1VY enait, mola yr Arglwydd, ac oll ys ydd om mewn, ei Enw sanctaidd.
2Vy eneit, mola yr Arglwydd, ac na ancofia ei oll ddonieu.
3Yr hwn a vaddae dy oll enwiredd, ac a iachâ dy oll lescedd.
4Yr hwn a ymwared dy vywyt o ðivancoll, ac ath corona a’ thrugaredd ac a thosturieu.
5Yr hwn a weuydda dy enae a daoni: ac aadnewyðir dy ieunctit val yr eryr.
6Yr Arglwydd y wna gyfiawnder a’ barn, ir oll rei y ’orthrymir.
7Parawdd-wybot ei ffyrdd i Voysen, ei weithredoedd y blant Israel.
8Yr Arglwydd ysy yn llawn tosturi a’ thrugaredd, hwyr ei lit, a’ mawr ei drugarogrwydd.
9Nid ymddadle ef bop amser, ac ny ddail ef yn dragyvyth.
10Nid yn ol ein pechatae y gwnaeth ef y ni, ac nyd yn ol ein camweddeu y talawdd y-ni.
11Can ys cyfuwch ac yw y nefoedd uchlaw y ddaiar, cymeint yw ei drugaredd ir sawl y ofnant ef.
12 Cy bellet ac yw’r Dwyrein o’r Gorllewyn, y pelláodd ef ein pechate o ddy wrthym.
13Mal y tosturia y tad wrth ei blant, y tosturia yr Arglwydd wrth yr ei y hofnant ef.
14Can ys ef a wyr o ba beth in gwnaethpwyt: cof yw ganthaw mae llwch ytym.
15 Dyn ys ydd ei ddyddie val gwelltglas: megis blodeun y maes y blodeua.
16Can ys y gwynt a â drostaw, ac e ddarvu, a’ei le nid edwyn ddim hanaw mwy.
17A’ thrugarawgrwydd yr Arglwydd yd oes oesoedd ar yr ei y ofnant ef: a’ ei gyfiawnder ar blant y plāt,
18[Sef] i’r ei a gatwant y ddygymbot ef, ac a veddyliant am ei ’orchymynion er ei gwneuthur.
19Yr Arglwydd a ddarparawdd ei eisteddva yn y nefoeð, a’ ei deyrnas ym-pop cyvoeth.
20Molwch yr Arglwydd, y Angelion ef, cedyrn o nerth, ’r ei sy yn gwneuthur y orchymyn, ef gan wrando ar leferydd y ’air.
21Molwch yr Arglwydd, ei oll luoedd, y weision ef yr ei wnewch ei ewyllys.
22Molwch yr Arglwydd, y oll weithrededd ef, ’ym-pop ban oei gyvoeth: vy eneit mola yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.