1AC mi welais Angel cadarn arall yn discyn or nef, gwedy ðillaty or wybren, ac envys ar y ben, ac y wyneb ef ydoeð mal yr haul, ae draed ef oeddent mal pilerey tan.
2A Llyvr bychan oedd yn agored yny law ef, ac ef y rroedd y droed ddehe ar y mor, ae droed assey ar y ddayar,
3Ac ef y lefoedd a lleis ywchel, mal by bei llew yn rryo: a’ gwedy darfod yddo lefein, y seith twrwf y wneythont y lleisey.
4A’ gwedy darfod yr seith twrwf gwneythyr y lleysiey, yroeddwn ar veder scryvenny: ac my glyweis lleis or nef yn dwedyd wrthyf’, Sela’ r pethey y leisoedd y seith twrwf, ac na scryvenna hwynt.
5A’r Angel yr hwn y weleis i yn sefyll ar y mor ac ar y tir, y dderchafodd ey law yr nef,
6Ac y dyngodd mewn yr vn ysydd yn byw yn dragowydd, yr hwn y creoedd y nef, ar pethey ydynt ynddo ef, ar ddayar ar pethey ydynt ynðy hi, ar mor ar pethey ydynt ynddo ef, na vyddey Amser rrac llaw.
7Ond yn nyddiey lleis y seithfed Angel, pan ðechreyo ef gany ar trwmpet, ddyweddy y wneir dirgelwch Ddyw, mal y ddatcanoedd ef yddy wasnaethwyr y proffwydi.
8Ar lleis y glyweis or nef, y chwedleyoedd eilweith a mi, ac y ddwad, Cerdda, cymer, y llyfyr‐bechan ysydd yn llaw’r Angel, yr hwn ysydd yn sefyll ar y mor ac ar y tir.
9Ac mi eythym at yr Angel, dan ddwedyd wrtho, Dyrro y mi y Llyfr‐bychan. Ac ynte y ddwad wrihyfi, Eymer, a llynca ef ac ef, y cwherwa dy vola di, ond ef y vydd melys yn dy eney di mal mel.
10Ac mi y gymereis y llyfr‐bychan o law yr Angel, ac y llynceis ef, ac yrydoedd ef yn velys yn vyngeney megis mel: a’ chwedy y mi lynky ef, vy mola y cwherwoedd.
11Ac ef y ddwad wrthyf, Reid yd proffwydo eilweith ymysc y bobloedd, ar nassioney, a’r ieithioedd, ac y lawer o Vrenhinoedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.