1CLustymwrando am gweddi â Ddew, ac nac ymgudd rac vy glochwyt.
2Gwrando arnaf, ac erglyw vi: cwynvan ydd wyf yn vy-gweddi, a’ nadu.
3Gan lais y gelyn, chan wascfa yr andewiol, can yddynt ddwyn enwiredd arnaf, ac yn gynddairioc vy-casa’u.
4Vy-calon a dd’echryn om mewn, ac arfwyddion angae a syrthiesant arnaf.
5Ofn ac echryd a ddaethant arnaf, a chrynfa orribil am gorchudiawd.
6A’ dywedeis, Och na bai ymy adanedd val i golomben: yno ydd ehedwn ymaith ac y gorphwyswn.
7Wele, y ciliwn yn y pell, y trigwn yn y diffeith. Sélah.
8 Brysiwn y ymwared rac y gwynt ystormus a’r tempestl.
9Dinystria Arglwydd, gohan eu tavot: can ys gwelais graulonedd, a chynnen yn y dinas.
10Dydd a’ nos yð amgylchynant hi o vewn hei magwyrydd: ys andewoldop ac echrys yn ei phervedd.
11Enwiredd yn ei phervedd: twyll a’ dichell nid ant ymaith ohei heolydd.
12Diau nidgelyn a’m divenwodd, can ys galleswn ddwyn: ac nid vy-digasoc a ymvawrygawdd im erbyn, o bleit ymguddieswn rhacdaw.
13Eithr ti ’wr ys vy-cyfaill, vy fforddiwr, am cynabot.
14Yr ei oedd ddigrif genym gyd gyfrinachu, aem y tuy Ddew yn-cymddeithas.
15 Deuet angae arnaðynt: descenant vyw ir beð: can ys drygeu yn ei cartref, yn ei perveð.
16Minef a waeðaf ar Ddew, a’r Arglwyð am goarchad.
17 Gosper a’ borae a’ haner dydd y gweddiaf, ac y cyffroaf, ac ef a glyw vy lleferydd.
18Ef a waredawdd vy eneit yn heddychol y wrth y vrwydyr im erbyn: can ys llawer oedd y gyda mi.
19Dew a glyw, ac ei cystuð ys ef yr hwn ys ydd yn teyrnasu o’r cynvyt. Sélah: can nad oes yddynt ysmutiadeu, am hynny nyd ofnant Ddew.
20Eddodes ei law ar yr ei oedd mewn tangneddyf ac ef, a dores ei ddygymbot.
21 Llyfnach oedd ymadrodd ei eneu na’r emenyn, ac a rhyvel yn ei galon: ei ’airiae oedd denerach na ’r oleo, ac wyntwy yn gleddyfae.
22Bwrw dy vaich ar yr Arglwydd, ac ef ath gynnal: ny ’ad ef ir cyfion syrthio yn tragyvyth.
23Tithe Ddew, y descenny wynt yr pytew llwgr: y gwyr gwaetlyt a’ thwyllodrus ny chan vyw haner ei dyddiae, a’ minef a ymddiriedaf ynoti.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.