Psalm 109 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Psalm .cix.Deus laudem meam.¶ I rhagorawl. Psalm Dauid.

1DEw vy moliant, na thaw-son.

2Can ys genae yr andewiol, a’ genae y dwyll y agorwyt arnaf: dywedysont wrthyf’a thavot geuoc.

3Cylchynesont vi hefyt a gairieu dygaseð, ac ymladdesont im erbyn yn ddiachos.

4Am vy-cariadigrwydd, im gwrthwynebesont, a mi y weddiaw.

5A’ a dalesont ymy ddrwc dros dda, a’ chas dros vy-caredigrwydd.

6Gosot yr andewiol arnaw, a safet y gwrthnebwr ar ei ddeeulaw.

7Pan varner ef elet yn euoc, a’ bit ei weddi yn bechat.

8Bid ei ddyddiae ychydigion, a’ chymred arall ei lywodraeth.

9Bit ei blant yn amdifait, a’ei wreic yn wedw.

10Elet ei blant y grwydraw, a’ chribnowta, a’ chaisiaw ei oi ’lleoedd destruwedic.

11 Ymavlet y ceisiat yn-cymeint ac y vedd ef, ac anreithiet dieithreit ei lavur.

12Na bo neb a estenno yðo drugareð, ac na bo neb a drugará wrth ei amddiveit.

13Destrywier ei ’ohelyth, ac yn y genedlaeth ar ol diléer y enw hwy.

14Coffaer enwireð ei dadae wrth yr Arglwyð: a’phechat ei vam na ddiléer.

15[Eithr] byddant yn-gwydd yr Arglwydd yn oystat, val y toro ef ymaith o’r ddaiar ei coffa.

16Can na chofiawdd ef wneuthur trugaredd, eithyr erlyd y gwr tlawt a’ rhaidus, a’r cystuddedic o galon y’w liasu.

17Mal y carawdd ef velltith, velly y daw yddaw, mal na hoffawdd vendith, velly yr ymbellá ywrthaw.

18Megis yr ymwiscawdd a melltith mal a dillat, velly hi daw yw ymyscaroedd ef mal dwfr, ac mal oleo y’w escyrn.

19Bid yddaw mal yn wisc yw amdoi, ac yn wregis y ymwregysy bop amser.

20Poet hyn vo cyfloc, vy-gwrthnebwyr y gan yr Arglwydd, a’r ei y ddywedant ðrwc am vy eneit.

21Tithau Arglwydd vy-Dew, gwna a mi yn ol dy Enw: ymwared vi, (can ys da yw dy drugaredd)

22Can ys tlawt ac angenawc ytwyf, a’m calon a archollwyt ynof.

23Myn’d ymaith ydd wyf val gwascawt yn ciliaw, ac im escutir mal y ceilioc-rhedyn.

24Vy-gliniae ys ydd egwan gan vmpryd, a’m cnawt y wywawdd eisieu braster.

25A’ mi aethym yn warth yddwynt: yr ei edrychent arnaf, y yscytwent ei pennae.

26Cymporth vi, Arglwydd vy-Dew: iachá vi wrth dy drugaredd.

27A’ hwynt a wybyddant, may hyn yw dy law, ti, Arglwydd, ei gwneddyw.

28[Cyd] melltithient wy, tithau a vendithi: wy a godant ac awradwyddir, ath was di a vydd llawen.

29Gwiscer vy-gwrthnebwyr a gwarthruð, ac ymdoant a ei gwradwydd megis a chochl.

30Mi a ddiolchaf a’i Arglwydd yn ddirvawr am genae, ac ymplith llaweredd ei molaf.

31Can ys ef a saif ar ddeeulaw y tlawt, y’w gadw rac yr ei a varnent ei enait yn euawc.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help