1AC ef a elwis ei ddauðec discipul ataw, ac a roddes y ddyn veddiant yn erbyn ysprytion aflan, yw tavly wy allan, ac y iachay pop haint a’ phop adwyth.
2Ac enwae y dauddec Apostolion yw’r ei hyn. Y cyntaf Simon, a elwit Petr ac Andreas ei vrawt: Iaco vap Zebedeus, ac Ioan ei vrawt.
3Philip a’ Bartholomeus: Thomas a’ Matthew y Publican: Iaco vap Alpheus, a’ Lebbeus a’ ei gyfenw yn Thaddaeus:
4Simon y Cananit, ac Iudas Iscariot yr hwn hefyt y bradychawdd ef.
5Y dauddec hyn a ddanfonawdd yr Iesu ymaith, ac a ’orchymynawdd yddwynt, gan ddywedyt, Nag ewch i ffordd y Cenedloeð, ac i ddinasoedd y Samarieit nag ewch y mewn:
6anyd ewch yn hytrach at gyfergolledic ðefeit tuy Israel.
7Ac wrth vyned precethwch, gan ðywedyt, Y mae teyrnas nef wedy dynesau yn agos.
8Iachewch y cleifion, glanewch yr ei clawr: cyfodwch y meirw: bwriwch allan gythreulieit. Yn rrat yd erbyniesoch, yn rat rhowch.
9Na veddwch ar aur, nag ariant, nac efydd yn eich gwregysae,
10nag yscrepan ir daith, na dwy bais, nag escidiae, na ffon: can ys teilwng ir gweithwr ei vwyt.
11Ac i pa ddinas pynac nei dref yd eloch, ymofynwch pwy ’sydd teilwng yn‐ddi, ac ynaw trigwch yn yd eloch o ddyno.
12A’ phan ddeloch i duy anerchwch ef.
13Ac a bydd y tuy yn teilwng, dauet eich tangneddyf arnaw: ac any bydd yn deilwng, ymchwelet eich tangneddyf atoch.
14A’ phwy pynac a’r ny’s derbyn chwi, ac ny chlyw eich gairiae, pan ymadawoch o’r tuy hvvnvv nei ordinas hono, escutwch y llwch ywrth eich traet.
15Yn wir y dywedaf y chwi, y bydd esmwythach ir ei o dir Sodom a’ Gomorrha yn‐dydd brawd nag ir dinas hono.
16¶ Nycha, ydd wy vi yn eich danvon mal defeit ynghenol bleiddiae: byddwch am hynny ddoethion mal seirph, a’ gwirion mal colombenot.
17Eithr ymogelwch rac dynion, canys wy ach roðāt chvvi at Eisteddfae ac ach yscyrsian yn ei Synagagae.
18Ac ich dugir at y llywiawdwyr a’r Brenhinoedd om pleit i, er testiolaeth yddwynt, ac i’r Cenetloedd.
19Eithr pan ich trawsroddan, na phryderwch pa vodd nei pa beth a ðywetoch: can ys roddir y chwy yn awr hono, pa beth a ddywetoch.
20Can ys nid chwychvvi yw’r ei a ddyweit, anyd yspryt eich Tad yr hwn a dywait ynoch.
21A’r brawd a vradycha ’r brawd a varwolaeth, a’r tat y map, a’r plant a godant yn erbyn ei Rieni, ac a barāt yddwyn varw.
22A’ dygasoc vyddwch gan bawp er mwyn vy Enw: anyd yr hwn a barao yd y dywedd, ef a gedwir.
23A’ phan ich erlidiant yn y dinas hon, ciliwch i vn arall: can ys yn wir y dywedaf wrthych, na ’orphenwch oll ddinasoedd Israel, nes dawot Map y dyn.
24Nid yw’r discipul uwch na ei athro, na’r gwasanaethvvr uwch na ei Arglwydd.
25Digon ir discipul vot val y bo ei athro, a’r gwasanaethvvr val ei Arglwydd. A’s galwasan wr y tuy yn Beelzebub, pa veint mwy y galvvan ei duylwyth ef?
26Nag ofnwch wy am hyny: can nad oes dim toedic, ar ny’s didoijr: na dim cuddiedic ar na ddaw i wybodoeth.
27Hyn a ddywedaf ywch yn y tywyllwch, dywedwch yn y golauni: a hyn a glywoch yn ych glust, precethwch ar ben y tai.
28Ac nac ofnwch yr ei a ladd y corph, ac ny allant ladd yr enait: eithyr yn hytrach ofnwch hwn, a ðichon gyfergolli yr enait y gyd a’r corph yn yffern.
29Any werthir dau ederyn y to er fferling ac ny chwympa yr vn o hanynt i’r llawr heb evvyllys eich Tad chvvi?
30Ac y mae hefyd eich oll wallt yn gyfrifedic.
31Nac ofnwch gan hynny, chwi delwch mwy na llawer o adar yto.
32Pwy pynac gā hynny am cyffesso i yngwydd dynion, hwnaw a gyffessaf vinef hefyd yn‐gwydd vy‐Tad yr hwn ’sy yn y nefoedd.
33A’ phwy pynac am gwad yngwydd dynion, hwnaw a wada vi hefyd yn‐gwydd vy‐tad yr hwn ’sy yn y nefoedd.
34Na thybiwch vy‐dewot i ddanfon tangneddyf i’r ddayar: ny ddaethym y ddanfon tangneddyf anyd y cleddyf.
35Can ys‐daethim i osot dyn y ymrafaely yn erbyn ei dad a’r verch yn erbyn ei mam, ar waydd yn erbyn i chwegr.
36A’ gelynion dyn vydd tuylwyth ei dy y hun.
37Y nep a garo tad ne vam yn vwy namyvi, nyd yw deilwng o hanof i. A’r nep y garo vap ne verch yn vwy na myvi, nyd yw deilwng o hanof vi.
38A’ hwn ny chymer ei groes, a chalyn ar v’ol i, nyd yw deilwng o hanafi.
39Y nep a gatwo ei enait, ai cyll, a’r nep a gollo ei enad om pleit i, ai caidw.
40Y nep ach derbynio chvvi, am derbyn i: ar nep am derbynio vi, a dderbyn hwn am danfonawdd i.
41Y nep a ðerbynio brophwyt yn enw Prophwyt, a dderbyn vvobr Prophwyt: a’r nep a dderbynio gyfiawn, yn enw cyfiawn, a dderbyn vvobr y cyfiawn.
42A’ phwy pynac a roddo ir vn o’r ei bychein hyn phiolet o ddwfr oer yn vnic, yn enw discipul, yn wir y dywedaf ychwi, ny chyll ef ei vvobr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.