2.Petr 2 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. ij.Prohwyto y may ef o ddysciawdwyr gauoc, ac yn dangos y y poenedigeth hwy.

1EIthr neur fuont gau bropwydi ym plith y bobl, mal y bydd, yn ych plith chwithay athrawon ffeilsion, rrain yn ddirgel a ddygant y mewn etholffyrdd enbydus, ie yn gwadu yr Arglwyð rwn y prynnoð hwynt, ac yn tynnu arnynt i hunain ddihenydd buan.

2A’ llawer a canlynant y ffyrdd‐enaidfaddau] hwynt, trwyr rrain yr horitr ffordd y gwirioneð.

3A’ thrwy cybyddtra ac wrth airieu gwneuthyr y marsiandiant am danoch, barnedigaeth yr hain ir ystalm ni hwyrhaa, ay colledigaeth hwynt ni chwsc.

4Can ys onid arbedodd Dyw yr angylion, abechasent, eithr y taflu i wared i vffern ay dodi mewn cadwynay towyllwc, yw cadw i cyfyrgolledigaeth:

5Ac nid arbedodd yr hen fyd, eithr Noe yr wythfed dyn pregethwr y cyfiownder, a waredodd ef, ac a dduc y diliw ar fyd yr enwiriaid,

6Ac a droes dinasodd Sodoma a Gomorrha yn llydw, ay dymchwelawdd ac ay cyfyrgolles hwynt, ac ay gwnaeth hwynt yn siampl ir rrai rrac llaw a vucheddynt yn anywiol,

7Ac a achubodd Loth gyfion rrwn oedd mewn gofid trwy aniwair ymwreddiad yr enwiriaid.

8(Can ys ac efe yn gyfion, ac yn trigo yn y mysc hwynt, yn gweled, ac yn clywed, ydoedd yn poyni eu enaid cyfion o ddydd y ddyð trwy eu anghyfreithlon weithredoedd hwynt.)

9Yr Arglwydd a wyr achub y gwirioniaid o iwrth profedigaeth, a’ chadw yr ei anghyfiown i ddydd y farn yw poeni:

10Ac yn bēnaf y rrai sy yn rrodio ar ol y cnawd, mewn trachwant anlendid, ac yn distyru audurdod ac wynt yn rryvygus, ac yn rrac ymgymryd, ac ny rusiant dirmugu y rrai sy mewn goruchel anrrydedd.

11Kyd byddynt yr angylion sy fwy mewn cadernid a’ gallu, heb ddodi dirmygys farn yn y herbyn hwynt gar bron yr Arglwydd.

12Eithyr y rrain megis enifeiliaid anrrysymol, rrain a ymborthir hwynt drwy anianol ymgyrch a wnaythbwyd yw dala, ac yw difa, a ’oganant y pethau ni wyddont o iwrthynt, ac yw dihenydd y deuant trwy y llygredigaeth y hunain.

13Rrain a dderbyniant gvflog anghyfiownder, mal y rrai sy yn cyfri yn lle eiddunet byw mewn gwnfyd tros amser. Brychay yntynt, a thrisclynay, yn ymddigrifo yn eu twylliaday, pan font yn cydwleddu gida chwi,

14A llygaid canthynt yn llawn godineb, nis gallont chwaith beidiaw a phechod, yn abwydaw eneidiau anwadal: a chenthynt galon gwedi ymgenefino a chybyddtra, plant yscymyn,

15Rrain wedi ymadael ar ffordd iawn, aythont ar grwydyr, yn canlyn ffordd Balaam, map Bosor, rrwn a garawdd gobyr anghyfiownder:

16Eithr ef a geryddwyd am y gamwedd, can ys yr assen daniauawl fud yn doyded a llef ddynol, a waharddodd enfydrwydd y proffwyd.

17Yr hain ffynnonnay ydynt heb ddyfr, a’ niwlenne a ymchwa lar tymestyl, ir hain y may duedd tywollwgynghadw yn dragowydd.

18Cans o ddoydet chwyddedic eiriau gorwageð, trwy trachwātay, a thrythyllwch y cnawd, abwydo, a wnant yr rai a ddianghesay yn ’lan oðiwrth y rrai a ymdroysynt mewn crwydr,

19Gan addaw yddynt rrydit, ac wynt y hunain yn wasanaethwyr llwgredigrvvydd: can ys can bwy bynac i gorchfycer neb, ef aeth yn wr caeth i hwnw.

20O blegit os wedi eu diainc o iwrth hal ogredigrwyð y byd, trwy ednabyðiaeth ein hArglwydd an achubwr Iesu Christ, y ceffer hwynt eilwaith wedi ymrwystro ar vn pethau, a chwedi y gorchfygu, y diwedd ir rreini aeth yn waeth nor dechreu.

21Can ys gwell fiase vddynt, na wybesynt fforð y cyfiownder, na chwedi y gwybod, cilio o iwrth y gorchymyn santeidd a rodded vddynt.

22Eithr vddyntwy y digwyddodd, a ddowaid y wir ddihareb, Y ci a ymchwelodd at y chwdiad eu hun: a’r, Hwch wedi y golchi yw ymdroyad yn y dom.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help