Matthew 18 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xviij.Y mwyaf yn terynas nef. Ef yn dyscy ei ddiscipulon y vot yn uvyddyon ac yn ddiniwed. Ymoglyd rhac achosiaw drwc. Na thremyger yr hai bychain. Paam y daeth Christ. Am gosp broderawl. Am awturtot yr Eccles. Moliant gweddi a’ chynulleidfae dwywol, Am vaddeuant brawdol.Yr Euangel ar ddydd Mihacael.

1YR amser hynny y deuth y discipulon at yr Iesu, can ddywedyt, Pwy ’sy vwya yn‐teyrnas nefoedd?

2A’r Iesu a alwawdd ataw vachcenyn, ac ei gosodes yn ei cyfrwng,

3ac a ðyvot, Yn wir y dywedaf wrthych, a ddieithyr eich ymchwelyt, a’ bot mal bachenot nid ewch i deyrnas nefoeð.

4Pwy bynac can hyny a ymestyngo mal y bachcenyn hwn, hwnw yw’r mwyaf yn‐teyrnas nefoedd.

5A’ phwy pynac a dderbyn gyfryw vachcenyn yn vy Enw, a’m derbyn i.

6A’ phwy bynac a rwystro vn or ei bychein hynn a credant yno vi, gwell oedd, iddaw pe crogit maē melin am ei vwnwgl, a’ ei voddy yn eigiawn y mor.

7Gwae’r byt o bleit rhwystrae: can ys angenreit yw dewot rhwystrae: er hyny gwae’r dyn hwnw. y gan yr vn yd ef y rhwystr.

8Can hyny a’s dy law nai dy droet ath rhwystra, tor wy ymaith, a’ thavl y wrthyt: gwell yw yty vynet i vywyt, yn gloff, ai yn anafus, nath tavly ac yty ddwy law, a’ dau droet i dan tragavythawl.

9Ac a’s dy lygat ath rwystra, tynn allan, a’ thavl y wrthyt: gwell yw yty vynet i vywyt ac vn llygat, na’c a dau lygat, dy davly i dan yffern.

10Gwelwch na thremygoch yr vn o’r ei bychein hynn: canys dywedaf y chwi, pan yw yn y nefoeð vot y Aggelō wy bop amser yn gwelet wynep vy‐Tat yr hwn ys y yn y nefoedd.

11Can ys daeth Map y dyn i gadw yr hyn a gollesit.

12Beth a dybiwchvvi? A’s byddei i ddyn gan davat, a’ myned o vn o hanynt ar ddisperot, a ny ad ef y namyn vn pemp ugain, a’ myned ir mynyddedd a’ cheisio yr hon aethesei ar ddysperot?

13Ac a’s byð yddo y chael hi, yn wir y dywedaf y‐chwi, mae mwy llawen yw ganthaw am y ddavat hono, nag am y namyn vn pemp vcain nyd aethent ar ddispirot.

14Velly nid yw ewyllys eich Tat ysy yn y nefoedd, bot cyfergolli yr vn or ei bychainhyn.

15Eb law hyny a’s pecha dy vrawt ith erbyn, does, a’ cherydda ef ryngot ac ef wrth y vn: a’s ef ath wrendy, enilleist dy vrawt.

16Ac as ef ni’th wrendy, cymer gyd a thi eto vn nei ðau, val y bo gan enae dau nei dri o testion ally sefyll o bop gair.

17Ac a’s ef ny bydd gwiw gantaw eu gwrandaw, dywait wrth yr Eccleis: ac a’s ef ny vynn wrandaw ’r Eccleis chwaith, bit ef y‐ty megis Cenedlic a Phublican.

18Yn wir y dywedaf, ychwi, Pa bethe pynac a rwymoch ar y ddaiar, a rwymir yn y nefoedd, a’ pha bethae bynac a ellyngwch ar y ddaiar, a ellyngir yn y nef.

19Trachefyn, yn vvir y dywedaf wrthych, a’s cydsynnia dau o hanoch yn y ddaiar ar ddim oll, beth bynac ar a archant, y rhoðir yðynt y gan vy‐Tat yr hwn ’sy yn y nefoedd.

20Can ys ymp le pynac ydd ymgynnull dau n’ei dri, yn vy Enw i, yno ydd wyf yn ei cenol wy.

Yr Euangel y xxij. Sul gwedy Trintot.

21¶ Yno y daeth Petr ato ef, ac a ddyvot, Arglwydd, pa sawl gwaith y pecha vy‐brawt im erbyn, ac y maddeuaf yddaw? ai yd seithwaith?

22Yr Iesu a ddyvot wrthaw, Ny ddywedaf y‐ty, yd seithwaith, anid yd seithwaith ddecwaith seithwaith.

23Am hynny y cyffelypir teyrnas nefoedd i ryw Frenhin, pwy vynnei gael cyfrif can ei weision.

24A’ phan ddechreysei gyfrif, e dducpwyt vn attaw, a oedd yn ei ddylet o ddec mil o talentae.

25A’ chā nad oeð ganto ddim oei daly, e ’orchymynawdd ei Arglwydd y werthy ef, a’ ei wreic, a’ ei blant, ac oll a veddei, a’ thaly yr ddlet.

26A’r gwas a gwympawdd i lawr, ac atolygawdd iddaw, can ddywedyt, Arglwydd, oeda dy ddigoveint wrthyf, a’ thalaf y‐ty y cvvbl oll.

27Yno Arglwydd y gwas hwnw a drugarhaodd wrtho, ac ei gellyngawdd, ac a vaddeuawdd iddaw y ddled.

28A’ gwedy myned y gwas ymaith, e gavas vn oe gyveillion, yr hwn oedd yn y ddlet ef o gant ceiniawc, ac a ymavlawdd yntaw ac ei llindagawdd, gan ddywedyt, Tal i mi dy ddlet.

29Yno y syrthiawdd ei gyfeill wrth y draet ef, ac a atolygwadd yðaw, can ddywedyt, Oeda dy ddigoveint wrthyf, a’ thalaf y‐ty y cvvbyl oll.

30Ac ny’s gwnai ef, anyd myned a’ ei vwrw ef yn‐carchar, y ’n y dalei yr ðlet.

31A’ phan weles ei gyveillion ereill y pethau a ddaroedd, ydd oedd yn ddrwc dros pen ganthwynt, ac a ddeuthant, ac a vanegesant y ew h’ arglwydd yr oll pethae a ddarvesynt.

32Yno y galwawdd ei Arglwydd arnaw, ac a ddyvot wrthaw, A was drwc, maddeueis yty yr oll ddyled, can yty weddiaw arnaf.

33Ac a ny ddylesyt tithe tosturiaw wrth dy gyfeill, megis ac y tosturiais i wrthy ti?

34A’ llitiaw a wnaeth ei Arglwydd, ac ei rhoddes ef ir poenwyr, y’n y dalei ei holl ddylet iddaw.

35Ac velly yr vn ffynyt y gwna veu nefawl Dat i chwithae, any vaddeuwch o’ch calonae, pop vn y’w vrawd eu camweddae.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help