1A’ darvu, val yr oeð ef yn gweddiaw mewn nep lle, pan peidiawdd, y dyvot nebun oei ðiscipulō wrthaw, Arglwyð, dysc i ni weddiaw, megis ac y dyscawdd Ioan ei ddisipulon yntef.
2Ac ef a ðyuot wrthynt, Pan weddioch chvvi, dywedwch, Ein tad yr hwn yw‐ti yn y nefoedd, sancteiddier dy Enw: Dauet dy deyrnas: Gwneler dy ’wyllys ys ef yn y ddaiar megis y mae yn y nef:
3Ein bara beunyddiol dyrho i ni dros heddyvv:
4A’ maddae i ni ein pechotae: canys nyni a vaddeuwn i bop dyn sy yn ein dled ni: Ac nac arwein ni i temptation: eythyr rhyddha ni rac drwc.
5Hefyt, ef a ddyuot wrthynt, Pwy o hanoch a vyð iddaw gar, ac a el attaw am haner nos, ac a ddywait wrthaw, Y car, Moes i mi yn echwyn dair torth.
6Can ys carvvr i mi a ddaech y ar y ffordd ataf, ac nyd oes genyf ddim y’w ddodi geyr ei vrō:
7ac ef o ddymywn atepai, ac a ddywedei, Na volesta ddim hanof: y mae ’r drws ynawr yn‐gayad, a’m plant y gyd a mi yn y gwely: ny ’allaf gwnnu ai’ rhoddy yty.
8Dywedaf wrthych, cyd nas cwnnei ef a’ rroi iddaw, o bleit y vod ef yn gar iddo, eto yn sicr am ei daerdeb, e gyfodei, ac a roei iddaw gynniner a vyddei arno y hesiae.
9A’ mi a ddywedaf wrthych, Govynnwch, ac ei rhoðir y-chwy: caisiwch, a’ cheffwch: curwch, ac agorir y-chwy.
10Can ys pop vn a’ ovyn, a dderbyn: a’ hwn a gais, a gaiff: ac i hwn a guro ir a gorir.
11A’s govyn map vara gan yr vn o hanoch ysy dad, a rydd ef iddo vaen? ne a’s gofyn ef byscodyn, ai yn lle pyscodyn y rydd ef sarph i ddaw?
12Neu a gofyn ef wi, a rydd ef iddo scorpion?
13A’s chvvi chwi gan hyny yr ei ych ddrwcion, a vedrwch roi rhoddion da i’ch plant, pa veint mwy y bydd i’ch Tad nefawl roddy yr Yspryt glan ir ei eu govynan yðo?
Yr Euangel y trydydd Sul yn y Grawys.
14¶ Yno y bwriawdd ef gythrael allan yr hwn oeð yn vut: a gwedy ir cythrael vyn’d allan yr ymadroddawdd y mudan, ac y rhyueddawdd y populoedd,
15A’r ei o hanynt, a ddywedesant, Trwy Beelzebub y pennaf o’r cythraelieit y mae ef yn bwrw allan gythraelieit.
16Ac yr eill er ei brovi ef, a gaisiesant gantaw arwydd o’r nef.
17Ac ef gan wybot ei meddiliae, a ddyvot wrthynt, Pop teyrnas ’ohanedic oei mewn ehun, a diffaithir, a’ thuy rhanedic yny erbyn ehun a gwympa.
18Ac ad yw Satā yn rhanedic yn y erbyn ehun, pa wedd y saif y deyrnas ef? can y chwi ddywedyt vy‐bot yn bwrw allan gythraeliait trwy Beelzebub.
19Ac a’d yw vi yn bwrw allā gythraulieit trwy Veelzebub trwy bwy y mae eich plāt chwi yn eu bwrw allan? Am hynny y byddant wy yn varnwyr arnoch.
20Eithr a’s myvi trwy vys Duw ’sy ’n bwrw allan gythraulieit, diamau ddyvot o deyrnas Duw atoch.
21Pan ’orchatwo cadarn yn arvawc ei nauadd, cymeint ac a vedd ef, ys y mewn heddwch.
22Eithyr pan ddel arnaw a vo cadarnach nac ef, a’ ei ’orchfygy, ef ddwc y arnaw ei oll arvae yn yr ei ydd oedd ef yn ymddiriet, ac a ran yr yspail.
23Yr hwn nid yw gyd a mi, ys ydd im erbyn: a’r hwn ny chascla gyd a mi, goyscary y mae.
24Pan el yr yspryt aflan allan o ddyn, e rotia rhyt lleodd sychion, gan gaisiaw llonyddwch: a’ pryd na’s caffo, ef a ddywait, Mi ymchwelaf im tuy or lle y daethum allan,
25a’ phan ddel, ef ei caiff wedy ’r yscupo a’i drwsiaw.
26Yno ydd aa ef, ac a gymer gyd ag ef saith yspryt eraill gwaeth nag ef ehun: ac y aant y mewn, ac a drigant ynow, ac velly y byð diweddiat y dyn hwn yn waeth no ei ddechraeat.
27Ac e ddarvu ac ef yn dywedyt y pethae hyn, rryw wreic o’r tyrva a gyvodes ei lleverydd, ac a ddyvot wrtro, Gwyn ei vyt y groth ath arweddawdd, a’r bronnae a sugnaist.
