1DEwch, canwn ir Arglwydd, ymlawenhawn yn-craic ein iechyt.
2Deuwn o vlayn ei wynep a moliant: canwn yn llavar psalmeu yðaw
3Can ys yr Arglwydd ysy Ddew mawr a’ Brenhin mawr ar yr oll ddewiae.
4 Ac yn y law ef dwfnleoedd y ddaiar, ac vchelderedd y mynyddedd ysydd yddaw:
5Ac yðaw ydyw y mór: can ys ef ei gwnaeth, a’ ei ddwylaw a ffurfiawdd y sych-tir.
6Deuwch, addolwn a’ gestyngwn phenliniwn rac bron yr Arglwydd ein gweithydd.
7Can ys ef yw’n Dew, a ninae yw popul ei borva, a’ deueit ei law: heddyw, a’s gwrandewch ar eileferydd,
8Na chaledwch eich calon, megis ym-Meribáh a’megis yn-dydd Massáh yn y diffeithwch.
9Lle im temtent eich tadae, im provent, cyd gwelsent vy-gwaithret.
10Deugain blynedd yr ymrysonais a’r genedlaeth a ’dywedais, Popul yn cyfeiliorni yn-calon ytynt, can na wybuant vy ffyrdd.
11Am hyny y tyngais yn vy llit, gan ddywedyt, Ys diau ny ddawant im gorphwysfa.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.