1PAul carcharawr Iesu Christ, a’n brawd Timotheus, at Philemon ein caredic gar, a’n cydweithwr,
2Ac at ein caredic chvvaer Apphia, ac at Archippus ein cydvilwr, ac at yr Eccles ys ydd yn dy duy di:
3Rat y gyd a chwi, a’ thangneðyf y can Dduw Dat, a’ chan yr Arglwydd Iesu Christ.
4Diolvvch ydd wyf im Duw, gan dy gofio yn ’oystadol yn vy‐gweddieu,
5(Wrth y mi glywet am dy gariat ath ffydd, yr hon ’sy canyt ar yr Arglwydd Iesu, ac ar ei oll Sainctæ),
6Mal y gwneler cyfraniat dy ffydd yn ffrwythlawn, a’ mal yr adwaener pa ddaioni pynac ys ydd ynoch trwy Iesu Christ.
7Can ys y mae genym lawenydd mawr a’ dyddanwch yn dy gariat ti, can ys trwyo ti, vrawt, y diddenir caloneu y Sainctæ.
8Erwydd paam, cyd bo mawr vy hyder yn‐Christ y orchymyn yty yr hyn ’sy weddus.
9 Er hyny o ran cariat gwell cenyf atolwgy yty, cyd bwyf val yr ytwyf, ys ef Paul henvvr, ac owrhon hefyt carcharor er mvvyn Iesu Christ.
10Atolygaf yty dros vy map Onesimus, yr hwn a genhedlais i yn y rrwymeu,
11Yr hwn gynt a vu yty yn amproffitiol, amyn yr awrhon yn profitiol y ti ac y minheu,
12Yr hwn a ddanvonais drathefn: a’ chymer ditheu yntef, ’sef vy ymyscaroedd vy hun,
13Yr hwn a wyllyswn i ei attal gyd a mi, mal troso ti y bysei yddo vy‐gweini i yn y rrwymeu yr Euangel.
14Eithr eb lavv dy veddwl di ny wnawn i ddim mal na byddei dy ddaioni di megis gan angen, anyd o vodd.
15Ef allei gan hyny y vyned ef ymaith dros amser, mal yd erbynyt ef yn dragyvyth,
16Nyd yr owrhon mal gwasanaethvvr, amyn uchlaw gwasanaethvvr, ’sef mal brawd yn caredic, yn enwedic y mi: pa veint mwy y ti, ac yn y cnawt, ac yn yr Arglwydd?
17A’s gan hyny y tyby yr petheu eiddom yn gyffredin, derbyn ef mal myhun.
18A’s gwnaeth ef eniwet yty, neu vot yn dy ddlet, dod hyny yn gyfrif arna vi.
19Mi Paul a scrivendodd hyn am llaw vy un: mi a dalaf‐y‐pwyth, cyd na ddywedaf yty, ydd wyt yn vy‐dlet ys am dana ty vn.
20 Do, vrawt, mwynhawy vi y ged hyn gan‐yt yn yr Arglwydd: dyhudda vy emyscaroedd yn yr Arglwydd.
21Gan ymddiriet yn dy vvyðdot, yr escrivennais atat, gan wybot y gwnai ys mwy nac a ddywedaf.
22Eb law hyn hefyt paratoa i mi letuy: canys gobeithaf trwy eich gweddieu im rroddir ychwy.
23Y mae yn dy anerch Epaphras vy cydcarcharor in‐Christ Iesu,
24Marcus, Aristarchus, Demas a’ Lucas, vy‐cydweithwyr.
25Rat ein Arglwydd Iesu Christ vo gyd a’ch yspryt, Amen.
O Ruuein yr escrivenwyt ad Philemon, ac a ddanvonvvyt trwy lavv Onesimus wasanaethvvr.
Tt.ij.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.