1AC e ddarvu pan oedd ef wedy myned i tuy vn or pharisaieit pēnaf ar y dydd Sabbath, i vwyta bara hwy y dysgwiliesant ef.
2A’ nycha, geir i vron ydd oedd ryw ðyn claf or dropsi.
3Yno ’r Iesu a atepodd, ac a lafarodd wrth y Cyfraithwyr, a’r Pharisaieit, can ddywedyt, Ae rhydd iachay ar y dydd Sabbath?
4A’ thewy a wnaethant wy. Yno ef ei cymerth, ac ei iachaoð, ac ei gellyngawdd ymaith,
5ac ei atepawdd hwy, gan ðywedyt, Pwy o hanoch a’s ei asin ne i ych a syrth mewn pwll, ac yn y van ny’s tyn ef allan ar y dyð Sabbath?
6Ac ny allesant wrthep yddaw am y pethae hynn.
7Ef a ddyvot hefyt parabol wrth y gohaddwyr pan ddaliawdd val ydd oeddent yn dethawl yr eisteddleoedd vchaf, ac a ddyvot wrthynt,
8Pan ith ’ohoddder gan nep i neithior, nag eistedd yn y lle pennaf, rac bot vn anrydeðusach na thi wedi ’ohawdd y canto,
9a’ dawot o hwn ath ’ohoddawdd ti ac ef, a’ doedyt wrthyr, Dyro le i hwnn, ac yno dechrae o hanot trwy gywilydd gymeryt y lle isaf.
10Eithyr pan ith ’ohoddir, dos, ac eistedd yn y lle isaf, y n y bo pan ðel yr hwn ath ’ohaddes, ddywedyt wrthyt, Y car, eistedd yn uwch i vynydd: Yno y bydd clod yt yngwydd yr ein a gydeisteddant a thi.
11Can ys pwy pynac a ymddercha, ’ostynger, a’ hwnn a ymestwng, a dderchevir.
12Yno y dyuot hefyt ef wrth hwn y gohaddesei ef, Pan wnelych giniaw nei gwynos, na ’alw dy gereint, n’ath vroder, na’th genedl, n’ath gymydogion goludawc, rac yddynt wy hefyd dy ’ohawdd dithe drachefyn, a’ chael o hanot ad‐talu ’r pvvyth y‐ty.
13Eithyr pan wnelych ’wledd, galw y tlodion, yr efryddion, yr ei anafus, a’r dailliō,
14a’ gwynvydedic vyddy, can na allant ad‐dalu ’r pvvyth y‐ty: can ys ad‐telir y pvvyth y‐ty yn‐cyuodiadigeth yr ei cyfiawn.
Yr Euangel yr ail Sul gwedy Trintot.
15¶ A’ phā glypu vn o’r ei oeð yn eisteð ar y bwrð y pethae hyn, y dyuot wrthaw, Ys gwynvydedic yr hwn a vwyty vara yn‐teyrnas Duw.
16Yno y dyuot ef wrthaw, Ydd oedd gwr a wnai gwynos mawr, ac ’ohaddawdd laweroedd,
17ac a ddanvones ey was bryd cwynos, y ddywedyt wrth yr ei gohawddedic, Dewch: can ys bot ys awrhon pop peth oll yn parot.
18A’ hvvythe oll o vn‐vryd a ddechreusont ymescusodi: Y cyntaf a ddyuot wrthaw, Mi brynais dyddyn, ac mae’n angenrhait i mi vyn’d allan a’ gweled hwnw: atolwc y‐ty, cymer vi yn escusodol.
19Ac arall a ddyuot, Mi brynais bemp iau o ychen, ac yddwyf yn myn’d i brovio y ’rhe’ini: adolwc y‐ty, cymer vi yn escusedic.
20Ac arall a’ ddyuot, Mi briodas wraic, ac am hyny ny allaf i ddyuot.
21Ac velly yr adymchwelawð y gwas hwnw, ac y menagawdd y’w arglwydd y pethae hynn. Yno y digiawdd gwr y tuy, ac y dyuot wrth y gwas, Dos allan ar ffrwst, ir heolydd ar gwigoedd y dinas, a’ dwc y mewn yma y tlodion, a’r efryddon, a’r anafuson, a’r daillion.
22A’r gwas a ddyuot, Arglwyð, e ðarvu val y gorchmynaist, ac eto y mae lle.
23Yno y dyuot yr arglwyð wrth y gwas, Dos allan ir prifffyrdd a’r caeae, a’ chympell wy y ddyuot y mywn, yn y lawnwer vy‐tuy.
24Can ys‐dywedaf wrthych na bydd ir vn a’r gwyr hyny a ’ohawddwyt chwaythy dim om cwynos i.
25Ac ydd oedd torfae mowrion yn myned y gyd ac ef, ac ef a droes ac a ddyuot wrthynt,
26A’s daw nebun at y‐vi, ac eb gasau ei dat, a’ y vam, a’ y wreic a’ y blant, a ’broder a’ chwioredd: ac eto y enaid e hun hefyt, ny ddychon ef vot yn ddiscipul i mi.
27A’ phwy bynac ny ddwc ei groc a’ dyuot ar vyol, ny ddygon ef vot yn ddiscipul i mi.
28Can ys pwy o hanoch a vei ar vedr adailiadtwr, nid eistedd yn gyntaf, a’ chyffrif y draul, a oes ganthaw ddigon y’vv ’orphen,
29rac gwedy darvot iddo ’osot y sail, ac ef eb vot yn able y’w ’orphen, dechreu o bawp oll aei hedrycho, y watwar ef,
30gan ddywedyt, E ddechreuawð y gwr hwn adailiat, ac nyd oedd e abl y ’orphen?
31Neu pa Vrenhin yn myned i wneuthu rhyvel yn erbyn Brenhin arall, nid eistedd i law ’r yn gyntaf, ac ymgygcori, a vydd ef abl a dec mil, y gyfwrdd a hwn ’s’yn dyuot yn y erbyn ef ac vcain‐mil?
32Neu tra vo yntef ym‐pell y wrthaw, ef a ddenvyn gennadwri, ac a ddeisyf arno amodeu tangneddyf.
33Velly yr vn moð, pwy pynac o hanoch, nyd ymwrthoto ac chymeint oll ar a vedd, ny aill ef vot yn ddiscipul i mi.
34Da yw ’r halen, eithyr a diflasa’r halen, a pha beth yr helltir ef?
35Nyd yw ef wrteithus nac i dir, nac i domen, and ei davlu allan a wnant. Hwn ’sy iddaw glustiae i glybot clywet.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.