1AM hynny yn wir rydoedd hevyd ir Testament cynta deddfawl grevydd, a’ chyssegrfa bydawl.
2O blegid y Tabernacl oedd wedi y gwneuthyd y gyntaf, yn yr hwn y roedd y canwyllbren, a’r bordd, ar bara dangos, rhvvn dabernacl a elwid y lle sanctaidd.
3Yn ol yr ail llen yr oedd y Tabernacl, ’rhwn a elwid y santeiddiaf oll,
4Llei roedd y senser aur, ac arch y Testament wedi y goreuro oi hamgylch, yn yr hon yr oedd y krochan aur ar manna yntho, a’ gwialen Aaron, rron a vlagurasei, a thablay y Testament.
5Ac uwch yr arch y Cherubym gogoneddus, yn kysgodi y drigareddva: am yr rrain ni dawn ni yn awr i son am danyn bob vn or neiltu.
6Wedi gosod yr rrain mewn ordr y sut yma, ir Tabernacl cynta yn wir y rai bop amser yr effeiriad, sy yn gwasneuthu yr creuydd.
7Ir ail yn wir y rai vnwaith bob blwyddyn yr archeffeiriad yn vnig, nid heb waed rrwn a offrymmay ef trosto y hun, a thros anwybodaethe y bobl.
8Yr ysbryd glan yn arddangos hyn, nad oedd y ffordd ir cyssegrfa yn egored etto, tra vyddai y Tabernacl cynta yn sevyll,
9Rrwn ydoedd ffygur tros yr amser kydrychol, yn yr hwn ir offrymmid rrodion ac aberthau rrai ni allen lanhau, ar ran cydwybod, yr hwn a wasnaythe’r-crefydd,
10Rrwn oedd wedy y ’osod yn vnic mewn bwydydd a diodydd, ac amryw drochiaday, a Deddfay cnowdol, hyd oni ddele amser y dywygiad.
Yr Epistol y v. Sul yn y Grawys.
11Eythyr Christ yn dyfod yn archeffeiriad y dayoni rrag llaw, trwy dabernacl fwy a’ pherffeithiach, nid o waith dvvy llaw, sef yw hynny nid or edeiladeth yma,
12Nid chwaith trwy waed geifr a lloiau: eithr trwy y waed y hun i raeth ef vn waith y mewn ir cyssegrfa, ac a gavas ’ollyngdod tragywyddol yni.
13O blegid os gwaed teirw, a’ geifr a lludw heffr, wedi y danu ar y llygredigion, a deilynga ar ran puredd y knawd,
14O ba vaint mwy, y pura gwaed Christ, rrwn trwy yr Ysbryd tragowydd ay offrymmawdd ef y hun yn ddifai y Ddyw, ych cydwybod chwi, oddiwrth veirwon weithredoedd, y wasneuthu Dyw byw?
15Ac am hynny y may ef yn gyfrwngwr, y Testamēt newydd, megis trwy farfolaeth rron oedd ir gollyngdod y camweddau oeddent tan y Testament cyntaf, y derbyniay yr rrai oeð wedi eu galw, addewid yr etyveddieth tragwyddawl.
Yr Epistol ar ddie merchur cyn y Pasc.
16O blegid lle bo Testament, rraid yw digwyddo marfolaeth y testamentwr.
17Can ys or meirw y cayff y testament eu ’rymm: achos ni does nerth yntho tra vo byw y testamentwr.
18Ac wrth hynn ni chysegrywdd y cyntaf heb waed.
19Can ys pan ddarffai i Voyses draythur gorchymyn y gyd achlan ir holl bobl, wrth y gyfraith, ef gymerai waed lloiau a’ geifr, cyd a gwlan pwrpwlac ysop, ac ai taynellei ar y llyfr, a’r bobl oll,
20Gan ddoydyd, hwn yw gwaed y Testament, rrwn a orchmynawdd Dyw y chwi.
21Heb law hynny, taynellu hevyd awnay ef y Tabernacl a holl llestri’r gwasanaeth a gwaed.
22A’ phob peth gan mwyaf ar ol y gyfraith trwy waed y purir hvvynt, ac heb ollwng gwaed nid oes maddeuant.
23Am hynny angenrreidiol ydoedd y bortreiadau y pethau sy yn y nefoed gael y puro ar pethau hyn: y pethau nefawl y hunain a burit ac aberthay gwell nor rrain.
24Can ys nid ir cyssegrfa o waith llaw ir aeth Christ y mewn, rrwn sydd bortreiad ir gwir cyssegr: eithr ef aeth ir nefoedd y ymddangos yn awr yn golwc Dyw trosom ni,
25Ac nid yw offrymu y hun yn fynych, mal y may yr archeffeiriad yn myned y mewn ir cyssegrfa bob blwyddyn a chantho waed dierth.
26(O blegid velly y biase raid iddo ddiodde yn fynych o ddechreuad y byd) eythr yn awr vnwaiih yn diwedd y byd ir ymddangoses ef y ddiflannu pechod trwy y aberthu y hunan.
27Ac megis ac y gosoded hyn y ddynion farw vnwaith, ac yn ol hynny bot barn,
28Velly Christ hevyd a aberthwyt vnwaith y doddi pechodeu llawer, yr ail waith heb ddim pechod ir ymddengis ef ir rrai sy yn y ddiscwyl, ir iechaid yddynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.