1TItheu gan hyny, vy map, ymnertha yn y rrat ys yð yn‐christ Iesu.
2A’r petheu y glyweist y cenyf’, gan lawer o testion, yr hein a roddi at ffyddlon ddynion, yr ei vyðant abl y dyscu eraill hefyt.
3Titheu gan hyny goddef‐dy‐’orthrymu megis milwr da i Iesu Christ.
4Nyd oes neb a ryvela, a ymymblyc a negeseuon y vuchedd hon, er mwyn bod yddo ryngu bodd yr hwn ydywysawdd yn vilwr.
5Ac ad ymdrech nep hefyt am gamp, ny choronir ef, dyeithr yddo ymdrech yn ddeddfol.
6 Dir yw ir llavurwr lavurio cyn nag yddaw dderbyn ffrwytheu.
7 Considera y petheu a ddywedaf: a’r Arglwydd a roddo yt’ ddyall ym‐pop dim.
8Cofia am Iesu Christ y hanoedd o had Dauid, ðarvot y gyvodi ef o veirw wrth vy Euangel i.
9Yn yr hon ydd wyf yn dyoddef trwbl mal gweithredwr‐drwc, ys hyd rwymeu: eithr gair Duw ny rwymir.
10Am hyny ydd wyf yn goddef pop peth, er mwyn y detholedigion, megis ac y gallent wytheu gaffael yr iechydvvrieth ys ydd yn‐Christ Iesu, y gyd a gogoniant tragyvythawl.
11Gwir yvvr gair, A’s meirw ydym y gyd ac ef, y byddwn hefyt vyw gyd ac ef.
12A’s dyoddefwn, ni a gydeyrnaswn hefyt ac ef: ac a’s ymwadwn ac ef, yntef hefyt a ymwad a ninheu
13A’s nyni ny chredwn, er hyny efe a erys yn ffyddlawn: ny ’all ef y wadu y hun.
14 Am y petheu hyn dwc ar gof yddynt, a’ thestialaetha ger bron yr Arglwydd, na bo yddynt ymrysont yncylch gairieu, yr hyn nyd yvv er dim llesaad, anyd er dadymchwelyd y gwrandwyr.
15Studea ar dy ’osot dy hū yn brovedic y Dduw, yn weithwr divevl, yn vniawn‐barthu gair y gwirionedd.
16 Gommedd halogion wag‐airieu: can ys cynnyddu y wnant y vwy o anwywoldep.
17A’y ymadrodd hwy a ysa val cancr: ac o’r cyfryvv rei y mae Hymenaius ac Philetus.
18Yr hein am y gwirionedd aethant ar gyfeilorn, gan ddywedyt ddarvot eisus y cyvodiadigeth, ac y maent yn dadymchwel ffydd rryvvrei.
19Eithr y mae sail Duw yn sefyll yn ddiogel, ac y mae yddo yr insel hon, Yr Arglwyð a wyr pvvy rei yw’r eiddo, ac, Ymadawet ywrth ancyfiawnder pwy bynac a ’alwo ar Enw Christ.
20Eithr mewn tuy mawr ny bydd yn vnic llestri aur ac ariant, and hefyt llestri pren a’ phridd, a’r ei i anrydedd, a’r ei i ddianrrydedd.
21 As neb gan hyny y carth y hunan ywrth y petheu hyn, efe vydd lestr i anrydedd, wedy ei sancteiddio, ac yn addvwyn ir Arglwydd, ac yn parat i bop gwaithred da.
22 Fo hefyt rrac chwanteu ieuntit, a’ dilyn gyfiawnder, ffydd, cariat, a’ thangneddyf, y gyd a’r ein y alwant ar yr Arglwydd o galon bur.
23A’ dod ymaith ynvyd ac andyscedigaidd orchestion, can wybot mai magu ymryson a wnant.
24Eithr gwas yr Arglwydd dir yw nad ymrysono, amyn bot yn dirion i bawp, yn athrawaidd, ac yn dyoddef‐ei‐ddrygu yn dda ei ortho.
25Gan ei haddyscu a’ chymedroldep yr ei gwrthwynep‐ei‐meddwl, y edrych a roddo Duw vn amser yddynt vvy ediveirwch, i gyfadnabot y gwirionedd,
26A’ bod yddynt ddyvot ir iawn allan o vagl diavol, yr ei a ddelit ganthaw wrth ei wyllys.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.