wrth ei ddiscipulon,

2Chwi wydddoch, mae o vewn y ðauddydd y mae ’r Pasc a’ Map y dyn a roddir y’w groci.

3Yno ydd ymgynnullawdd yr Archoffeiriait a’r Scrivennyddion, a’ Henyddion y popul i nauað yr Archoffeiriat, a elwit Caiaphas

4ac a ymgyggoresont py vodd y dalient yr Iesu trwy vrad, a’ ei ladd.

5Eithyr wynt a ddywetsōt, Nyd ar yr ’wyl, rac bod cynnwrf ym‐plith y popul.

6Ac val yð oedd yr Iesu ym‐Bethania yn-tuy Simon ’ohanglaf,

7e ddaeth ataw wreic, ac gyd a hi vlwch o irait gwerthvawr, ac ei tywalldawdd ar ei benn, ac ef yn eistedd wrth y vort.

8A’ phan weles ei ddiscipulon, wy a sorasont, gan ddywedyt, Pa rait y gollet hon?

9can ys ef al’esit gwerthy er irait hwn er l’awer, a’i roddi ef ir tlotion.

10A’r Iesu a wybu, ac a ddyvot wrthwynt, Paam ydd ych yn molesty yr wreic? can ys hi a weithiawdd weithret ða arnaf.

11Can ys y tlodion a gewch yn wastat yn eich plith, a’ myvy ny’s cewch yn oystat gyd a chwi.

12Can ys lle y tywalltawdd hi yr irait hwn ar vyg‐corph, er mwyn vy‐claðedigaeth hi gwnaeth.

13Yn wir ydywedaf wrthych, Pa le bynac y precether yr Euangel hon yn yr oll vyt, hyn yma hevyt a wnaeth hi, a venegir er coffa am denei,

14Yno yr aeth vn o’r dauddec, yr hwn a elwit Iudas Iscariot, at yr Archoffeiriait,

15ac a ddyvot vvrthynt, Pabeth a rowch i mi, a’ mi y rroddaf ef y‐chwy? Ac wy a’ osodesont iddaw ddec arugain o ariant.

16Ac o hynny allā, y caisiawdd ef amser‐cyfaddas yw vradychy ef.

17Ac ar y dydd cyntaf o wyl y bara‐croew, y discipulon a ðaethant at yr Iesu gan ddywedyt wrthaw, P’le y myny i ni paratoi iti y vwyta ’r Pasc?

18Ac yntef a ddyuot, Ewch ir dinas at ryw vn, a dywedwch wrthaw, Yr athro a ddywait, Vy amser ys ydd agos, cyd a thi y cynhaliaf, y Pasc mi am discipulon.

19A’r discipulon a wnaethant mal y gorchmynesei ’r Iesu yddwynt, ac a paratoesont y Pasc.

20Ac gwedy ei mynet hi yn hwyr, ef a eisteddawdd i lawr gyd a’r dauddec.

21Ac mal ydd oeðēt yn bwyta, y dywedawð, Yn wir y doedaf wrthych, y bradycha vn o hanawch vyuy.

22Yno yr aethant yn athrist dros ben, ac a ddechraesont bop‐vn ddywedyt wrthaw. Ac myvi Arglwydd?

23Ac ef a atepawdd ac a ddyvot, Yr hwn a drocha ei law gyd a mi yn y ðescil, hwn a’m bradycha.

24Diau Map y dyn a gerdda, mal y mae yn ercrivenedic o hanaw, anid gwae ’r dyn hwnaw, trwy ’r hwn y bradycher Map y dyn: ys da vesei ir dyn hwnaw, pe na’s genesit erioet.

25Yno Iudas yr hwn y bradychawdd ef, a atepawdd ac a ddyvot, Ai myvi yw ef, Athro? Ef a ddyvot wrthaw, Ty ei dywedaist.

26Ac val yr oeddynt yn bwyta, e gymerth yr Iesu ’r bara: a’ gwedy iddaw vendithiaw, ef ei torawdd, ac ei roddes ir discipulon, ac a ddyvot, Cymerwch, bwytewch: hwnn yw vy‐corph.

27Ac ef a gymerth y cwpan, a’ gwedy iddo ddiolch, ef ei rhoddes yddynt, can ddywedyt, Yfwch oll o hwn.

28Can ys hwn yw vy‐gwaet o’r testament Newydd, yr hwn a dywelltir tros lawer, er maddauant pechotae.

