Ebraieit 5 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. v.1 Y mae ef yn cyffelypu Iesu Christ ac Offeiriait Leui, gan ðangos ym‐pa peth y maent yn cytuno neu yn ancytuno. 11 Yn ol hyny y mae ef yn argyweddu yscaelustra yr Iuddaiou.

1CAn ys pob Archeffeiriad o blith dynyon y cymerir ef, a’ thros dynion y gosodir ef, yn y pethau sy tu ac at Ddyw, y offrymmu a’rrodion ac aberthau tros pechodau,

2Rrwn a wyr yn gymesurol gydsynnio cyflwr yr ei anghyfarwydd, ar neb sy ar gam, am y fod yntau hevyd wedi y amgylchu a gwendid,

3Ac ir mwyn hynny y dyly trostaw y hun yr vn moð a’ thros yddo ’r bobl offrymmu tros pechodau.

4Ac ni chymer neb yr vrddas hyn yðo y hun ond y neb a fo Dyw, yn y alw, mal Aaron.

5Velly Christ hevyd ni chymerawdd yddo yhun hyn o vrddas, y fod yn archeffeiriad, namyn yr hwn a ddyvod wrtho, Tydi yw fy mab i, heddiw yr enillais i dydi, ei rhoes yddavv.

6Megis y may ef heuyd mewn man arall yn doydyd, Tydi effeiriad wyt yn dragwddawl, ar ol ordr Melchisedec.

7Rrwn yn y dyddiau y gnawd ef a offerymmoð trwy levain a dagre, weddiau ac ytolygon at yr hwn, ydoeð abl yw achub ef o ddiwrth farfolaeth, ac a wrandawyd y peth y roedd yn i ofni.

8A chyd bay ef Vab, er hyny ef a ddyscawð vfyðdot, erwydd y pethau a ddioddefawdd.

9A’ chwedi eu gysegru, ef a wnaythbwyd yn audur iechid tragwyðawl ir rrai a wrandewynt:

10Wedi eu gyfenwi can Ddyw yn Archeffeiriad ar ol ordr Melchi‐sedec.

11Am yr rwn may y ni lawer yw ddoydet, sy anhawdd y manegi, achos ych bod chwi yn fuscrell ych clustiau.

12Can ys lle y dyleychi herwydd amser fod yn athrawon, rraid yw drachefn ddyscu i chwi beth ydiw deunyddiau dechreuad ymadroðion Dyw: ac aythoch yn rraid ywch wrth layth, ac nid bwyd ffyrf.

13Achos pawb a ymarfero a llaeth, anghynefin yw a gair y cyfiownder: can ys maban yw yw.

14Eythyr y bwyd ffyrf a berthyn irei oedrannus, sef yvv ir rrai herwydd cynefinder, sy a ysynhwyr wedi ymarver y ddosparthu rrvvng da a drwg.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help