Gweledigeth 6 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. vj.1 Yr Oen yn agori y chwech insel, a’ llawer o betheu yn dyvot ar ol y hagori, val y mae hyn yn amgyffred prophetoliaeth gyffredin yd dywedd y byt.

1YN ol hyn, mi edrycheis pan agoryssey’r oen vn or seley, ac mi y glyweis vn or pedwar enifel yn dwedyd, mal by bei trwst traney Dabre ac edrych.

2Ac mi edrycheis, a’ syna, yr ydoedd march gwyn, ac yr ydoedd bwa gan yr vn oedd yn eistedd arnaw, a choron y royspwyd yddo ef, ac ef aeth allan dan concwerio ac y concwery.

3A phan agoryssey yr eil sel, mi glyweis yr eil enifel yn dwedyd, Dabre ac edrych.

4March arall aeth allan, ae livv yn goch, a gallu y rroed yr vn oedd yn eistedd arno, y gymryd heddwch o ddiwrth y ddayar, ac y beri yddynt llað y gilydd, a’ chleddey mawr y rroed yddo ef.

5A’ phan agorysei ef y trydydd sel, mi glyweis y trydydd enifel yn dwedyd, Dabre ac edrych. A’ mi edrycheis, a syna yr oedd yno march du, a phwyse yn llaw yr vn oedd yn eistedd arno ef.

6A’ mi glyweis leis yn chanol y pedwar enifel yn dwedyd, messyr o wenith er ceinioc, a’ thri mesyr o heith er ceinioc, a’r olew, gwin, na waytha di.

7A’ phan agorasey ef y bedwaredd sel, my glyweis lleis y bedwrydd enifel yn dwedyd, Dabre ac edrych.

8Ac mi edrycheis, a syna, march a llivv priddlyd a Marfolaeth oedd enw yr vn oedd yn eiste arno, ac Yffern y dilynoedd ef, a gallu y roed yddynt hwy dros y bedwaredd rran or ddayar, y ladd a chleddey, ac a newyn, ac a marfolaeth, ac a ’nefeilied y ddayar.

9A’ phan agorasey ef y bymed sel, mi weleis dan yr allor eneidiey yr rein y las am ’eir Dyw, ac am y tustolaeth yr hwn oedd ganthynt.

10Ac hwy a lefasont a llef ywchel, dan ddwedyd, Pa hyd, Arglwydd, santeið a chowir? nad ydwyd yn barny a ’dial yn gwaed ni, ar y rrein ar ydynt yn trigo ar y ddayar.

11A’ gowney gwnion hirion y rroed y bob vn o naddynt, ac y ddwetpwyd wrthynt, am yddynt o’rffwys dros ychydic o amser hyd yn gyflewnid rif y] cydwasnaethwyr, ac brodyr, y leddesid, mal y llas ynthwy.

12Ac mi edrycheis pan agorasei ef y chweched sel, a syna, crynfa mawr y ddayar y doedd, ar haul aeth cyn ddued a sach lien blewoc, ar lleyad oedd, yn debic y waed.

13A’ ser o’r nef y syrthiasont yr ddayar, mal pren ffeigys yn bwrw ffeigys‐gleison pan scydwyr hi a gwynt mawr.

14Ar nef aeth heybio, mal rol‐o‐bapir, gwedy troi ynghyd, a phob mynydd ac vnys y drowyd allan oy lleoedd,

15A’ brenhinoedd y ddayar, ar gwyr mawr, ar cyfoethogion, ar pen captenied, ar gvvyr cedyrn, a phob gwr caeth, a phob gwr‐rrydd, y ymgyddiasont mewn gogofey, ac ym plith creigie y mynyddey,

16Ac hwy y ddwedasont wrth y myneddedd ar creigeu, Cwympwch arnom ni, a’ chyddiwch ni rrac wyneb yr vn y sydd yn eistedd ar yr eisteddle, ac o ddiwrth digovent yr Oen.

17Can ys y may dydd mawr y ddigovent ef gwedy dyfod, a’ phwy y ddychyn sefyll?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help