29Mi ddywedaf wrthych, nad yfwyf o hynn allan o’r ffrwyth hwn y wynwydden yd y dydd hwnw, pan ydd yfwyf ef yn newydd gyd a chwi yn‐teyrnas vy‐Tad.

30A’ gwedy yddwynt canu psalm, ydd aethant allan i vonyth Olivar.

31Yno y dyvot yr Iesu yr wrthynt, Chwychwi oll a rwystrir heno o’m pleit i: canys escrivenedic yw, Trawaf y bugail, a’ deveit y vagat a ’oyscerir.

32Eithyr gwedy ’r adgyvodwyf, ir af och blaen ir Galilea.

33Ac Petr atepawdd, ac a ddyvot wrthaw, Pe rhan i bawp ac ymrwystro oth pleit ti, eto ni ’im rhwystrir i byth.

34Yr Iesu a ðyvot wrthaw, Yn wir y dywedaf wrthyt, mae yr nos hon, cyn canu yr ceilioc, i’m gwedy deirgwaith.

35Petr a ðyvot wrthaw, Pe gorvyddei i mi varw gyd a thi, eto ny’th wadaf. Ar vn modd hefyt y dyvot yr oll ddiscipulon.

36Yno ydd aeth yr Iesu gyd ac wynt i van a elwit Gethsemane, ac a ddyvor wrth y discipulon. Eisteddwch yma, tra elwyf a gweddiaw accw.

37Ac ef a gymerth Petr, a’ dau‐vap Zebedeus ac a ðechreawð tristau, ac ymovidiaw yn tost.

38Yno y dyvot yr Iesu wrthynt, Trist iawn yw vy enait ys yd angae, Aroswch yma, a’ gwiliwch gyd a mi.

39Ac ef aeth ychydic pellach, ac a gwympodd ar ei wynep, ac y weddyawdd, can ddywedyt, Vy‐Tad, a’s gellir, aed y cwpan hwn ywrthyf: na vyddet hagen, yn ol vy ewyllys i, anid yn ol dy ewyllys di.

40Yno y daeth at y discipulon, ac ei cafas wy yn cyscu, ac a ddyvot wrth Petr, Paam? a ny allech’ wiliaw vn awr gyd a mi?

41Gwiliwch, a’ gweðiwch rac eich myned ym‐provedigaeth: diau vot yr yspryt yn parat, eithyr y cnawt ys ydd ’wan.

42Ef aeth trachefn yr ailwaith ac a weddiawð, can ddywedyt Vy‐Tat, any’s gall y cwpan hwn vynet y wrthyf, eb orvod i mi ei yvet, byddet dy ewyllys.

43Ac ef a ddeuth, ac y cavas wy yn cyscu trachefyn: can ys ei llygait wy oedd drymion,

44Ac ef ei gadawodd wy ac aech ymaith drachefyn, ac a weddiawdd y trydeð waith, can ddywedyt yr vn gairiae.

45Yno y daeth ef at ei discipulon, ac a ddyvot wrthynt, Cuscwch bellach a’ gorphwyswch: nycha, mae’r awr wedy nesay, a’ Map y dyn a roddir yn‐dwylaw pechaturieit.

46Cyvodwch, awn: nycha, y mae geyr llaw yr hwn a’m bradycha.

47Ac ef eto yn dywedyt hyn, nycha, Iudas, vn or dauddec yn dyvot a’ thorf vawr cyd a’ ef a chleddyvae a’ ffynn, ywrth yr Archoffeiriait a’ henurieit y popul.

48A’ hwn aei bradychawdd ef, a royðesei arwydd yddynt, can ddywedyt, Pwy’n bynac a gysanwyf, hwnw ytyw, deliwch ef.

49Ac yn ebrwydd e ddaeth at yr Iesu, ac a ddyvot, Henpych‐well Athro, ac ei cusanawð.

50A’r Iesu a ddyvot wrthaw, Y car y ba beth y daethost? Yno y deuthant ac y roesont ddwylo ar yr Iesu, ac ei daliesant.

51A’ nycha, vn or ei oedd gyd a’r Iesu, a estennawdd ei law, ac a dynnawdd ei gleddyf, ac a drawawdd was yr Archoffeiriat, ac a dorawdd ei glust ymaith.

52Yno y dyvot yr Iesu wrthaw, Dod dy gleddyf yn ei le: can ys pawp a’r a gymerant gleddyf, a chleddyf eu collir.

