1ARglwydd Ddew vy iechyt, ys llefain ydd wyf ddydd a’nos ger dy vron.
2Dauet vy gweddi ger dy wynep: gestwng dy glust at vy llevain.
3Can ys cyflawnwyt vy eneit o ddrygeu, a’m bywyt ’sy yn nesáu ir vedrot.
4Im cyfrivir y gyd a’r ei ’n ’sy yn descen pwll, wyf val gwr eb nerth:
5Sef yn rydd ym-plith y meirw, megis y lladdedigion yn gorwedd yn y bedd, yr ei ny chofféy mwy, ac eu torwyt ymaith ywrth dy law.
6 Dodeist vi yn y pytew isaf, yn-tywyllwch yn yr eigiawn.
7Arnaf y gorwedd dy ddiglloneð, ac ath oll done’ cystuddieist. Selah.
8Pelléeist vy-cydnabot y wrthyf, im gwnaethost yn dremic ganthynt: im goarchaywyt, val nad elwyf allan.
9Vy llygat a ddoluria gan vy-poen: Arglwydd, galwaf arnat beunydd: estennaf vy-dwylaw arnat.
10A ddangosy ryveddodae ir meirw? a gyfyd y meirw ath glodvory? Sélah.
11A ddatcenir dy drugaredd yn y bedd? a’th ffyddlondab yn-cyfergoll?
12A adwaenir dy ryveddodae yn y tywyll? a’th gyfiawnder yn-tir angof?
13A’mi lefais arnat, Arglwydd, a’borae y daw vy-gweddi oth vlaen.
14Arglwydd, paam y gwrthðody vy eneit, y cuddy dy wynep y wrthyf?
15Ys truan ytwyf, ac ar drangedigaeth: o’m ieuntit y dyoddefeis dy ofnion, gan bedruso
16 Ar vyuchaf y trawenynt dy sorianteu, a’th ofn am torawdd ymaith.
17Daethant beunydd om amgylch mal dwfyr, ac am cylchynesant y gyd.
18Vy-cereint a’m cymddeithion y belléeist y wrthyf, a’m cydnabot a ymguddiant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.