1A’ Phan welawdd ef y dyrva, ef a escenawdd i’r monyth: a’ gwedy iddaw eistedd, y deuth eu ddiscipulon attaw.
2Ac ef agorawdd ei enae ac ei dyscawdd can ddywedyt,
3Gwyn ei byt y tlotion yn yspryt: can ys eiddynt teyrnas nefoedd.
4Gwyn ei byt yr ei galarus, can ys wynt a ddiddenir.
5Gwyn ei byt yr ei gwaredigenus: can ys wy a veddianant y ddaiar.
6Gwyn ei byt yr ei ’sy arnwynt newyn a’ sychet am gyfionder: canys wy a digonir.
7Gwyn ei byt y trugarogion: can ys trugaredd a gaffant.
8Gwyn ei byt yr ei glan o galō: canys wy a welāt Dduw.
9Gwyn ei byt yr ei tangneddefus: cans wy a elwir yn plāt Duw.
10Gwyn ei byt yr ei a erlidir er mwyn cyfiawnder, can ys eiddwynt teyrnas nefoedd.
11Gwyn eich byt pan ich an-vria dynion, a’ch erlit, a doedit pop ryw ddrwc am danoch er vy mwyn i, ac vvy yn gelwyddawc.
12Byddwch lawen a’ hyfryd, can ys mawr yw eich cyfloc yn y nevoedd: erwydd velly yr erlidiesont wy ’r Prophwyti yr ei vu o’ch blaen chvvi.
13Chwychwi yw halen y ddayar: eithyr a chollawdd yr halen ei vlas, a pha peth yr helltire? Ny thal e mwy i ddim, anid y’w vwrw allan, a’i sathry gan bawp.
14Chwychwi yw golauni ’r byd. Dinas a osodir ar vryn ny ellir hei chuddiaw.
15Ac ny ’oleuant ganwyll, aei dodi hi dan lestr, anid mewn cannwyllbren, a’ goleuo awna hi i bawp ar ys ydd yn tuy.
16Llewyrchet velly eich goleuni garbron dynion, yn y welont eich gweithredoedd da chvvi, a’ gogoneðy eich Tad yr hwn ys ydd yn y nefoedd.
17Na thybiwch vy‐dewot i y ddistrywo ’r Ddeddyf neir Prophwyti. Ny ddaethym y’w destriw, anid y’w cyflawny.
18Canys yn wir y dywedaf y chwi, Yn y ddarvo nef a’ dayar, ny phalla vn iod, na thitul or Ddeddyf, yn y gwplaer oll.
19Pwy pynac can hynny a doro ’r vn o’r gorchymynion lleiaf hyn, ac a ddysc ddynion velly, lleiaf y gelwir ef yn teyrnas nef: An’d pwy pynac a ei catwo ac ei dysco i ereill, hwnaw a elwir yn vawr yn‐teyrnas nefoedd.
20Can ys‐dywedaf ychwi, any bydd eich cyfiawnder yn ehelaethach na chyfiavvnder y Gwyr‐llen a’r Pharisaiait, nid ewch i deyrnas nefoedd.
Yr Euangel y vi. Sul gwedy Trintot.
21Clywsoch val y dywetpwyt wrth yr ei gynt, Na ladd: canys pwy pynac a ladd, euoc vydd o varn.
22Eithyr mi a ddywedaf wrthych, mae pwy pynac a ddigia wrth ei vrawt eb ystyr, a vydd ’auoc o varn. A’ phwy pynac a ddywet wrth ei vrawt, Raka, a vydd ’euoc o Gyngor. A’ phwy pynac a ddyweit, Ha ynvyt, a vydd ’euoc o dan yffern.
23A’ chan hyny a’s dugy dy rodd i’r allor, ac ynow dyvot ith cof, vot gan dy vrawt ddim yn dy erbyn,
24gad yno dy offrwm geyr bron yr allor, a’ does ymaith: yn cyntaf cymmot ath vrawt, ac yno dyred ac offrwm dy rodd.
