1 CAdw vi Ddew, can ys daeth y dyfredd yd at eneit.
2Ydd wyf yn-glŷn yn y tom dwfn lle nid safiat: ys daethym y ðyfredd dyfnion, a’r ffrwd am gorchudiawdd.
3Ydd wyf wedy blinaw yn llefain: vy mwnwg y sychawdd: vy-llygait a ballent, yn dysgwyl am vy-Dew.
4Amlach no gwallt vy-pen yw’r ei ’n am casânt yn ddiachos: yr ei am diuethent, vy gelynion yn ’auoc, ysy yn gedyrn, yn y thelais yr hyn ny chymrais.
5Dew, ti adwaenost vy ynvydrwydd, am camweddae nid ynt cuddiedic racot.
6Na chywilyðier droso vi, yr ei syð yn dysgwyl wrthyt Arglwydd Ddew yr lluoedd: na wradwydder droso vi yr ei ath ceisiant, Dew Israél.
7Can ys er dy vwyn y dugeis anair: cywilydd a doawdd vy wynep.
8Aethym yn estran im broder, ys yn allwat y blant vy mam.
9Can ys gwynvyd dy duy am ysawdð, a’ chableu yr ei ath ceplynt, y syrthiawdd arnaf.
10Wylais ac vmprytiawdd vy enait, a’ bu hyny yn gabl ymi.
11A’ rhoddeis am danaf sach[wisc]: ac aethym yddwynt yn ddiareb.
12Yr ei y esteddent yn y porth, y sonient am danaf, a gwawd oeddwn ir diotwyr.
13A’ mineu Arglwydd y wnaf vy-gweddi arnat yn amser cymeradwy, ’sef yn lliosowgrwydd dy drugaredd: â Ddew gwrando vi yn-gwirionedd dy iechyt.
14Gwared vi allan o’r tom, val na suddwf: rhyddáer vi rhac vy-caseion, ac o’r dyfredd dyfnion.
15Na voddet vi y llifðyfredd, ac na’m llynco yr eigiawn: ac na chaeet y pytew ei enae arnaf.
16Clyw vi Arglwydd, can ys da yw dy drugaredd: tro araf yn ol lliaws dy dostoruriaetheu.
17Ac na chudd dy wynep rac dy was, can bot trwbl arnaf: brysia chlyw vi.
18 Dynesa ar vy eneit, phryn ef: gwared vi o bleit vy-gelynion.
19Ti adnabuost vy-gwarth, a’m cywilydd, am anglod: vy oll wrthnepwyr ger dy vron.
20Cabledigeth a ddrylliawdd vy-calon, ac im tristawyt, ac edrycheis am y dosturiai, ac nid oedd nep: ac am ddiddanwyr, ac ny chefeis vn.
21 A’ rhoesant vystyl yn vy bwyt, ac yn vy sychet y rhoesant ymi vinegr y ei yfet.
22Bit ei bort yn vagl ger ei bron, a’i llwyðiant ym drancwydd.
23Tywyller ei llygait val na ’welant: a gwna y’w llwyni bop amser grynu.
24Tywallt arnynt dy ddigllonedd, a’ llit dy soriant eu cymero.
25Bit y cartref hwy yn ddiffaith, ac na bo nep a breswilio ei pebyll.
26Can eu bot yn erlyd, yr hwn y draweist: ac yn datcan dolur yr ei a archolleist.
27Dod enwiredd ar y enwireð hwy, ac na ddelont y mewn ith gyfiawnder.
28Diléer hwy o lyver y bywyt, ac na eu yscrifener im=plith yr ei cyfion.
29 A mineu yn dlawt ac yn athrist, dy borth, Ddew, am derchaif.
30Molaf Enw Dew a chaniat: ac ei mawrygaf a chlodvoredd.
31 Gwell vydd gan yr Arglwydd na bustach ieuanc ac yddo gyrn a’ charnae.
32Y rei gestyngedic y welant ei y gaisiant Ddew, a lawenechant, a’ch calon y vydd byw.
33Can ys yr Arglwydd a glyw y tlodion, ac ny thremyga ei garcharorion.
34Molent ef nef a’ daiar, y moroedd ac oll y ymlusco ynthwynt.
35Can ys Deo a ymwared Tsijon, ac y adeila ddinasydd Iudah, val y preswylio dynion yno, a’i mediannu.
36A’ had hei weision ei ’tiuedda: a’r ei y garant ei Enw y dric ynthei.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.