1VY enait, mola yr Arglwydd: O Arglwydd vy-Dew tra mawr ytwyt, a ’gogoniant ac anrydedd yr ymwiscy.
2Yr hwn y wisc ’oleuni val dillat, ac ysy yn tayny y nefoedd val llen.
3Yr hwn a osot tuylathae ei ystafell yn y dyfredd, ac s’yn gwneythyd yr wybrae yn varchogva yddo, ac yn rhodiaw ar adanedd y gwynt.
4Yr hwn a awna yr ysprytion yn genadae yddo, a’ ei wenidogion tan poethflam.
5Seiliawdd ef y ddaiar ar ei h’ategion, mal nad yscoc byth bythoedd.
6Toeist yhi a gorddyfnder, mal a gwisc: ar vcha y mynydedd y saif y dyfredd.
7[Ac] wrth dy gerydd di y ciliant: gan lais dy daran yr ymvrysiant ymaith.
8[A’r] mynyddedd a escennant glynnoedd y ddescennant ir lle y sailiaist’ yddwynt.
9Eithr gosedeist yddwynt ddervyn, nid ant drostaw: nid ymchwelant y doi y ddaiar,
10Ef’ sy ’n d’anvon ffynnoniae yn y glynnoedd, yr ei a gerddant rhyng ymynyddeu.
11O hanwynt yr yf oll vwystviloedd y maes, asennot gwylltion a dyr ei sychet.
12 Wrth y hyn y preswyl ehediait y nefoedd, ac y lleisiant ymysc y cangae.
13Ef yddufrá y mynyddedd o’i estevyll, a’r ddaiar a gyflawnir offrwyth dy weithredeu.
14Efe ’syn peri ir gwellt dyfu ir yscrublieit, a’ llyse er mwyniant dyn, mal y duco vara o’r ddaiar,
15A’ gwin a lawená calon dyn, oleo y wna ir wynep ddysclaerio, a’ bara a gynnal galon dyn.
16Y preniae ardderchawc y gyflawnir, cedriwydd Lebanón yr ei y blannawdd ef,
17 Mal y nytha yr adar ynaw: yr ederyn-cyfiawn y ffynidwydd yw ei duy.
18Y mynyddedd vchel ir geifr: y craigieu ysy lechva i’r cwnigot.
19Gwnaeth ef lleuat er amserae-nod: yr haul a edwyn ei vachlut.
20Gwnai di dywyllwch, a’ nos vydd hi, ynthei yr ymlusca oll vwystviloedd y coet.
21Y llewod y ruant am ei ysclyfiaeth, ac a gaisiant gan Ddew ei bwyt.
22Pan goto haul yr ymgasclant, ac y gorweddant yn ei trigleoedd.
23[Yno] ydd aa dyn ymaith yw waith, ac y’w orchwyl yd yr hwyr.
24Arglwydd, mor lliosawc yw dy weithrededd? wyntwy oll yn-doethinep y gwneythost: llawn yw y ddaiar oth veddianneu.
25[Velly] mawr a’ llyddan y mor: yno ymluscieit yn aneirif, anifeilieit bychein a’ mawrion.
26Yno ydd a ’r llongae, Liuiathan hwnw, yr vn a wnaethost y chwareu ynthaw.
27Yr ei hyn oll ys y yn dysgwyl wrthyt, val y rhoddych vwyt yddwynt yn ei amser.
28Ti eu cyflawnir o da.
29Eithr a chuddy dy wynep, y cythrwblir hwy: a’s dugy ei hanadl, dervydd am danynt, ac y’w llwch yr ymchwelant.
30Drachefn a’s anvony dy yspryt, eu créir, ac yr adnewyddy wynep y ddaiar.
31Gogoniant ir Arglwydd yn dragyvyth: llawenáet yr Arglwydd yn ei ’weithredoedd.
32Ef a edrych ar y ddaiar, a hi ddychryn: ef a gyfwrdd ar mynyddedd, a’ hwy vygant.
33Canaf ir Arglwydd yn vy-bywyt: can-molaf vy-Dew tra vwy byw.
34Bid cymradwy gantho vy amadroð: vy llewenydd vyð yn yr Arglwydd.
35Divâer y pechaturieit o’r ddaiar, a’r andewolion val na byddant mwy: vy enait, mola di yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.