Luc 8 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. viij.Christ ef ai ddiscipulon yn myned o dref y dref gan precethu. Y gwragedd yn

gweini yddynt aei da. Ef yn manegy parabol yr had. Ef yn manegi pwy yw ei vam, pwy ei dad. Ef yn llonyddy mordwy y merllyn. Ef yn gwared y cythreulic. Y cathraelieit yn myned ir genvaiut moch. Ef yn iachau y wreic claf, a’ merch Iairus.

1AC e ddarvu yn ol hyny, ys efe aeth trwy bop dinas a’ thref, can precethy ac evāgely teyrnas Duw, a’r dauddec oedd y gyd ac ef.

2A’ gwragedd rei, a’r a iachaisit o y vvrth ysprytion drwc, a’ gwanderoedd, vegis Mair hon elwit Magdalen, o ba vn yr aethai saith cythrael allā,

3ac Ioāna gwraic Chuza goruwchwiliwr Herod, a’ Susanna, a’ llawer eraill o vvragedd yr ei oedd yn gweini iddo o i da y hunain.

Yr Euangel ar y Sul Sexagesima

4¶ A’ gwedy ymgynull llawer o popul ynghyt, a’ chyrchu ataw o pop dinas, y dyvot ef trwy parabol,

5Heuwr aeth allan i eheu ei had, ac wrth ehey, peth a syrthiawdd ar emyl y fford, ac a sathrwyt, ac ehediait y nef ei ysodd.

6A’ pheth arall a syrthiawdd ar y garec, a’ phan eginawdd, y gwywawdd, am nad oedd iddaw wlybwr.

7Ac arall a syrthiawdd ymysc drain, a’r drain a gytyfawdd, ac ei tagesant.

8Ac arall a syrthiawdd, ar dir da, ac eginawdd, ac a dduc ffrwyth, ar ei ganvet. Ac val ydd oeð ef yn dywedyt pethae hyn, y llefawdd. Y nep ys y a chlustiae yddo i glywet clywet.

9A’ ei ddiscipulon a ’ovynnodd iddo, gan ddywedyt, pa ryw barabol oedd hwn?

10Ac ef a ddyvot, I chvvy‐chwi y rhoddet gwybot dirgeloedd teyrnas Dduw, anid i eraill trwy parabolae, er yddyn yn gwelet, na welant, ac er yddynt yn clywet, na ddyallant.

11Hynn y’w r parabol. Yr had, yw gair Duw.

12A’r ei ar emyl ffordd, ynt yr ei a glywant: yno y daw diavol, ac a ddwc y gair allan oei calonae rac yddyn gredy, a’ bot yn gatwedic.

13A’r ei ar y garec, yyn yr ei pan glywant, a ddebyniant y gair trwy lawenydd: eithyr ir ei hyn nyd oes gwraidd, yr ei a credant tros amser, ac yn amser prouedigaeth a giliant.

14A’r hwn y syrthiawð ym‐plith drain, hwy yw’r ei glywsant ac a aethant ymaith, a’ chan ’ovalon a’ golud, a’ bodd buchedd a dagwyt, ac ny dducant ffrwyth.

15A’ hyn a gvvympavvdd ar y tir da, ynt yr ei mewn calon syber’‐ða, a glywant y gair ac ei catwant, ac a ffrwythant trwy anmynedd.

16Nyd ennyn neb gannwyll, ac yno y gorchuddiaw hi a llestr, ac ny’s gesyt y dan y vord, eithyr ar y canwyllbren y gosyt, val y bo ir ei a ðel y mywn, ’weled y goleuni.

17Can nyd oes dim dirgel a’r ny’s gwnair yn amlwc, na dim cuddiedic a’r na’s gwybydder ac na ðaw i’r amlwc.

18Gwelwch can hyny pa‐ddelw y clywoch: can ys pwy bynac ys y ganthaw, iddo y rhoddir: a’ phwy pynac nyd oes ganthaw, ys yr hyn a dybir vot canthaw, a dducir y arnaw.