28Ac yntef a ddyvot, Ie ychre gwyn ei byt yr ei a glywant ’air Duw, ac ei catwant.
29A’ gwedy ir populoedd ymdyrru yn‐cyt, y dechreuawdd ef ddywedyt, Cenedl ysceler yw hon: ceisio sygn y maent, ac ny’s rhoir vn yddynt, anyd sign Ionas y Prophwyt.
30Can ys mal y bu Ionas yn sign ir Niniveit, velly y bydd Map y dyn i’r genetleth hon.
31Brēhines y Deheu a gyvyt ym‐barn, y gyd a gwyr y genetleth hō, ac y barn wy yn euoc: can ys hi ddaeth o dervynae eithav y ðayar y glywet doethynep Selef, a’ nycha vn mwy na Selef y sy yman.
32Gwyr Niniue a godant ym‐barn y gyd a’r genetleth hon, ac y barn hi‐yn‐euoc: canys wy a gymersōt etiveirwch wrth precethiat Ionas: a’ nycha vn mwy na Ionas y sy yman.
33Nyd enyn neb ganwyll a’i dodi yn‐cudd, nac y dan vail: eithyr ar ganwyllbren, val y gallo yr ei a ddel y mywn, weled y llewych.
34Canwyll y corph yw’r llygat: can hyny pan vo dy lygat yn sympl, yno y mae dy oll corph yn olae: eithr pan vo dy lygat yn ðrwc, yno y bydd dy corph yn dywyl’.
35Ystyria gan hyny, rac ir goleuni y sy ynot, vot yn dywyllwch.
36Wrth hyny a’s dy oll corph vydd golau eb iddo vn ran dywyll, yno byð e golau ol’, megis gan ith oleuaci cannwyll di a’r discleirdep.
37Ac val ydd oedd ef yn ymadrodd, yr atolygawdd ryw Pharisai yddaw giniawa y gyd ac ef: ac ef aeth y mywn, ac a eisttddawdd y vwyta.
38A’ phan welawdd y Pharisai, y rhyveddawdd can nad yn gyntaf yr ymolchesei ef o vlayn ciniaw.
39A’r Arglwydd a ddyuot wrthaw, Yn ddiau chwchwi ’r Pharisaieit a gerthwch y tu allan ir cwpan, a’r ddescil: a’r tu mywn ywch ’sy yn llawn o drais a drigioni.
40A ynvytion, anyd yr hwn a wnaeth hyn ’sy oy al’ā, a wnaeth hyn ’sy oddy mewn hefyt?
41Can hyny rhowch eleesen o’r pethae ys ydd o y mewn, a’ nycha pop peth oll vydd yn ’lan y chwy.
42Eithyr gwae chwy chwi y Pharisaieit: can ys‐chvvi degymwch y myntys a’ rut, a’ phop llyseuyn ac ewch dros varn a’ chariat Duw: y pethae hyn a ddylit ei gwnauthur, ac na vaddeuit y llaill.
43Gwae chvvy chwi ’r Pharisaiait: can ys-cerwch yr eisteddleoedd vchaf yn y Synagogae, a’ chael cyfarch‐gwell yvvch yn y marchnatoedd.
44Gwae chvvy chwi’r Gwyr‐llē a’r Pharisaieit, hypocriteit, can ys ych bot megis monwenti a’r n’ymðangosant, a’r dynion a’ rodian arnynt, ny wyddan y vvrthynt.
45Yno yr atepawdd vn o esponwyr y Ddeddyf, ac addyuot wrthaw, Y dyscawdr, can dywedyt hyn ydd wyt in gwarthay nini hefyd.
46Ac ef a ddynot, Gwae chvvychwi hefyt, esponwyr y Ddeddyf: can y chwi lwythao dynion a’llwythae anhawdd‐ei‐dwyn, a’ chvvitheu ny chyfwrddwch y llwythae ac vn o’ch bysedd.
47Gwae chvyy chwi: can ych bot yn adailiat monwenti y Prophwyti a’ch tadae y lladdodd wy
48Diau y testolaethwchvvi ac y cydsynniwch a gweithredoedd eich tadae: can ydydntvvy y lladd wy ac y chwitheu a dailiat y monwenni hwy.
49Am hynny y dywedei doethinep Duw, Anvonaf atyn Brophwyti, ac Apostolon, ac o hanynt y lladdant ’rei, ac ereill erlidiant,
50y’n y bo i ’waet y Prophwyti, a ddinewyt o sailiat y byt, gael ei ’ovyn y gan y genedlaeth hon,
51o waet Abel yd waed Zacharias, yr hwn a las yn cyf rwng yr alltar ar Templ: yn ddian y dywedaf wrthych, ei govynnir y gan y genetlaeth hon.
52Gwae chvvychwi es ponwyr‐y‐Ddeddyf: can ys dducesoch ymaith egoriat y gwybyddiaeth: nyd aethoch y mywn ychunain, a’r ei oedd yn dyuot y mywn, a ’oharðesoch.
53Ac ef yn dywedyt y pethae hyn wrthyn, y dechreuawdd y Gwyr‐llen a’r Pharisaiait y ddyludaw ef yn ðrud, a’ ei ðenu y ymadrodd am llawer o bethae,
54gan y gynllwyn ef, a’ chaisiaw hela ryw beth o y ben ef, er cahel o hanynt achwyn arnaw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.