1ARglwydd vy-Duw, ynot’ ydd ymddiriedeis: cadw vi rac vy oll erlidwyr, a’gwared vi.
2Rac iddo dreisio vy eneit val lleo, a’ei rwygo, pryd na bo gwaredwr.
3A Arglwydd vy-Duw a’s gwneythym y peth hyn: ac ad oes enwiredd yn vy-dwylaw.
4A’s telais ddrwc ir nep oedd mewn tangneddyf a mi, (a mi waredeis y nep oedd im cystuddio ynðiachos)
5Poet erlidio y gelyn vy eneit a’ daliet: sathred hefyt vy bywyt ir llawr ar y ddaiar, a dodet vy-gogoniant yn y llwch. Selah.
6Cyuod, Arglwydd, yn dy ddigllonedd, ymddercha yn erbyn bar vy-gelynion, a’ deffro trosof y varn orchymyneist.
7Velly ith amgylchyna cynnulleidfa populoedd: ac er ei mwyn ymchwel ir vchelder.
8Yr Arglwydd y varn y boploedd: barn vi Arglwydd, yn ol vy-cyfiawnder, ac yn ol vy-gwiriondep yno’f.
9Dervit bellach am enwiredd yr andewiolion: eithr cyfrwydda di y cyfiawn, canys y Duw cyfiawn a brawf y calonheu a’r areneu.
10Vy amddeffen ar Dduw, yr hwnn a geidw yr ei vnion o galon.
11Duw a varn y cyfiawn, a’hwn a dremic Dduw bop dyð.
12Addyeithr yddo ymchwelyt, ef a hogawdd ei gleddyf: ef enylodd ei vwa ac ei paratoawdd.
13Ac ef a baratoadd yddo arvae angae: ef a weithia ei saethae i’r ei a’m erlidiant.
14Wele, ef escorawdd enwiredd canys: ef a ymdduc scelerder, ac ef a enir yddo gelwydd.
15Efe wnaeth bwll ac ei cloddiawdd, ac’e ddygwyddawdd yn y ffos a wnaethoeddoedd.
16Ei waith a ymchwel yn ei ben ehun, a’i greulonedd a ddescen ar ei gopa ehun.
17Mi glodvoraf yr Arglwyð yn ol ei gyfiawnder, ac a canmolaf Enw yr Arglwydd goruchaf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.