19Yno y daeth ataw y vam a’ ei vroder, ac ny allent ddyuot yn agos ataw gan y dorf.

20Ac e vanegwyt iddaw, gan ’rei a ddywedynt, Mae dy vam a’th vroder yn sefyll all an, yn ewyllysiaw cael dy weled.

21Ac ef a atepawdd, ac a ddyuot wrthynt, Y mam i, a’m broder, yw yr ei hyn a glywant ’air Duw, ac ei gweithredant.

22Ac ys darvu ar ryw ddiernot, ys ef y ddaeth i long y gyd ai ddiscipulon, ac y dyuot wrthynt, Awn ir tu hwnt ir merllyn. A’ mordwyaw rhacddyn a wnaethant.

23Ac val ydd oeddent yn hwyliaw, yr hunawdd ef, ac a ddescenawdd cavod o wynt ar y merllyn, ac y cyflawnwyt vvy o ddvvfr, ac ei periglwyt.

24Yno ydd aethant ataw, ac ei diffroesant, gan ddywedyt, Y llywiawdr, y llywiadr, e a’n collet ni. Ac ef a gyfodes, ac a geryddawdd y gwynt a ’thonnae ’r dwfr: a’ vvy peidiesont, a’ hi aeth yn arafhin.

25Yno y dyuot ef wrthynt, P’le may eich ffydd chvvi? ac ofny a’ rhyueddy, a’ orugant yn ei cyfrwng, gan ddywedyt, Pwyn ’n yw hwn a ’orchymyu ac ir gwyntoedd a’r dwfr, a’ hwy yn vvyddhau yddo?

26Yno hwyliaw o hanynt i vro y Gadarenieit, yr hon ’sy drosodd gyferbyn a Galilaia.

27A gwedy iddaw vyned i dir, y cyfarvu ac ef ryw wr o’r dinas, yr hwn oedd perchen cythrael er ys hir amser, ac ny wiscai ddillat, ac ny arosei yn tuy, anyd yn y monwenti.

28A’ phan welas ef yr Iesu, y dolefawdd, ac a gwympawdd y lawr ger y vron ef, ac a llef vchel a ddyuot, Beth ’sy i mi avvnelvvyf a thi, Iesu vap Duw, y goruchaf? Atolwg yti na’m poenych.

29Can ys‐gorchymynesei ef ir yspryt haloc ddyuot allan o’r dyn: (can ys llawer gwaith y daliesei ef: am hyny y rhwymit ef a chadwyni, ac y cedwit mewn hualae: ac ef a ddrylliai y rhwymae, ac a ddugit gan y cythrael ir diffeithiae.)

30Yno y govynawd yr Iesu iddaw gan ddywedyt, Beth yw d’ enw? Ac ef a ddyuot, Lleng, can ys cythreuliait lawer aethent ynðaw.

31A’ hwy atolygesont iddaw, na orchymynei yðynt vyned ir gorddwfyn.

32Ac ydd oedd yno geirllaw gēvaint o voch lawer, yn pori ar y mynyth, a’r cythraelieit atolygesant iddaw, ar adel o hanaw yddyn vyned ynthynt vvy. Ac e adawodd yddynt.

33Yno ydd aeth y cythraelieit allan o’r dyn, ac yn aethon ir moch: a’r genvaint a ddy gyrchawdd y ar ddibin i’r merllyn, ac a degit.

34Pan welawdd y meichiait yr hyn a wneithit, y ffoesont: a’ gwedy yddyn vyn’d ymaith, y manegesont ir dinas a’r wlat.

35Yno y deuthant allan i ’weled beth a wnaethesit, ac y daethant at yr Iesu, ac a gawsant y dyn o’r hwn yr aethai allan y cythraelieit, yn eistedd, wrth draet yr Iesu, yn wiscedic, ac yn ei iavvnbwyll: ac vvy ofnent.

36A’r ei a ’welsent, a vynegesant yddynt pa vodd yr iachesit, y cythraelic.

