1GWybydd hyn hefyt, may yn y dyddieu dywethaf y daw amsereu periclus.
2Can ys bydd dynion a’i serch arnyn y hunain, yn cupyddion, ymffrostwyr, yn veichion, cablwyr, yn anuvyddion yw rrieni, yn andiolchgar, yn ansanctaidd,
3 Digariat‐naturiol ganthynt, yn tori‐dygymbot, gaugyhuddwyr, yn rei antemperus, yn ffyrnygion, eb serch ganthynt ir ei da,
4Bradwyr, ’rei gwaydwyllt, rei bolchwydd, rei yn caru chwantach yn vwy nac yn caru Duw,
5A’ chanthynt gyfrith dywoldeb, eithyr ymwadu a’ei ’rym a wnaethont: tro ymaith gan hyny y wrth y cyfryw rei.
6Can o’r ei hyn y mae y sawl a ymluscant i daie, ac yn dwyn yn gaith wrageddos yn llwythoc o bechotae, yn arweinedic gan amravael chwāteu,
7 A’r gvvragedd hyn ynt vyth yn dyscu, ac eb allu byth dyvot y wybodaeth y gwirionedd.
8Ac megis y gwrth safodd Iannes ac Iambres Voysen, vel’y y mae yr ei hyn yn gwrthðod y gwirionedd, dynion o veddwl llygredic, yn amprovadwy erwydd y ffydd.
9Eithr ny vuddiant vvy mwyach: can ys ei hynvydrwydd vydd amlwg i bawp, megis ac y bu yr eiddynt.
10A’ thi a lwyr adwaenost vy‐dysceidaeth i, helhynt vy‐buchedd, vy‐purpos, ffydd, ammyned, cariat, dioddefgarwch,
11Ymlidiae, a’ gorthrymdereu yr ei y ðaeth i mi yn Antiocheia, yn Iconium, ac yn Lystri, yr hyn ymlidiae a ðyoddefais: eithyr o ywrthynt oll im gwaredawdd yr Arglwydd.
12Ac ys pawp a’r wyllysont vyw yn ddywol yn‐Christ Iesu, a ymlidir.
13Eithr y drwc ddynion, a’r twyllwyr aant waethwaeth, gan dwyllo, a’ chael ei twyllo.
14Eithyr aros ti yn y petheu a ddysceist, ac ith sefydlir ynthynt, yn gwybot can bwy ey dysceist:
15A’ bot y ti wybot yr Scrythuræ glan er yn vap, yr ei ’sy abl ith wneuthur yn‐ðoeth i iechedwrieth trwy’r ffydd ys ydd yn‐Christ Iesu.
16 Can ys yr oll Scrythur ys ydd wedy ei rroddi can ysprytoliaeth Duw, ac ys ydd profitiol y addyscu, y argyweddu, y correctio, ac y roi athraweth yn‐cyfiawnder,
17Mal y bo dyn Duw yn perfeith, wedy ei berfeithio i bop gweithred da.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.