Ruueinieit 7 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. vij.Mwyniant y Ddeddyf, A’ megis in gwaredawdd Christ rhagddei. Gwendit y ffyddlonion. Yr ymladd periclus rhwng y cnawt a’r Yspryt.

1ANy wyddochvvi, vroder, (wrth wybyddieit y Ddeddyf y dywedaf) yr arglwyddia y Ddeðyf ar ðyn tra vo ef byw?

2Can ys y wraic ’rhon ’sy y dan lyvvodreth gwr, ’sy yn rhwym wrth y Ddeðyf i’r gwr, tra vo e byw: anid a bydd marw y gwr, hi ryddhawyt y wrth ðeðyf y gwr.

3Ac velly a’s a’r gwr yn vyw y cymer hi hi wr arall, hi elwir yn ’odinabus: eithr a’s marw vydd y gwr, mae hi yn rhyð y wrth y Ddeðyf val nad yw hi yn ’odnebus, er cymeryd o hanei wr arall.

4Ac velly chvvithe vy‐broder, ydych wedy meirw ir Ddeðyf gan gorph Christ, val y byðech i vn arall, sef i hwn a gyfodwyt o veirw, val y dygem ffrwyth y Dduw.

5Can ys pan oeddem yn y cnawd, gwniae pechotae, yr ei n oedd drwy nerth y Ddeddyf, vyddent‐mewn‐grym yn ein aelodae, y ddwyn ffrwyth i angeu.

6Ac yr awrhon in rhyddhawyt ywrth y Ddeddyf, gwedy ein meirw ir peth in attalit, val y gwasanaethem yn newyðeb Yspryt, ac nyd yn hendeb y llythyren.

7Beth gan hyny a ddywedwn? Ai pechot yvv’r Ddeddyf? Ymbell oedd. Eithyr nyd adnabum i pechot, anyd wrth y Ddeðyf: can nyd adnabeswn i drachwant any ddywedesei ’r Ddeðyf, Na chwenych.

8Ac a gymerth pechawt achos gan y gorchymyn, ac a weithiawdd ynof bop trachwant: can ys eb y Ddeðyf, ys marw pechot.

9Can ys mi a vum gynt yn vyw eb y Ddeðyf: and pan ðaeth y gorchymyn yr advywiodd pechot. A’ mi a vum varw:

10a’r gorchymyn hwn a arlvvyesit i vywyt, a gahad y vot i mi yn angeu.

11Canys pechot a gymerth achos trwy ’r gorchymyn, ac am twyllawð, ac wrth hyny im lladdawdd.

12Ac velly sanctaidd yw’r Ddeddyf, a’ sanctaidd yw’r gorchymyn, a’ chyfiawn, a’ da.

13Can hyny a wnaethpwyt y peth oedd dda, yn angeu i mi? Na ato Duw: eithyr pechot, er iddo ymddangos yn bechot, a weithiawdd angeu ynof trwy yr hyn ysy yn dda, val y byddei pechot yn dra phechadurus trwy’r gorchymyn.

14Can ys gwyðam vot y Ddeddyf yn ysprytawl: a’ minef y n gnawdawl, wedy vy‐gwerthu y dan bechawt.

15Can nad cymradwy genyf yr hyn wyf yn y wneuthur: can ys hyn y wyllyswn, hyny nyd wyf yn y wneuthur: eithyr ysy gas genyf, hyn y r ’wyf yn ei wneuthur.

16Ac ad wyf yn gwneuthur yr hyn nyd wyllyswn, ydd wyf yn cydsynio a’r Ddeddyf y bot hi yn dda.

17Velly yr owon, nyd myvi ’sy mwy yn gwneuthur hyny, amyn y pechawt ysy yn trigiaw yno vi.

18Can ys gwn, nad oes yno vi, ys ef yn vy‐cnawd i, ddim da yn trigiaw: o bleit yr wyllysio ysy gydrichiol genyf: eithyr nad wyf yn medry cwplau yr hyn ’sy dda.

19Cannad wyf yn gwneuthur y peth da, a ewyllyswn, anyd y drwc rhwn nyd wyllyswn, hyny ddwyf yn y wneuthur.

20Velly a’s gwnaf, yr hynn nyd wyllysia vi, nyd myvi aei gwnaf, anyd, y pechat rhwn a drig ynof.

21Ydd wyf gan hyn yn cahel wrth y Ddeðyf, pan wyllyswn wneuthur da, vot y drwc yn gynnyrchiol genyf.

22Can ys y mae yn hoff genyf Ddeðyf Duw erwydd y dyn o ddy mywn:

23eithr gwelaf Ddeddyf arall yn vy aelodeu, yn gwrthladd Deddyf vy meddul, ac im caethiwo i Ddeddyf pechot, yr hon ’sydd yn vy aelodae.

24Ys truan o ðyn vvy vi, pwy am gwared ywrth y corph yr angae hwn?

25Ydd wyf yn diolvvch y Dduw trwy Iesu Christ ein Arglwydd. Sef gan hyny ydd wy vinef yn vy meðwl yn gwasanaethu Deðyf Duw, anyd yn vy‐cnawt Ddeddyf pechat.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help