Luc 10 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. x.Ef yn anfon y dec a’ thrueain oei vlaen i precethu, ac yn ei rhybuddiaw py wedd yr ymddugant. Ef yn bygwth yr ei ayhydyn. Ef yn diolwch yw Dad nefawl. Ef yn gwrthep y Gwr‐llē ai prorawd ef, Ac wrth exempl y Samarit y mae ef yn dangos pwy’n yw cymydawe dyn. Martha yn derbyn yr Arglwydd yw thuy. Bod Mair yn chwanoc y wrando y’ air ef.Yr Euangel ddie gwyl Luc

1YN ol y pethac hyn yr ’ordeiniawð yr Arglwyð ðec a thr’ugain ereill, hefyt ac ei danvones wy pop ddau a’ dau geyr ei vron i pop dinas a’ lle, ac ydd oedd ef ar ddyvot iddo.

2Ac ef a ddyvot wrthwynt, Y cynayaf y sy ampl, a’r gweithwyr yn anaml: gwediwch gan hynny ar Arglwydd y cynayaf, ar ddanvon gweithwyr y’w gynayaf.

3Cerddwch ymaith: nycha mi ach danvonaf mal wyn ymysc bleiddiae.

4Na ddygwch vn god nac yscrepan, nac escidiae, ac na chyverchwch well i nep ar y ffordd.

5Ac i pa duy pynac ydd eloch, yn gyntaf dywedwch Tangneddyf ir tuy hwnn.

6Ac a’s bydd yno vn map tangneðyf, e a ’orphwys eich tangneðyf arno: ac anid ef, atoch yd adymchwel.

7Ac yn tuy hwnw aroswch yn ’oystat gan vwyta, ac yvet gyfryw bethrae a ddodant geir eich bronn: can ys teilwng ir gweithwr ei gyfloc.

Na cherddwch o duy y‐duy.

8Ac y ba ddinas bynac yð eloch ymevvn, a’s wy a’ch derbyniāt, bwytewch cyfryw bethe ac a osoter geir eich bron,

9ac iachewch y cleifion a vo ynddei, a’ dywedwch wrthynt, Nesaoð teyrnas Duw atoch.

10Eithr i ba ðinas bynac yd eloch ymyvvn, ac any ’ch derbyniant, ewch ymaith allā yw heolyð hi a’ dywedwch,

11Ys ef y llwch, yr vn a ’lyn wrthym o’ch dinas, a ddysychwn o ddywrthym yn eich erbyn chvvi: er hyny gwybyddwch hyn, ddarvot i deyrnas Duw nesau atoch.

12Can ys dywedaf wrthych, mai esmwythach vydd yn y dydd hwnw ir ei o Sodoma, nac ir dinas hono.

13Gwae dydi Chorazin: gwae dydi Beth‐saida: can ys pe’s gwneythesit yn‐Tyrus a’ Sidon y gwyrthiae a wnaethpwyt yn y‐chwi, hwy gynt oll a ediveiriesent, gan eistedd mewn lliainsach a’ lluto.

14Am hyny y bydd esmwythach i Tyrus a’ Sidon, yn y varn, nag i chwi.

15A’ thi thef Capernaum, yr hon ath dderuchefir yd y nefoedd, a ddescendir i lawr yd yn yffern.

16Y nep a’ch clyw chvvi, a’m clyw i: a’r nep a’ch gommedd chvvi, a’m gommedd i; a’r nep a’m gomedd i, a’ ommedd yr vn am danvnawdd i.

17A’r dec a’ thrucain a ddadymychwelesont y gyd a llewenydd, gan ddywedyt, Arglwydd, ys y cythraulieit a ddarystyngir i ni yn dy Enw di.

18Ac ef a ddyuot wrthynt, Mi welais Satan megis lluchet, yn cwympo y lavvr o’r nef.

19Nycha, vi yn roddy y‐chwy veddiant y sathru ar seirph ac y scorpionae, ac ar bop meddiant y gelyn, ac ny’s briw dim chwi.

20Eithyr, yn hyn na lawenhewch, can ys darystyngir ysprytion ychwi: and llawenhewch yn vwy, achos yscrivenwyt eich enwae yn y nefoedd.

21Ac yn yr awr hono yr ymlawenychawð yr Iesu yn yr yspryt, ac y dyuot, Cyffessaf yty, Dad, Arglwydd nef a’ dayar, can ys cuddiaist y pethae hynn rac y doethion, a’r ei dyallus, ac ei dadgudiaist ir ei bychain: do, Dad, can ys velly y rhyngei bodd i ti.

