Ebraieit 11 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xj.1 Pa yw ffyð, a chanmolieth yr vnryw. 9 Eb ffyð ny allwn ni rengu bodd Dyw. 16 Dwys grediniaeth y tateu yn y cynvyt.

1FFydd yn wir, yw ffyrfder y pethau a obeithir, ac egluriat ar y pethau nis gwelir.

2O blegid trwyddi hi yr enillason yr henafiaid air da.

3Wrth ffydd y ddym yn dyall wneuthyr y byd trwy ’air Dyw, ac nid o ddim ar oedd yn ymddangos y gwnaythbwyd y pethau y ddym yn y gweled.

4Drwy ffydd ir offrymmoð Abel y Ddyw aberth vwy no Chayn, trwy’r hon yr enillodd dyst y fod yn gyfion, Dyw yn testlauthn am y roddion ef, a’ thrwyr ffydd hon wedi marw, y may etto yn ymddiddan.

5Trwy ffydd y cymerwyt Enoch ymaith, rrag gweled ange: ac ni chad ef: am ðarfod y Ddyw y gymeryd ef ymaith: eithr cyn y gymeryd ef ymaith, ef a gowser gair, y fod yn bodloni Dyw.

6Eithr heb ffydd ni ellir y fodloni ef: o blegid credu sydd rraid ir neb a ddel at Ddyw, y fod ef, ay fod yn ’obrwywr irrai a ymgais ac ef.

7Noe wedi y Ddyw y rebuddio am y pethau nis gwelsid etto, yn llawn o referens, a ddarparhaoð long y achub eu deulu, trwy’r hon long y barnodd ef ar y byd, ac a wnaythbwyd yn ytifedd ir cyfiawnder sy o ffydd.

8Drwy ffydd gwedi galw Abraham, yr vfyddhaodd y Ddyvv, y fyned ir man, a gay ef ryw amser yn tretad, ac ayth y ffordd, heb wybod y ble y roedd yn myned.

9Trwy ffydd yr arosawdd ef yn tir yr addewid, megis yn lle dierth, ac y trigodd mewn lluestai gidag Isaac ac Iaco, cydytifeddion yr vn rryw addewid.

10Can ys discwyl y rydoeð am ðinas ac iddi sail, Saer ac edyladwr yr hon, yvv Dyw.

11Trwy ffydd Sara hithau a dderbyniodd nerth y ymddwyn had, ac a hiliodd wedi amser oedran, am y bod hi yn barnu yn ffyðlon yr hwn aðowsay.

12Ac herwydd hynny o vn a hwnw yn awr wedi marweiddio y ganed epil, cynniuer a ser yr wybr mewn rrifedi, ac megis y tyvot aneirif ar ’lann y mor.

13Mewn ffydd y bu farw y rrain oll, heb ðerbyn yr addaweidion, eithr o bell y gweled hwynt, ai credu, ay cymeryd hwynt yn ddiolchys, a chyfaddef y bod yn bererinion ac yn ddieithred ar y ðayar.

14Can ys y rrai ’sy yn doydyt hyn, ysbys yw y bod hwynt yn keisio gwlad.

15Pe biasentwy fyddylgar am vvlad y doythant y maes o hani, hwynt a gowson amser y ddymchwelyd.

16Eithyr yn awr gvvlad ’sy well y mayntwy yn y chwenychu, sef yw nefawl: achos pam nid quilið can Ddyw y hun y alw y Dyw hwyntwy, o blegid paratoi a wnaeth ef ddinas yddynt.

17Trwy ffydd yr offrymodd Abraham Isaac, pan fu braw arno, ay vn mab a offrymodd yr hwn a dderbyniase yr addaweidion.

18(Wrth yr hwn y doydesid, Yn Isaac y gelwir y ti had)

19Ystyrio a wnaeth ef y galle Ddyw y gyfodi ef o feirw: or lle y derbyniawdd e fe hefyt ar ryw gyfflybrwydd.

20Trwy ffydd y bendithiawdd Isaac ei vap Iaco ac Esau, am y pethe a ddele rrag llaw.

21Trwy ffydd pan oedd Iaco yn marw, y rroes fendith y bob vn o veibiō Ioseph, ac ai bvvys ar ben eu ffon, yr addolawdd ef Ddyvv.

22Trwy ffydd pan oedd Ioseph yn marw, y coffaodd am ymadawiad plant Israel, ac a roes ’orchymyn am eu escyrn.

23Trwy ffydd pan aned Moses, y cuddiwyd ef drimis can eu rieni, achos y bod yn y weled yn fachcen tlws, ac nid ofnesont orchymyn y brenin.

24Trwy ffydd Moses gwedi mynd yn fawr, a wrthodes y alw yn vab mecrh Pharao,

25Yn ddewisach cantho ’oddef adfyd gid a phobl Ddyw, no chael mwyniant pechawd tros amser,

26Yn barnu yn fwy golud dirmig Christ no thresawr yr Aifftvvyr: can ys edrych y ddoedd ef ar taledigaeth y gobrwy.

27Trwy ffydd y gadewis ef yr Aifft, heb ofni ffromder y brenin: cyfryw ydoedd y emynedd ef, a phe biase ef yn gweled y neb sydd anweledig.

28Trwy ffydd y gwnaeth ef y pasc, a gollyngiad y gwaed, rrac ir hwn ydoedd yn dianyddu y genedigon cynta, gyfwrdd ac wynt.

29Trwy ffydd yr aythont trwyr mor coch megis trwyr tir sych, rrwn pan brovasont yr Aifftied wneuthr, boði a wnaythont.

30Trwy ffyð y cwympasont cayray Iericho wedi y compasu hyd saith diwrnod.

31Trwy ffydd ni ddihenyðwyd Rahab y puttain gidar rrai ni buon vfydd, pan dderbyniodd hi yr espiwyr yn heddychol.

32A pheth mwy a ddoydaf? can ys yr amser a ddyffygiay y mi y fenegi am Gedeon, am Barac a’ Samson, a’ Iephte, am ðafydd hevyd, a’ Samuel, a’r prophwydi:

33Rrain trwy ffydd a orescynasont tyrnasoedd, a wnaythant gyfiownder, a freiniasont yr aðeweidion, a stopiason safnau’r llewod,

34A ddiffoddason angerth y tan, a ddianghason rrac miny cleddyf, o wendid a ymnerthasawnt, ac aython yn ddewrion yn y frwydr, ag a ddymchwelasont ar gil vyddinay yr estronion.

35Gwragedd a dderbyniasont eu meirw gwedi eu codi yn fyw eilwaith: eraill a ðirdynnwyd, heb vynnu ei ymwared, fal y gallentwy gael ailgyfodiat a fai woll,

36Ac eraill a gaynt y profi trwy watwaray ac yscyrsiau, ie trwy rwymay a’ charchary.

37Y llabuddio a gowson, y dryllio a wnaed, y tentio a wnaed, o angayr cledddef y buon feirw, crwydro y buon mewn crwyn defaid a geifr, yn ddiddym, a chael gorthrymder, a bod yn ddrwc wrthynt:

38Rrain ni hayðer byd eu cael: crwydro yr oeðent yn y diffaythay ac yn y mynyddoedd, mewn tyllay, a gogofydd y ddayar.

39Ar rrain y gydoll wedi heuddu testioleth trwy ffydd, ni freiniasont yr addewid,

40Dyw yn rragweled peth gwell am danomi, val na theilyngid hwynt heibom ninay.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help