Gweledigeth 19 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xix.1 Roi moliant y Ddew am varnu ’r putein, ac am ddial gwaed ei weision. 10 Ny vynn yr Angel ei addoli. 17 Galw ’r ehediait a’r adar i’r lladdfa.

1AC yn ol hyn, mi glyweis lleis ywchel gan dyrva vawr yny nef, yn dwedyd, Hallelu‐iah, iechyd a’ gogoniant, ac anrrydedd, a’ gallu y vo yr Arglwydd yn Dyw ni.

2Cans cywir a’ chyfiawn ydynt y varney ef: cans ef y varnoedd y byttein vawr, yr hon y lygroedd y ddayar ae godineb, ac y ddialoedd gwaed y weison y gollvvyd gan y llaw hi.

3Ac eilwaith hwy ddwedasant, Hallelu‐iah: ac y mwg hi y drychafoedd yn dragywydd.

4Ar pedwar arygen o henafied, ar pedwar enifel y syrthiasant y lavvr, ac addolasant Ddyw, oedd yn eistedd ar yr eisteddle, dan ddwedyd, Amen, Hallelu‐iah:

5A’ lleis y ddoeth allan o’r eisteddle, yn dwedyd, Molianwch yn Dyw ni, y holl weision, ar rrei ydych yny ofni ef bychein a’ mawrion.

6Ac mi glyweis lleis mal tyrva vawr, a’ mal lleis llawer o ddyfroedd, ac mal lleis taraney cedyrn, yn dwedyd Hallelu‐iah: can ys yn Arglwydd Ddyw hollalluawc a deyrnasoedd.

7Gwnawn yn llawen a llawenychwn, a ’rroddwn gogoniant yddo ef: achos dyfod priodas yr Oen, ae wreic ef y ymbarattoedd.

8A’ chanattay y wneithpwyd yði, ymwisco a llien‐mein pur a’ dysclaer: can ys y llien‐mein ydiw cyfiawnder y Saint.

9Ac ef y ddwad wrthyf, Esgrivenna, Bendigedic ynt y rrei y elwyr y wledd priodas yr Oen. Ac ef y ddwad wrthyf, Y geiriey hyn y Ddyw ydynt gywir.

10Ac mi syrtheis gair bron y draed ef, y addoli ef: ac ef y ddwad wrthyf, Gwyl rrac gwneythur hynny: yr wyfi yn gydwasnaethwr a thi, ac vn oth vrodyr, ysydd gantynt testolaeth y Iesu, addola Ddyw: can ys tustolaeth y Iesu ydiw ysbryd y bryffodolaeth.

11Ac mi weleis y nef yn agored, a’ syna march gwyn, ar vn y eisteddoedd arno, y elwid, Fyddlawn a’ chowir, ac y mae ef yn barny ac yn ymlað yn gyfiawnder.

12Ae lygeid ef oeddent mal flam dan, ac ar y ben ef oeddent llawer o goraney: ac yr ydoedd gantho enw yn escrivenedic, yr hwn ny adnaby neb ond ef y hun.

13Ac ef y ddillattawd a gwisc gwedy taro mewn gwaed, ae enw ef y elwir GAIR DYW.

14A’r llyeddvvyr oeddent yny nef, y ddilinasont ef ar veirch gwnion, gwedy ymwisco a llien‐mein gwyn glan

15Ac oy eney ef yr aeth allan cleddey llym, y daro ac ef, yr cenedloedd: can ys ef y rriola hwynt a gwialen hayarn, ac ef yw yr hwn y sydd yn sathry y winwasc ddigofent, a’ llid Dyw hollalluawc.

16Ac y mae gantho yny wisc, ac ar y vorddwyd enw escrivenedic, BRENIN Y BRENHINOEDD, AC ARGLWYDD YR ARGLWYDDI.

17Ac mi weleis Angel yn sefyll yny’r haul, ac yn llefen a lleis ywchel, dan ddwedyd wrth yr holl adar oeðent yn hedec trwy ganol y nef, Dowch, ac ymgynyllwch ynghyd at swper y Dyw mawr,

18Mal y galloch vwytta cig Brenhinoedd, a’ chig pen captenied, a chig gvvyr cedyrn a’ chig meirch, ar rrei ydynt yn eiste arnynt, a chig gvvyr rryddion a’r ceithon, a’ bychein a’ mawrion.

19 Ac mi weleis yr enifel, a brenhinoedd y ddayar, ae rryfelwyr gwedy ymgynyll ynghyd y ryfely yny erbyn ef, oedd yn eiste ar y march ac yn erbyn y vilwyr.

20Ond yr enifel y ddalwyd, ar proffwyd falst ynghyd ac ef yr hwn y wnaeth gwrthiey gair y vron ef, trwyr rrein y siomoedd ef hwynt y dderbynasant nod yr enifel, ar rrei addolasant y ddelw ef, Y ddoy yma y vwriwyd yn vyw yr pwll tan yn llosgi a brymstan.

21A’ relyw y las a chleddey’r vn ys ydd yn eistedd ar y march, yr hwn gleddey ’sy yn dyvot allan oe eney, ar holl adar y lenwid yn llawn oe cic hvvy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help