Luc 13 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xiij.Creulonder Pilat. Ny ddylem ni varnu vot yn enwir bawb oll ar a ddioddefo artaith. Christ yn annoc i edueirwch. Ef yn iachau y ’wreic grepach. Ef yn atep llywiawdr y Synagog. Drwy amryw gyffelybiethae y mae ef yn datcan pa beth yw teyrnas Duw. A’ hefyd nad yw niver yr ei a vydd cadwedic, anyd ychydigyn. O’r dywedd y dengys na ddichon na meddiant bydawl na nerth rwystro na llestair rhin ac arvaeth Duw.

1YR oedd ’rei yn presennol yn yr amser hwnw, yn menegy iddaw am y Galilaiait, y sawl a gymyscesei Pilat ei gwaed gyda ai h’aberthae hwy hunain.

2A’r Iesu a atepawdd, ac a ddyuot, wrthyn, A dybygwch wi vot y Galilaieit hyn yn bechadurieit mwy na’r oll Galilaieit ereill, can ddarvot yddyn ddyoddef cyfryw bethae?

3Dywedaf ychwy, nad ynt: eithyr any wellewch eich bucheð ef ach cyfergollir oll yr vn ffynyt.

4Nei a dybygwch vvi am y daunaw hyny y syrthiawdd y twr arnyn yn Siloam, ac ei lladdawdd, y bot hwy yn pechaturieit y tu hwnt ir oll ddynion a breswiliant yn‐Caerusalem?

5Dywedaf yw’ch nad ynt: eithyr any’wellewch‐eich‐buchedd, ef eich cyfergollir oll yr vn ffynat.

6Ef a ddyuot hefyt y parabol hyn, Yr oedd gwr a’ ffycuspren iddaw wedy ’r blanny yn ey ’winllan ac ef a ddaeth ac a geisiawdd ffrwyth arnaw, ac ny chafas ddim.

7Yno y deuot ef wrth y gwinllannwr, Nachaf, y tair blynedd hyn y daethym ac y ceisiais ffrwyth ar y fficuspren hwn, ac nyd wyf yn cael dim: trycha e y lawr: paam y mae ef yn divwynaw ’r tir?

8Ac ef atepawdd ac a ddyuot wrthaw, Arglwydd, gad iddo ’r vlwyðyn hon hefyt, ne’s i mi gloddiaw yn ey gylch, a’ ei deilo.

9Ac a’s dwc ef ffrwyth, gad iddo: anid ef, gwedy hyny y trychy e i lawr.

10Ac ef ei dyscawdd yn vn o’r Synagogae ar y dyð Sabbath.

11A’ nachaf, ydd oedd yno gwraic ac iddi yspryt gwendit, er ys da’unaw blynedd, ac oedd wedy’r gydgrymu, ac ny’s gallei ymddadgrymu mywn modd yn y byd.

12A’ pan welas yr Iesu y hi, ef y gelwes hi ataw, ac a ddyuot wrthei, Ha‐wreic, ith ellyngwyt ywrth dy wendit.

13Ac ef a ddodes ei ddwylo arnei, ac yn y man yr vniownwyt hi, ac y gogoneddawdd hi Dduw.

14Ac arglwydd y Synagog a atepawdd yn sorredic, can i’r Iesu iachau ar y dydd Sabbath, ac a ðyuot wrth y popul, Y mae chwech diernot ar yr ei y dylyir gweithio: ar yr y rhe’in gan hynny dewch, ac iachaer chwi, ac nyd ar y dydd Sabbath.

15Yno atep iddo o’r Arglwyð, a’ dywedyt, Hypocrit, anyd yw pop vn o hanochvvi ar, y dydd Sabath yn gellwng ei ych nei asin o’r preseb, a’ dywys y yfed dwfr?

16Ac any ðyly yverch hon i Abrahā, yr hon a rwymoð Satā, wele, ys daunaw blyneð, gahel hei gellwng o’r rhwym hwn ar y dydd Sabbath?

