1ARglwydd, buost’ yn breswyl y-ni, o genedlaeth y genedlaeth.
2Cyn gwneuthur y mynyðed yty ffurfiaw y ddaiar, a’r byt, ys er yn oes oesoedd Dew ytwyt.
3Ydd wyt yn dychwelyt dyn y ðinistr: dywedy hefyt, Dychwelwch, veibion Adda.
4Can ys mil o vlyddynedd yn dy ’olwc val doe gwedy yr el heibio, a’ gwylfa liw nos.
5Llifeiriaist drostynt, hun ytynt: y boreu y tyf ef mal y gwellt.
6Y borae y blodena ac y tyf, eithr prydnawn y torir e y lawr ac y gwywa.
7Can ys in divéir y gan dy soriant, a’ chan dy var in cynnyrvir.
8Gosodeist ein camweddae rac dy vron, a’n dirgel bechotae yn-golauni dy wynep.
9Can ys ein oll ddyddieu y ddarvuant yn dy ddicter: trauliesam ein blyddynedd megis lleferydd.
10 Dyddyae ein blyddyneð decblwydd a’ thrugein, ac as byddant o gryfder, petwarugein-blwydd: ac nid yw ei nerth anid llafur a’ phoen: canys ebrwydd y deryw, ac ydd hedwn ymaith.
11Pwy a edwyn nerth dy soriont? can ys mal dy ofn y mae dy ddigoveint.
12Dysc y ni velly gyfri ein dyddiae mal y ducom y ein calon ddoethinep.
13Dymchwel (Arglwydd yd pahyd?) ac ymheddycha ith weision.
14Cyflawna ni y boreu ath drugareð: yno y’byðwn lawen a’ hyfryd ein oll ddyddiae.
15Dyddana ni erwyð y dyddiae in cystuddieist, ac erwyð y blyddynedd y gwelsam ddrwc.
16Gweler dy waith ith weision, ath ’ogoniant ar y plant hwy.
17A’ bid prydverthwch yr Arglwydd ein Dew arnam, a’ threfna weithred ein dwylo arnam, ys trefna weithred ein dwylaw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.