1YNo cyn no gwyl y Pasc, a’r Iesu yn gwybot ddyvot y awr ef, y ymadw o’r byt hwn at y Tat, can iddo garu yr eiddaw yr ei oeddent yn y byt, yd y dywedd y caroð ef hwy.
2A’ gwedy darvot swper (ac yr owon dodi o ddiavol yn‐calon Iudas Iscariot, ap Simon, y vradrychu ef)
3yr Iesu yn gwybot roddy o’r Tat yddaw bop beth oll yn y ddwylo, ay vot ef wedy dyvot ywrth Dduw ac yn myned at Dduw,
4cyvodi o hanaw y ar swper, a’ rhoi heibio ei ðillat vchaf, a’ chymeryd llieinyn, ac ymwregysu.
5Gwedy hyny, ef a dywallodd ddwfr ir cawc, ac a ddechreuawdd ’olchy traet y discipulon, a’ydysychu a’r llienyn, ar hvvn y gwregysit ef.
6Yno y daeth ef at Simon Petr, yr hwn a ddyuot wrthaw, Arglwydd, ai ti a ylch vy traet i?
7Yr Iesu a atepodd ac a ddyvot wrthaw, Yr hyn a wna vi, ny wyddos ti yr awrhon: eithyr ti ei gwybyddy gwedy hyn.
8Petr a ddyvot wrthaw, Ny chei ’olchy vo‐traet i byth. Yr Iesu ei atepoð, A nyth ’olchaf di, ny chai ddim ran y gyd a mi.
9Simon Petr a ddyvot wrthaw, Arglwydd, nyd vy‐traet yn vnic, amyn hefyd y dwylo a’r pen.
10Yr Iesu a ddyvot wrthaw, Hwn a ’olchwyt, nyd oes eisie arno anyd golchy ei draet, eithyr ymae yn ’lan oll: a chwithe ydych yn ’lan, eithyr nyd pavvp oll.
11Can ys ef a wyddiat pwy y bradychei ef: am hyny y dywedawdd, Nyd ydych yn ’lan bavvp oll.
12Velly gwedy iddo olchy eu traet, a’ chymeryt ei ddillat, ac eistedd o honavv y lawr drachefyn, y dyvot wrthynt, A wyddoch pa beth a wneuthym ’y‐chwy?
13Chwi am gelwch yn Athro. ac yn, Arglwyð ac iawn y dywedwch: can ys velly ’r wyf.
14A’s mi yntef ac yn Arglwydd, ac yn Athro yvvch, a ’olchais eich traet, chwy chvvi hefyt a ðylech’olchy traet y gylydd.
15Gan ys roesym esempl y chwy, ar wneuthur o hano chwi, megis ac y gwnaethy‐mi ychwi.
16Yn wir, yn wir y dywedaf y‐chwi, Nyd yw ’r gwas yn vwy na’u Arglwyð, na’r cenadwr yn vwy na’r hwn a ei danvonawð ef.
17A’s gwyddochvvi y pethe hyn, gwynvydedic ydych, a’s gwnewch hwy.
18Nyd wyf yn dywedyt am danoch bawp, mivi awn pw’r ei a ddetholeis i: eithyr bot hyn er cyflawny ’r Scripthur ’lan, ’sef Hwn ’sy yn bwyta bara gyd a mi, a godes eu sawdl yn v’ erbyn i.
19O hyn allan y dywedaf ychwy cyn na eu ddyvot, val gwedy y del, y credoch mai mivi yw ef.
20Yn wir, yn wir y dywedaf y‐chwi, A’s anvonafi nebun, hwn y derbyn ef, a’m derbyn i, a’ hwn a’m derbyn i, a dderbyn yr vn am danvonawdd i.
21Gwedy dywedyt o’r Iesu y pethe hynn, ef gynnyrfit yn yr Yspryt, ac a testolaethawdd, ac a ddyvot, Yn wir yn wir y dywedaf y chwy, mai vn o hanoch am bradycha i.
22Yno ’r discipulon a edrychesont ar y gylydd, gan betrusaw am ba vn y dywedesei ef.
23Yno yð oeð vn o ei ddiscipulon yr hwn a ogwyddei ar vonwes yr Iesu, yr hwn a garei ’r Iesu.
24Ar hwn gan hyny yr amneidiawdd Simon Petr, i ymofyn o hanaw pwy ’n oedd yr hwn y dywedesei ef am danaw.
25Ac yntef yn gogwyddo ar vonwes yr Iesu, a ddyvot wrthaw, Arglwydd, pwy ’n yw ef?
26Yr Iesu atepawdd, Hwnw yw ef, yr vn y y rhoddwy vi iddo dameit wedy ’r i mi ei enllynu: ac ef a enllynawdd dameit, ac eu rhoes i Iudas Iscariot, ’ap Simon.
27A’ gwedy ’r tameit, yr aeth Satan ymevvn ynthaw. Yno y dyuot yr Iesu wrthaw, A wnelych, gwna yn ebrwydd.
28Ac ny wyddiat neb o hanwynt y oedd yn eistedd i vvvyta, am ba beth y dywedesei hyny wrthaw.
29Cā ys rei a dybient am vot yr amner gan Iudas, y dywedesei ’r Iesu wrthaw, Pryn y pethe ’sy arnom eisieu erbyn yr wyl: neu yddo roi peth ir tlodion.
30Yno cy cyntet yd erbyniawdd ef y tameit, ef aeth yn y man y maes, a’r nos oedd hi.
31A gwedy y vynet ef y maes, y dyvot yr Iesu, Yr owrhon y gogoneddwyt y Map y dyn, a’ Duw a ’ogoneddwyt ynddaw.
32A’s Duw a ’ogoneddwyt ynddaw, Duw hefyt y gogonedda ef ynddaw ehun, ac yn ebrwydd y gogonedda ef, yntef.
33Ha blantynot, eto enhyt bach ydd wyf gyd a chwi: chvvi am caisiwch, ac mal y dywedais wrth yr Iuddaeon, I b’le ydd a vi, chwychvvi ny aill ddyvot: hefyt i chwi y dywedaf yr awrhon?
34Gorchymyn newydd ’wyf yn roi ychwy, ar garu o hanoch y gylydd: mal y cerais i chwychvvi, a’r ychwy garu garu bavvb y gylydd
35Wrth hyn y gwybydd pawp eich bot yn ddiscipulon i mi, a’s cerwch bavvb y gylydd.
36Simon Petr a ðyvot wrthaw, Arglwydd, I b’le ydd ai di? Yr Iesu ei atepawdd, I b’le ydd a vi, ny elly di vy‐canlyn yr owrhon: eithyr canlyny vi gwedy.
37Petr a ddyvot wrthaw, Arglwydd, paam na allaf dy ganlyn yr owrhon? vy einioes a ddodaf ymaith drosot’.
38Yr Iesu ei atepawdd, A ddodi ymaithdy einioes droso vi? Yn wir yn wir y dywedaf y ti, Ny chan y ceilioc, nes yti vy‐gwadu deir‐gwaith.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.