25Cytuna ath wrthnepwr yn gyflym, tra vych ar y ffordd gyd ac ef, rac ith wrthnepwr dy roi yn llaw’r ynat, ac ir ynat dy roddy at y rhingill, a’th tavly yn‐carchar.
26Yn wir y doedaf yti, na ddauy allan o ddynow y ny thelych yr hatling eithav.
27¶ Ys clywsoch mal y dywetpwyt wrth yr ei gynt Na wna‐odineb.
28Eithyr myvi a ddywedaf, ychwy, mai pwypynac a edrych ar wreic y’w chwenychy hi, e wnaeth eisioes odinep ac yhi yn ei galon.
29Can hynny a’s dy lygat deheu ath rwystra, tyn ef allan, a’ thavl ywrthyt: can ys gwell yty, golli vn oth aylodae, na thavly dy oll corph i yffern.
30Hefeit a’s dy law ddeheu ath rwystra, tor hi y maith, a’ bwrw ywrthyt: can ys gwell i ti, golli vn oth aelodae: na bod thavly dy oll gorph i yffern.
31E a dywetpwyt hefyt, Pwy pynac a vaddeuo ei wraic, rhoed y yddi lythr‐yscar.
32An’d myvi a ddywedaf ychwi, may pwy pynac a vaddeuo ei wraic (o ddyethr o ran godinep) a wna yddi-vot yn gwneuthur godineb: a’ phwy bynac a briota hon a yscarwyt, y mae yn gwneithur godinep.
33Trachefyn, chvvi a clywsoch mal y dywetpwyt wrth yr ei o’r cynvyt, Na thwng anudon, anid taly dy dwng ir Arglwydd.
34An’d mi a dywedaf y chwi, Na thwng yn ollawl, nag ir nef, can ys eisteddva Duw ytyw:
35nag ir ddaiar: can ys mainc ei draed ydyw: nag i Caersalem: Can ys dinas y Brenhin mawr ytyw:
36Ac na thyng ith pen, can na elly wneythy ’r blewyn gwyn na duy.
37Eithyr bid eich ymadroð chvvi, Ie, ie: nag ef, nag ef. O bleit peth pynac ys y dros ben hyn, a ðaw o’r drwc.
38Clywsoch mal y dywetpwyt, Llygat am lygat, a’ daint am ddaint.
39Eithyr mi‐a ddywedaf ychwi, Na wrthleddwch ] ddrwc: anid pwy pynac ath trawo ar dy rudd ] deheu, tro ’r llall ataw hefyd.
40Ac a’s erlyn neb arnat gyfraith a’ dwyn dy bais y arnat gad iddo gahel dy gochyl hefyt.
41A’ phwy pynac ath cympello i vyned villtir, does gyd ac ef ddwy.
42Dyro i hwn a arch genyt, ac ywrth yr hwn a ewyllysei echwyno genyt, nag ymchwel y maith.
43Ys clywsoch ðarvot dywedyt, Cery dy gymydawc, a’ chasay dy elyn.
44Eithyr mi a ddywedaf y chwi, Cerwch eich gelynion: bendithiwch yr ei a’ch melltithiant: gwnewch dda ir sawl ach casaant, a’ gweddiwch dros yr ei a wnel eniwed y chwi, ac ach erlidiant,
45yn y vyðoch blāt i’ch Tad yr hwn ys y’n y nefoedd: can ys y mae ef yn peri yw haul godi ar yr ei drwc, a’r da, ac yn glawio ar y cyfiawniō a’r anghyfiawnion,
46O bleit a cherwch y sawl, ach caro, pa vvobrvvy a gewch? A ny wna ’r Publicanot yr vn ryw?
47Ac a’s byddwch garedigol i ’ch brodur yn vnic, pa ragoriaeth a wnewch? Ac a ny wna ’r Publicanot yr vn ffynyt?
48Byddwch chwi gan hyny yn perfeithion, val y mae eich Tad ysy yn y nefoedd, yn perfeith.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.