17A’ phan ddywedei ef y pethae hyn, y cywilyddit y oll wrthnepwyr ef: a’r oll popul a lawenhaei wrth y pethae rhagorawl a wnaethit y gantaw ef.

18Yno y dyuot ef, I ba beth y mae teyrnas Dew yn gynhebic? ne i ba beth y cyffelybaf y hi?

19Cyffelyp yw i ’ronyn o had mustard, yr hwn a gymerei ðyn ac a heuhei yn dy ’arð, ac a dyvei, ac ’ai yn brē mawr, ac ehediait y nef a nythent yn ey gangae

20A’ thrachefn y dyuot, I ba beth y cyffelypaf deyrnas Duw?

21Cyffelyp yw i surdoes, ’rhwn a gymrei wreic, ac ei cuddiei mewn tri chibened o vlawd, yn y surei oll.

22Ac ef a gerddawdd trwy ’r oll ddinasoedd a’ threfi, gan ei dyscu, gan ymddaith tu a’ Chaerusalem.

23Yno y dyuot vn wrthaw, Arglwydd, Ai ychydigion ynt a vyddant cadwedic? Ac ef a ddyuot wrthynt,

24Ymdynnwch am vynet y mywn i’r porth cyfing: can ys llaweroedd, dywedaf ywch, a gaisiant vyned i mywn, ac ny byddant abl.

25Gwedy y cyfoto gwr y tuy i vynydd, a’ chau’r drws a’ dechreu o hanoch sefyll allan, a’ churo ’r drws, gan ddywedyt, Arglwydd, Arglwydd, agor y ni, ac ef a atep ac a ddywait wrthych, Nyd adwen chwi, o b’le ddych.

26Yno y dechrewch ddywedyt, Bwytesam ac a yfesam geyr dy vron, ac a ðysceist y bobyl ar ein heolydd.

27Ac ef a ðywait, Dywedaf wrthych, nyd adwaen i chwi o b’le ddych: ewch ymaith ywrthyf chwychwi weithredwyr enwiredd.

28Yno y bydd wylofain a’ rriccian dannedd, pan weloch Abraham, ac Isaac ac Iaco, a’r oll Prophwyti yn‐teyrnhs Duw, a’ chwitheu wedy ych tavly allan.

29Yno y dawant llavver o’r Dwyrein, a’r Gorllewin, ac o’r Gogledd ac o’r Deheu, ac a eisteddant‐ar vord yn‐teyrnas Duw.

30A’ nycha yn olaf ydd ynt, yr ei vyddant gyntaf, ac y mae yn gyntaf yr ei vyddant olaf.

31Yn y diernot hwnw y daeth yr ei or Pharisaieit, ac y dywedesont wrthaw, Cerdda ymaith, a’ dos o ddyma: can ys Herod a chwenych dy ladd di.

32Yno y dyuot ef wrthynt, Ewch a dywedwch ir cadnaw hwnw, Nycha I bwriaf allan gythaelieit, ac y gorphenaf iachau, heddyw, ac yvoru, a’r trydydd dydd mi ðybennir.

33Er hyny rhaid i mi orymddaith heddyw, ac evoru, a’ threnydd: can ny ’all vot, y collir Prophwyt allan o Caerusalem.

34A Caerusalem, Caerusalen, yr hon a leðy ’r Prophwyti, ac a lapyddy yr ei a ddanvonir atat, pa sawl gwaith yr ewyllyseis gasclu dy blāt di ynghyt, yr vn modd ac y cascl yr iar hi nytheid y dā y hadaned, ac ny’s mynnech?

35Nycha: y gedewir eich tuy y‐chwy yn ancyfannedd. ac yn wir y dywedaf y chwi, na chewch‐vy‐gweled, yn y ddel yr amser y dywedoch, Ys bendigedic yr hwn ’sy yn dyuot yn enw yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help