1VElly nineu can hyny megis yn gydweithwyr a atolygwn yvvch, na dderbyniochvvi rat Duw yn over.
2Canys dywait ef, Yn amser cymradwy ith erglywais, ac yn‐dydd iachydvvrieth ith ganhorthwyais: wely’r awrhon yr amser cymeradwy wele’r awrhon ddydd yr iechedvvrieth.
3Nyd ym ni yn rhoi vn achos tramcwydd yn‐dim, rac cael bei ar ein gweinidogaeth.
4Eithyr ym‐pop peth ydd ym yn eiu provi ein hunain val yn wenidogion Duw, yn ammynedd mawr, yn gorthrymderae, yn anghenion, yn‐cyfyngderae,
5yn-gwialenodae, yn‐carcharae, yn‐tervysce, yn‐travaelion, gan wiliaw, gan vmprydiaw,
6gan burdep, gan wybyddieth, gan hirddyoddef, gan diriondeb, gan yr Yspryt glan, gan gariat diffuātus
7gan’ air gwirionedd, gan nerth Duw, gan arvae cyfiawnder ar ddeheu ac aswy,
8gan barch, ac amparch, gan glod ac ac anglod, megis twyllwyr, ac er hyny yn gywir:
9megis yn anadnabyddus, ac er hyny yn adnabyddus: megis yn meirw, ac wele ni yn vyw: megis wedy ein cospi, ac nyd wedy ’n lladd:
10megis yn dristion, ac eto yn ’oestat yn llawen: megis yn dlodion, ac eto yn cyfoethogi llawer: megis eb ddim cenym, ac eto yn meddyannu pop dim.
11Chvvi Corinthieit y mae ein geneu yn agoret ychwi: ein calon a ehengwyt.
12Ni’ ch cadwyt yn cyfing ynom ni, eithr ich cadwyt chwi yn gyfing yn eich ymyscaroedd eich vnain.
13Yrowon yn lle taliad, y dywedaf vegis wrth vy meibion. Ehenger chwithe hefyt.
14Nac iauer‐chwi yn ancymparus gyd a’r anffyddlonion: can ys pa gymddeithas ’sydd i wiredd ac anwireð? a’ pha gommun ’sydd y ’oleuni a thywyllwch?
15a’ pha gyssondeb ys ydd i Christ a Belial? neu pa ran’sydd i hwn a gred gyd a’r hwn ’sy eb ffyð?
16a’ pha gydfot ’sydd i Templ Dduw ac eiddoleu? can ys chwi yw Templ Dduw byw: val y dyvod Duw, Preswiliaf ynthwynt, ac a rodiaf yn y mewn: a’ byddaf yn Dduw yddwynt, ac hwy vyddant yn popul y mi.
17Can hyny dewch allan oei plith wy, ac ymohanwch, medd yr Arglwydd: ac na chyhwrddwch ddim aflan, a’ mi ach derbyniaf chvvi.
18A’ byddaf ywch yn Dat, a’ chwi vyddvvch yn veibion ac yn verchet i mi, medd yr Arglwydd oll gyvoethawc.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.