1E Glywir yn ollawl vot godinep yn eich plith, a’ chyfryw ’odinep ac na henwir vnwaith ym‐plith y Cenetloeddd, sef cymeryd o vn wreic ei dat.
2Ac ydd yw‐chwi yn ymchyddo, ac yn gynt paam na thristaech, y’n y thynnit ymaith o’ch plith yr vn a wnaethoedd y weithred hon.
3Can ys myvi yn ddiau val yddwyf yn absen yn y corph, wyf yn bresēnol yn yr yspryt, a vernais eisioes megis pe byddwn presentol, pan yvv am yr hwn a wnaeth y peth hyn, gwedy y’wch ymgynnull ynghyt,
4a’m yspryt i, yn Enw yr Arglwydd Iesu Christ, bot meddaf am y cyfryw, gan veddiant ein Arglwyð Iesu Christ,
5y roddi i Satan, er dinistr y cnawt, val yr iachaer yr yspryt yn‐dydd yr Arglwyð Iesu.
6Nyd yw dda eich ymhoffedd: any wyddoch y leveinia ychydic levein yr oll does?
7Gan hynny certhwch yn ’lan yr hen levein, val y byddoch chvvi toes newydd, val ydd ych ddileveinllyt: can ys Christ ein Pasc a aberthwyt trosom.
8Am hyny cadwn wyl, nyd a’r hen levein, nac yn levein drigioni ac anwiredd: eithyr a deleveinllyt vara purdap a’ gwirionedd.
9Mi scrivenais atoch mewn epistol, na bei ywch ddim cydgymddeithas a godinebwyr,
10ac nyd yn ollawl a godinebwyr y byt hwn, neu a’r cupyddion, neu a chribdeilwyr, neu a delw addolwyr: o bleit a’s amgen rhait ywch vynet al’ā o’r byt.
11Eithr yn awr y scrivenais atoch’, na bo ywch gydgymdeithas: a’s oes neb a elwir yn vrawt, yn ’odinebwr, neu yn cupydd neu yn ddelw‐addolwr, neu yn gablwr, neu vn meddw, neu yn gribddeilwr, y gyd a’r cyfryw vn na vwytewch.
12Can ys beth ’sy i mi a wnelwyf ar varnu hefyt yr ei sy o ddy allan? anyd yw‐chwi yn barnu yr ei ’sy oddy vewn?
13and mae Duw yn barnu yr ei ’sy oddy allan. Bwriwch ymaith gan hyny och plith yr yscelerddyn hwnw:
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.