Psalm 59 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Psalm .lix.¶ Eripe me de inimicis.¶ Ir hwn ys y yn rhagori. Na ddestuwa. Psalm Dauid ar y Michtham, pan an-vonawdd Saul ac wynt wy yn cadw r tuy yw ladd ef.Prydnawn weddi.

1VY-Dew, gwared vi rac vy-gelynion: amddeffen vi rac y gyfotant im erbyn.

2Gwared vi rac y gweithredwyr enwireð, a chadw vyvy rac ygwyr gwaedlyt.

3Can ys wely, y maent yn cynllwyn vy enait: y cedyrn a ymglascesont yn v’erbyn, nid ar vy-bei na’m pechot i, Arglwydd.

4Y maent yn rhedec ac yn ymparatoi nid er bai: cyvot im cymporth, ac edrych.

5A’ thydi Arglwydd Ddew y lluoedd, Dew Israel deffro y ovwyo yr oll cenedloedd, ac na thrugará wrth yr ei sy yn gwneythyr ar gam yn valeisus. Sélah.

6Y maent wy yn cynired gan yr hwyr: y maent yn ymgyvarth val cwn, ac yn amgylchynu y dinas.

7Wele, y maent yn ymorugaw yn ei ymadrodd, a’ chleddyfae yn ei gwefusae: can ys Pwy a glyw?

8Tithau Arglwydd, eu gwatwory, a chwerthy am ben yr oll genedloedd.

9Y mae nerth ganthaw: a ddysgwiliaf wrthyt: can ys Dew vy noddet.

10Vy-Dew trugaroc a’m rhacvlaena: Dew a ad ymy welet ar vy-gelynion.

11Na ladd hwy, rac im popul ebrgofi: goyscar wynt ar grwydr gan dy nerth, a’ thyn hwy i lawr, Arglwydd ein tarian.

12[Am] bechot ei genae, geiriae ei gwefusae: a’ dalher hwy yn ei balchder, ys am ei h’anudon a’i celwydd, ddywedant.

13 Diva yn dy lit: diva val na bo mwy o hanwynt: a’ bit ydd wynt wybot mae Dew ’s’yn llywyaw yn Iaco,yd tervyneu byt. Sélah.

14A’ phryt gosper yr ymchwelant: ac ymchwerwant val ci, ac amgylchiant y Dinas.

15 Crwydro a wnant y bwyt, ny ys digonir cy trigant dros nos.

16Minau a ganaf oth veddiant ti, ac a gan-molaf dy drugaredd y borae: can ys buost’ vy amddeffen a’m noddet yn-dydd vy-cyfingder.

17Yty, vy nerth, y canaf: can ys Dew vy nawð,m Dew trugarawc.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help