Psalm 60 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Psalm .lx.¶ Deus repulistinos.¶ I rhagorawl ar y Shusham Gheduth, neur Michtham. Psalm Dauid y roy dysc. Pan ymladdaddawdd ef yn erbyn Aram Naharaim, ac yn erbyn Aram tSobáh, pam ymchwelawdd Ioab a’ lladd deuddec-mil Edomiteit yn y glyn hallt.

1DEw, tafleist nyni allan, goyscereist ni, soreist: dadymchwel atam.

2Dychryneist y ddaiar, gwnaethost’ yddi agori: iacha ei brwiae, can ys escut wyt.

3Ys dangoseist ith popul pethae caledion: gwnaeth y ni yved gwin madrondot.

4[Ac yr owhon] y rroddeist benwn ir ei ath ofnant, val derchaver o bleit, wirionedd. Sélah.

5Mal y gwareder dy garedigion, cymporth ath ddeheulāw, a’ gwrandaw vi.

6Dew a lavarawdd yn ei santeiddrwydd: y llawenáf, mi barthaf Sechem, a’ mesuraf ddyffryn Succoth.

7 Y mi y, Gilead, ac y mi Manasseh: Ephraim hefyt vydd nerth vy-pen, Iudáh vy-deddfwr.

8Moab vy-golch-lestr, ar Edom y tavlaf vy escit: Palestina ymlawenha am danaf.

9Pwy am tywys ir dinas cadarn? pwy am arwein yd yn Edom?

10Any tydi Ddew, an tavlasyt ymaith, ac nid aethost’ allan, â Ddew, y gyd a’n lluoedd?

11 Dyred a phorth y ni rhac ein cyfingder: can ys gwag yw ymwared dyn.

12Trwy Ddew y gwnawn wroldep: can ys ef e a sathyr ein gelynion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help