1GWyn ei vyt a ystyria wrth y tlawt yr Arglwydd ei gwareda yn amser-trallawt.
2Yr Arglwydd ei caidw, ac ei bywá: gwynvydedic vydd ar y ddaiar, ac ny’s roddy ef wrth wyllys ei elynion.
3Yr Arglwydd ei nertha ar wey dolurieu: ymchweleist ei oll wely yn ei glefyt.
4Dywedeis, Arglwydd trugará wrthyf: iacha vy eneit, canys pechais ith erbyn.
5Vy gelynion y lavarent ddrwc am danaf,, Pa bryd y bydd varw, ac y dervydd am ei enw?
6Ac a’s daw im govwyaw, e ddywait gelwydd, a’ei galon y gascl enwiredd o ei vewn, ddel allan y dywait.
7Vy oll ddygaseion a gyd hustyngent im erbyn: yn vy erbyn y dychymygent y drwc yma.
8Peth y vall a ddeuth arno: a’r hwn ’s yn gorwedd, ny chyvyt mwyach.
9Hefyd, vy-car caredigol yr’hwn y ymddiriedwn iddo, ac a vwytaei vy-bara, a dderchavodd y sawdl im erbyn.
10Tithau Arglwydd, trugará wrthyf, a’chyfod vi y vyny: a’ mi eu gobrwyaf.
11Wrth hyn y gwn dy vot im hoffy, can nad yw vy-gelyn yn cael ei wynfyd arnaf.
12Ac am danavi, yddwyt, im cynnal yn ve-perfeithrwyð, ac yn ve-gosot ger bron dy wynep yn tragyvyth.
13Bendigeit Arglwyð Ddew Israel yn oes oesoedd. Velly y bo, ys velly y bo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.