Gweledigeth 12 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xij.1 Ymddangos a wnaeth yn y nef gwreic gwedy ymwisco a’r haul. 7 Mihacael yn ymladd ar ddraic, yr hwn ’sy yn ymlid y wreic. 11 Cahel y vuddygoliaeth trwy conffort y ffyddlonieit.

1A Rryfeddod mawr y ymddangosoedd yn y nef: Gwreic gwedy ymwisco ar haul, ar lleyad oedd dan y thraed, ac ar y phen coron o ðeyddec seren,

2Ac yrodoedd hi yn veichioc ac hi lefoeð dan dravaylu ar y thymp, a hi ddolyrioed yn barod y gael yscar llaw.

3A’ rryveddod arall ymddangosoedd yny nef, a’ synna, dreic coch mawr a seith pen yddo, a dec corn, a’ seith coron ar y penney:

4Ae gynffon ef y dynoedd trayan ser y nef, ac y bwroedd hwynt yr ddayar. Ar ddreic y safoedd gair bron y wreic, yr hon ydoedd yn barod y ga el yscar llaw, y vwytta y phlentyn hi, yn hwy nac y genyd ef,

5A’ mab‐wr y aned yddi, yr hwn y rreoley yr holl nasioney a gwialen hayarn: ay mab y gymerspwyd y vynydd at Ddyw ac at y eisteddle ef.

6Ar wreic y giloedd yr diffeyth lle may gyfle gwedy Ddyw y barottoi yddi, mal y gal’ent y phorthi hi yno mil o ddiwarnodey a thrigen a doy cant.

Yr Epistol ar ddydd Mihacael.

7A’ rryfel oedd yny nef, Mihangel ae Angylion ef ymladdasant yn erbyn y dreic, ar dreic ymladdoedd ef ae Angylion ef.

8Ac ny chawsont y llaw yn ycha, ac ny chafad y lle hwynt o hyny allan yn y nef.

9A’ bwrw allan y wneythpwyd y dreic mawr, yr hen sarph, yr hwn y elwir y cythrel, a’ Satan, yr hwn ysydd yn twyllo yr holl vyd: ys y vwrw y wneythpwyd ef yr ddayar, ae Angylion y vwrwyd allan gydac ef.

10Yno mi glyweis lleis ywchel, yn dwedyd, Yrowron y mae iechid yn y nef, a’ grym, a thyrnas yn Dyw ni, a gallu y Grist ef: can ys cyhyddwr yn brodyr ni y vwrwyd yr llawr, yr hwn ydoedd yn y cyhyðo hwynt gair bron yn Dyw dydd a’nos.

11Ac hwy gortrechasant ef trwy waed yr Oen, a’ thrwy geir y testolaeth hwynt, ac ny charasant y bowyd hed at marw.

12Am hyny, llawenhewch, y nefoedd, a’r sawl ydynt trigadwy ydynt hwy. Gwae yr rrei ydynt trigadwy yn y ddayar, a’r mor: cans y cythrel y ddiscynoedd attoch chwi, yr hwn y sydd a llid mawr gantho, herwydd gwybod nad ydiw y amser ef ond byrr.

13A’ phan gwelas y ddreic y vwrw yr ðayar, ymlid y wnaeth ef y wreic y ddygoedd y mab yr byd.

14A dwy adein eryr mawr y rroed yr wreic, yddi hedfan yr diffeth, yddy lle, ddys yny magi hi dros amser, ac amseroedd, ac hanner amser, rrac wyneb y sarph.

15Ar sarph y vwroedd oe safn allan ar ol y wreic ddwr mal llifddvvr, ar veder cael y dwyn hi ffwrð gan y llifddvvr.

16A’r ddayar y cynorthwyoedd y wreic, ar tir agoroeð ei geneu, ac y lyngcoeð y llifddvvr, yr hwn y vwroedd y ddreic allan oe safn.

17A’ llidio a oruc y ddreic yn erbyn y wreic, a’ myned y wnaeth ef y rryfely yn erbyn gweddillion y hilogaeth hi, yrrein ydynt yn cadw gorchmyney Dyw, ac ysydd a thystolaeth Iesu Christ ganthynt.

18Ac mi sefeis ar draethey mor.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help