1BEllach am y petheu a scrivenesoch ataf, Da oedd i ddyn na chyfwrddei a’ gwreic.
2Anyd er hyny, y ymgadvv rac godineb, bid ei wraic i bop gwr, a bid ei gwr priod i bop gwreic.
3Roðet y gwr ir wreic gariat dylyedawl, a’r vn moð hefyt y wreic ir gwr.
4Nyd oes ir wraic veðiāt ar y chorph y hunan, anyd ir gwr: a’r vn ffynyt hefyt nyd oes ir gwr veddiant ar y gorph y hunan, anyd ir wreic.
5Na siomwch ddim y gylyð, oddyeithr o gydsynniat dros amser, val y galloch ymroi i vmprydio a’ gweddio, a’ thrachefn dyvot ynghyt rac y Satan eich temto o bleit eich ancymmesurwydd.
6A’ hyn a ddywedaf o ganiataad, ac nyd wrth ’orchymyn.
7Can ys mynnwn vot pawp megis ac ydd vvyf vi vyhun: eithr i bop vn y mae ei briod ðawn gan Dduw, i vn vellhyn, i arall vellhyn accvv.
8Am hyny y dywedaf wrth yr ei’sy eb priodi, a’r gvvragedd gweddwon, mae da yw yddynt pe’s arosent megis ac ydd vvy vi.
9Eithyr an ’ys ymgynnaliant, priodent: can ys gwell yw priodi, nac ymlosci.
10Ac ir ei priot y gorchmynaf, nyd mi, anyd yr Arglwyð, Nac ymadawet y wreic ywrth ey gwr:
11ac a’s ymedy, aroset eb priodi, neu, gymmoder hi ai gwr, ac na roed gwr ei wreic ymeith.
12Ac wrth y relyw mi ’sy yn dywedyt, ac nyd yr Arglwydd, A’s bydd vn brawd a gwreic iddo, eb iddi gredu, a’ hithe yn voddlon y drigo gyd ac ef, na wrthðodet ef y hi.
13A’r wreic y bo iddi wr eb gredu, ac ef yn voddlon y drigo y gyd a hi, na wrthddodet hi efo.
14Can ys y gwr di‐gred a sainteiddir gan y wreic, a’r wreic ddigred a saincteiddir gan y gwr, a’s amgen, e vyddei eich plant chvvi yn aflan: ac yr owrhō y maent vvy yn sainctaidd.
15Eithyr a’s yr angred‐ddyn a ymedy, ymadawet: nyd yw brawd neu chwaer yn gaeth yn‐cyfryw betheu. Eithyr Duw a’n galwodd yn‐tangneddyf.
16Can ys beth a wyddas ti, wreic, a gedwych di dy wr? Neu beth a wyddos ti, wr, a gedwych di dy wreic ai amgen?
17And megis y rhannodd Duw ddavvn i bop vn, megis y galwodd Duw bop dvn, velly y rrodiet: ac velly ddwyf yn ordeino yn yr oll Ecclesi.
18A’s galwyt nebun wedy’r enwaedy arnaw? na chascled ei ddienvvaediat: a ’alwyt nebun eb ei enwaedu? nac enwaeder arnaw.
19Enwaediat nyd yw ddim, a’ dienwaediat nyd yw ðim, anyd cadwad gorchymyneu Duw.
20Arosed pop vn yn yr vn galwedigaeth y galwodd Duw ef.
21Ai ath ti yn was ith’alwyt? na vid waeth genyt: anyd a’s gelly gael bot yn rhydd, arver yn gynt.
22Can ys hwn a ’elwir yn yr Arglwydd ac ef yn was, ’sy ’wr‐rhydd yr Arglwydd: yn gyffelyp hefyt yr hwn a ’elwir ac ef yn vvr‐rhydd, gwas Christ yw.
23Ef ach prynwyt er pridgwerth: na vyddwch weision dynion.
24Brodur, pop vn yn yr hynn y galwyt, yn hynny arosed gyd a Duw
25A’ thuac at am weryddon, nyd oes genyf vn gorchymyn gan yr Arglwyd, anyd rhoi ’r wyf gygor, val vn a gafas drugaredd gan yr Arglwydd y vot yn ffyddlawn.
26Tybiet yð wyf gan hyny vot hyn yn ða er mwyn yr angērait cydrychiol: ’sef mae da i ddyn vot velly.
27A wyt yn rhwym i wreic: na chais dy ellwng: a ellyngwyt di ywrth wreic? na chais wreic.
28Eithyr a’s gwreicy, ny phechist: ac a’s vn wyry a wra, ny pechavvdd hi: er hyny cyfryw ’r ei a gant vlinder yn y cnawt: anyd mi ach arbedaf.
29A’ hyn a ddywedaf, vroder, can vot yr amser yn vyr, rhac llaw val y bydd ir ei ’sy a gwragedd yddyn, vot vegis pei baent eb‐ddynt:
30a’r ei a wylant, megis pe baent eb wylo: a’r ei a lawenhant, val petent eb lawenhau: a’r ei a brynant val petent eb veddyannu:
31a’r ei a arverant or byt hwn val petaent eb ei arver: can ys ffurf y byt hwn a dynn ymaith.
32A’ mynnwn eich bot yn ddiofal. Yr hwn ’sy eb wreica, a ’ofala am betheu yr Arglwydd, pa wedd y rango vodd yr Arglwyð.
33A’r hwn a wreicaodd, a ’ofala am betheu ’r byd, pa wedd y rango bodd ey wreic.
34Y mae gohanieth hefyt rhwng moddion gwreic a’ gwyryf: yr hon eb wra, a ofala am betheu ’r Arglwydd, y vot o hanei yn sanctaið o gorph ac yspryt: a’ hon a wrahodd, a ’ofala am betheu ’r byt, pa wedd y rengo hi vodd ey gwr.
35A’ hyn a ddywedaf er eich lles, nyd er eich ceisio mewn magl, anyd er y chvvi ddilyn yr hyn, ysy weddus, a’ glynu yn ’lud wrth yr Arglwydd, yn ddi ’ohanedic.
36Eithr a’s tybia neb vot yn anweddus yw wyryf, ad a‐hi dros vlodae ei‐hoedran, a’ bot yn angenrait hyny, gwnaed ef a vynno, ny pecha: prioder hwy.
37And hwn a saiff yn ffyrf yn ei galon, eb angenrait arnaw, ac a meðiant ganto ar ywyllys yhun, a’bwriadu hyn yn ei galon, gadw ei wyryf, da y gwna ef.
38Ac velly yr hwn ai rhydd yw phriodi, a wna yn ða, anyd yr hwn ny’s ryð yw phriodi, a wna yn well.
39Y mae’r wreic yn rhwym wrth y Ddeddyf, tra vo byw hei gwr: and a bydd marw ei gwr, y mae hi yn rhydd i briodi ’r neb a vynno, yn vnic yn yr Arglwydd,
40Er hyny mwy gwynvydedic yw hi, a’s erys hi velly, yn vy‐barn i: ac ydd wyf yn tybieid vot imi hefyt Yspryt Duw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.