22Yno y troes ef at ei ddiscipulon, ac y dyuot, Oll pethe a roddwyt i mi y gan vy‐Tad: ac ny wyr nep pwy ’yw’r Map, oddyeithyr y Tat: na phwy ’n yw’r Tat, oddyeithr y Map, a’r hwn a ewyllysio’r Map y egluraw ef iddo.

Yr Euangel y xiij. Sul gwedi Trintot.

23Ac ef a droes at ei ddiscipulon, ac a ddyuot yn ddirgel, Gwyn ei byt y llygait a welant y pethae a wel‐y-chwi.

24Can ys dywedaf y chwy, may llawer o Prophwyti a’ Brenhinedd a vysei dda gantynt weled y pethae a welw‐chwi, ac ny’s gwelsant: a’ chlywed y pethae a glywch, ac ny’s clywsant.

25Ac, vn o’r cyfreithwyr yn cody yn ei sefyll, ac yn y demtiaw ef, can ddywedyt, Athro, pa beth a wnaf cr etiveddu bywyt tragyvythawl?

26Ac ef a ddyvot iddaw, Pa beth a escrivennwyt yn y Dddeðyf? pa wedd y darlleny?

27Ac ef atepoð ac a ðyvot, Car dy Arglwyð ðuw ath oll calō, ac ath oll enait, ac ath oll nerth, ac ath oll veddwl, ath cymmydawc mal tuhun.

28Yno y dyvot ef wrthaw, Atepeist yn vniawn: gwna hynn, a’ byw vyddy.

29Eithyr ef yn ewyllsiaw ymgyfyawnhay y hun, a ðyvot wrth yr Iesu, A’ phwy yw vyg‐cymydoc?

30A’r Iesu a atepawdd ac a ddyvot, Ydd oedd ryw ðyn a ddescenawdd o Gaerusalem i Iericho, ac a syrthiawdd ymplith llatron, ac wy ei espeiliesant oei ddillat, ac ei archollesont ef, ac aethant ymaith, can ei ady yn lledvarw.

31Ac o ddamwain y daeth y wared y ffordd hono ryw Offeiriat, a’ gwedy iddaw ei ganvot, ef aeth heibiaw o’r tu arall.

32A’r vn modd y Leuit, gwedy ddyvot yn agos at y lle, aeth ac a edrychawdd arnavv, ac aeth heibiaw or tu arall.

33Yna ryw Samarit, wrth ymddaith, a ddeuth yn agos attaw, a’ phan ei canvu, e dosturiawdd wrthaw,

34ac aeth attaw, ac a rwymoð ei archollion, ac a dywalldawdd ynthwynt oleo a’ gwin, ac ei dodawdd ar ei yscrupl ehun, ac ei duc y letuy‐cyffredin, ac ei ymgleddawdd.

35A’ thranoeth wrth vyned ymaith, ef a dynnawdd allan ddwy geiniawc, ac ei rhoddes ir lletuywr, ac a ddyvot wrthaw, Cymer ei gur ef, a ’pha beth pynac a draulych angwanec, pan ddelwyf drachefyn mi ei talaf y‐ty.

36Velly pwy vn o’r tri hynn, ith tyb di, oedd gymmydawc y hwn a syrthiawdd ymplith y llatron?

37Ac ef a ddyvot, Hwn a wnaeth drugaredd ac ef. Yno ’r Iesu a ddyvot wrthaw, Cerdda, a’ gwna dithe yr vn ffynyt.

38Yno y darvu a hwy yn ymddaith ac ef aeth i ryw dref, a ryw wreic ai henw Martha y derbyniawdd ef y’w thuy.

39Ac yddi yr oedd chwaer a elwit Mair, yr hon hefyt a eisteddawdd wrth draet yr Iesu, ac a glywei i breceth ef.

40A’ Martha a drallodit yn cylch ampl wasanaeth, ac a ddeuth attaw, ac a ddyuot, Arglwydd, anyd oes nes gofal genyt, can im chwaer vy‐gadael vy hunan i wasanaethu? Arch yddi gan hyny, yn y chymportho vi.

41A’r Iesu a atepawð ac a ðyuot wrthei Martha yddwyt yn gofalu ac ith tral’odir yn‐cylch llawer o pethae.

42Ac vn‐peth ’sy anghenreidiol, a’ Mair a ddetholes y rhan dda, yr hyn ny ddugir odd y arnei.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help