53Ai wyti yn tybiet, na’s gallaf yr awrhon weddiaw ar vy‐Tad, ac ef rydd i mi vwy na dauddec lleng o Angelion?

54Can hyny pa vodd y cyflawnir yr Scrythurae y ddyvvedant, y gorvydd bot velly?

55Yn yr awr hono y dyvot yr Iesu wrth y durfa, Chwi a ddeuthoch allan megis at leitr a chleddyfae ac a’ ffynn im dal i: ydd oeddwn baunyð yn eistedd ac yn dyscy’r popul yn y Templ yn eich plith ac ni’m daliesoch.

56A’ hyn oll awnaethpwyt, er cyflawny’r Scrythure ’r Prophwyti. Yno yr oll ddiscipulon ei gadasant, ac a giliesant.

57Ac wynt a ðaliesant yr Iesu, ac aethant ac ef at Caiaphas yr Archoffeiriat, lle ydd edd yr Scrivenyddion ar Henuriait wedy’r ymgascly yn‐cyt.

58Ac Petr y cynlynawdd ef o hirbell yd yn llys yr Archoffeiriat, ac aeth y mewn, ac a eisteddawdd gyd a’r gweision i weled y diben.

59A’r Archoffeirieit a’r Henureit, a’r oll gymmynva y geisiesōt gaudestiolyeth yn erbyn yr Iesu, yw ddody ef i angae.

60Ac ny’s cawsant neb, ac er dyvot yno lawer gaudystion, ny chawsont chwaith. Ac o’r dywedd y deuth dau gau dystion,

61ac a ddywedesont, Hwn yma a ddyvot, Mi allaf ddestcyw Templ Dduw, a’ hei adaillat mewn tri‐dievvarnot.

62Yno y cyfodes yr Archoffeiriat ac a ddyvot wrthaw, A atepy di ddim? Pa peth yvv pan vo rei hyn yn testolaethy yn dy erbyn?

63A’r Iesu a dawodd. Yno ydd atepawdd yr Archoffeiriat, ac a ddyvot wrthaw, Mi ath dyngaf trwy’r Duw byw, ddywedyt o hanot i ni, a’s ti ywr Christ Map Duw.

64Yr Iesu a ddyvot wrthaw, Tu ei dywedeist; eithyr mi a ddywedaf wrthych, ar ol hynn y gwelwch Vap y dyn, yn eistedd ar ddeheu gallu Duvv, ac yn dawot yn wybrenae’r nef.

65Yno y rhwygawdd yr Archoffeiriat ei ddillat, can ddywedyt, Ef a gablawdd: pa reit i ni mwy wrth testion? nycha, clywsoch y gabl ef.

66Peth dybygwch chwi? Wy a atepesant, can ddywedyt, Mae ef yn auawc i angae.

67Yno y poeresont wy yn ei wynep, ac ei cer nodiesont: ac eraill y trawsant ef a ei gwiail,

68gan ddywedyt, Prophwyta i ni, Christ, pwy yw hwn ath trawodd?

69Petr oedd yn eistedd hwnt yn ynauadd, ac a ddaeth morwynic attaw, ac a ddyvot, Ac ydd oeddyt ti y gyd ac Iesu o’r Galilea.

70Ac ef a watawdd geyr ei bron wy oll, ac a ddyvot, Ny’s gwnn beth ddywedy.

71A’ phan aeth ef allan ir porth, y gwelawdd morvvynic arall ef, ac a ddyvot wrth yr ei oedd ynow, Ydd oedd hwnn hefyt gyd ac Iesu o Nazaret.

72A’ thrachefyn ef a’ wadawdd gan dyngu, Nyd adwaen i’r dyn.

73Ac ychydic gwedy, y deuth attaw ’rei oeð yn sefyll geyr llaw, ac a ddywedesont wrth Petr, Yn wir ydd yw ti yn vn o hanwynt, can ys bot dy lediaith yn dy gyhoeddy.

74Yno y drechreawdd ef ymregy, a’ thyngy, can ddyvvedyt, Nyd adwaen i’r dyn. Ac yn y man y canawdd y ceiliawc.

75Yno y cofiawdd Petr ’airie ’r Iesu yr hwn a ddywedesei wrthaw, Cyn canu yr ceilioc, tu a’m gwedy deirgwaith. Yno ydd aeth ef allan ac ydd wylawdd yn dost.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help