1AC vn o seith Angel oeð ar seith phiol gantho y ðoeth, ac ymchwedleyoeð a mi, dan ðwedyd wrthyf, Dyred: mi ðangosaf ytti ðamnedigeth y butten vawr ysydd yn eistedd ar lawer o ddyfroedd,
2Gyda’r hon y mae brenhinoeð y ddayar gweðy godineby a deiled y ddayar gwedy meddwi a gwin y godineb hi.
3Ac ef ymdygoedd yn yr ysbryd yr diffeith, ac mi weleis gwreic yn eistedd ar enifel vn lliw ar scarlla, yn llawn o enwey enllibiys, a seith pen gantho a dec corn.
4Agwisc y wreic oedd pwrpwl a’ scarlla, a goreyred ac aur, a mein gwerthfor, a’ pherle, a chwppan aur oedd ganthi yny llaw, yn llawn o wrthweyneb a brynti y godineb hi.
5Ac yny thalcen yrydoedd enw yn escrifenedic, Dirgelwch, Babylon vawr, mam pytteindra, a gwrthweynebe yr ddayar.
6Ac mi weleis y wreic yn veddw gan waed y Seint, a’ chan waed Merthyron Iesu: a’ phan y gweleis hi, mi rryveddeis a’ rryvedd mawr:
7Ar angel y ddwad wrthyf, Pa ham yrwydd yn rryfeddu? mi dangosaf yt ðirgelwch y wreic, a’r enifel ysyð yny dwyn hi, yr hwn ysydd a seith pen gantho, a dec corn.
8 Yr enifel y weleist, y vu, ac nid ydiw, ac ef y ddaw y vynydd or pwll heb waylod, ac ef eiff y ddinystraeth, a’ deiled y ddayar, y rryfeddant (enwey y rrein nyd ynt yn escrivennedic mewn Llyfr y bowyd er dechrey’r bud) pan edrychant ar yr enifel yr hwn ydoedd, ac nyd ydiw, ac eto y mae.
9Ll’yma’r meddwl ys ydd a doethinep gantho. Y seith pen seith mynydd ydynt, ac yrrein ymaer wreic yn eiste, ymaent hevyd yn seith Brenin.
10Pymp y syrthioedd ac vn ysydd, ac arall ysydd heb ddyfod etto: a’ phan y ddel ef, rreid yddo parhay ychydic o amser.
11Ar enifel yr hwn y vu, ac nyd ydiw ys efe ywr wythfed, ac y mae yn vn or seith, ac ef eiff y ðinystraeth.
12A’r dec corn y weleist, dec Brenin ydynt, yrrein ny chawsont etto vrenhiniaeth, ond hwy gant gallu mal Brenhinoedd mewn vn awr gydar enifel.
13Yrrein ysydd ar vn meddwl ganthynt, ac hwy rroddant ey gallu, ae awdurdod yr enifel.
14Yrrein y ymladdant ar Oen, a’r Oen a gorchfyga hwynt: cans ef ydiw Arglwydd arglwyddi, a Brenin brenhinoedd, a’r rrey ysydd ar y rran ef, hwy a elwid ac y ddetholwyd, a’ ffyddlawn ynt.
15Ac ef y ddwad wrchyf’, Y dyfroedd y weleist, lle mae’r bytten yn eiste, pobl ydynt, a’ thyrfae, a nasioney ac ieithioedd.
16A’r dec corn y weleist ti ar yr enifel, yrrei ydynt y gasha y buttein, ac y gwna hi yn vnic ac yn hoeth, ac hwy y vwyttant y chig, ac y llosgant hi a than.
17Cans Dyw rroedd yny caloney y gyflawni y ewyllys ef, ac y wneithur trwy gyfvndeb, ac y roi y teirnas yr enifel, hed yn gyflewnir ’eiriey Dyw.
18A’r wreic y weleist, y gaer vawr idiw, yr hon y sydd yn teirnasu ar Brenhinoedd y ddayar.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.