37Yno yr oll lliaws y wlat o amgylch y Gadarenit a atolygesant iddaw, vynd ymaith y wrthynt: can ys delhit wy ac ofn mawr: ac ef aeth ir llong, ac a ddadymchwelawð.

38Yno ’r gwr, o’r hwn y madawsei ’r cythraelieit, a atolygadd iddaw gael o hanaw vot y gyd ac ef: a’r Iesu y danvonawdd ef ymaith, gan ddywedyt,

39Ymchwyl ith tuy dy hun, a’ datcan vaint bethae a wnaeth Duw yty. Yno ydd aeth ef ffwrdd, gan precethu trwy’r oll ddinas pa veint bethae a wnaethesei ’r Iesu iddaw.

40A’ darvu pan ddaeth yr Iesu drachefyn, bot ir bopul y dderbyn ef: can ys wy oll a ddysgwylynt am danaw.

41A’ nycha y daeth nebun gwr a ei enw Iairus, ac efe oeð yn llywodraethwr y Synagog, ac ef a gwympodd wrth draet yr Iesu, ac atolygawdd iddo ddyuot y mevvn yw duy ef.

42Can ys vn verch oedd yddaw yn‐cylch deuddecblwyð oet, a’ hon oedd ar varw (ac ef yn myned y gwascei ’r bopul ef.

43A’ gwreic rhon oedd arnei waedlif er ys dauddec blynedd, yr hon a dreuliesei i holl vywyt ar veddigon, ac ny’s gallei gael i hiachau y gan nebun:

44pan ddeuth hi y tu cefyn iddo, y cyvurðawð hi ac emylyn y wisc ef, ac yn ebrwydd y safawdd llif y gwaet hi.

45Yno y dyuot yr Iesu, Pwy ’n yvv a gyffurddawdd a mi? Ac a phawp yn gwadu, y dyuot Petr, a’r ei oedd y gyd ac ef, Y llywiawdr y mae’r dorf yn dy wascu, ac ith sathru, a’ dywedy. Pwy ’n yvv a gyfyrðodd a mi?

46A’r Iesu a ddyvot, E gyfurddawð ryw vn a mi: can ys mi a wn vynet nerth allan o hanof.

47Pan welas y wreic nad oedd hi yn guddiedic, hi ddaeth dan ergrynu, ac a syrthiawdd geyr y vron ef, ac a vynegawdd iddaw rhac bron yr oll popul, er pa achaws y cyvwrðesei hi ac ef, ac val yr iachesit y hi yn ebrwyð.

48Ac ef a ddyuot wrthei, Cymer confort, verch: dy ffydd ath iachchaodd: dos yn‐tangweddyf)

49Ac ef eto yn ymadrodd, y daeth vn ywrth lywodraethwr y Synagog, gan ðywedyt wrthaw, Marw vu dy verch: na phoena ddim o’r Athro.

50Pan glybu ’r Iesu, yr atepawdd iddaw, gan ddywedyt, Nag ofna: cred yn vnic, a’ hi a iachëir.

51A’ phan aeth ef i’r tuy, ny adawdd ef y nep ðyvot y mewn y gyd ac ef, amyn Petr, ac Iaco ac Ioan, a’ that a’ mam y vacheues.

52Ac wylo oll ac irad a wnaēt am denei: ac ef a ddyuot, Nag wylwch: can nad marw hi, anyd hunaw y mae hi.

53Ac wy y gwatworesont ef, can yddyn wybot y marw hi.

54Yno y gwthiodd ef wy oll y maes, ac y cymerth hi erbyn hei llaw, ac a lefawdd, gan ddywedyt. Y vachcennes, cyvot.

55A’ ei h’yspryt a ddaeth drachefyn, a hi a gyuodes yn ebrwydd: ac ef a ’orchmynawdd roi yddi vwyt.

56Yno aruthr vu gan i rhieni: ac ef a orchmynawdd yddynt na ddywedent i nebun hyn a wnaethesit.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help