Psalm 38 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Psalm .xxxviijDomine ne in furore.¶ Psalm Dauid er coffa.Boreu vveddi.

1ARglwyddd na cherydda vi yn dy lit, ac na chospa vi yn dy dddiclloneð.

2Can ys dy saethae y ddescenesant ynof, a’th law a ddescennawd arnaf.

3Nyd oes iechyt yn vy-cnawt, o erwydd dy ddigllonedd: ac nyd oes heddwch im escyrn o blegit vy-pechot.

4Can ys vy-camweddae aeth dros vy-pen, megis baich athrwm y maent yn rrydrwm arnaf.

5[Ys] pytrawdd a’ llygrawd v’archollion y gan vy ynvydrwydd.

6Im crymwyt ac im plygwyt yn ddirvawr: peunydd yn athrist y cerddwn.

7Can ys vy-clunieu y gyflawnir o boethder, ac nid van iach yn vy-cnawt.

8 Im gwanechwyt ac im dryllwyt yn dramawr: rhueis gan ovid vy-calon.

9Arglwydd yr wyf yn menegy vy oll ddeissifiat geyr dy vron, a’m vchenait nid yw guddiedic rhagot’.

10Vy-calon ys ydd yn cynnyrfu, vy nerth ys y im gadu, a’ lleuer vy llygait, ys wyntwy nyd ynt y-my.

11Vy caredigion a’m cymddeithion a safent hwyt ywrth ve-pla, a’m cyfnesafieit y safent o hirbell.

12A’r ei y geisient vy enait, y ’osodent vagleu, a’r ei a geisient vy-drygy, a ddywedent enwiredde, ac a ddychymygent ddichellion beunydd.

13A’minef val byðar ny chylywn, a’megis mutan ny ’d agorei ei enae.

14Val hyn ydd oeddwn val gwr eb glywed, ac eb argyoeddion yn ei enae.

15Can ys ynot Arglwydd ydd ymddiriedaf: ti clywy, vy Arglwydd, vy-Dew.

16Can ys dywedais, rrac yddynt lawenechu arnaf: pan lithro vy-troet yr ymvawrygant im erbyn.

17 Ys parot ytwyf y gloffi, a’m dolur ger vy-bron yn wastat.

18Pan addefaf vy cystudd, y pryderaf dros vy-pechot.

19Ac ymae vy-gelynion yn vyw yn gedyrn, a’r ei a’m casaant ar gam a liosocwyt.

20Yr ei hefyt a dalai ddrwc dros dda, vydd im erbyn, can y-my ddilyn daeoni.

21Na ad vyvi, Arglwyð: vy-Dew, nac ymbella ywrthyf

22 Brysia im cannorthwyaw, Arglwydd, vy iechyt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help