1 GWeledigaeth Iessu Christ, yr hon y rroedd Dyw yddo ef, yw ddangos yddy wasnaethwyr yrrein y orvydd yn vyan ddyfod y ben: ac ef y ðāvonoedd, ac y ddangosoeð gan y angel yddy wasanaethwr Ioan,
2Yr hwn y dystolaethoedd o eir Dyw, ac o dystolaeth Iesu Christ, ac o pob peth ar y weloedd ef.
3 Happys ywr neb y ddarlleyo, ar rrei y wrandawāt geyriey y bryffodolaeth hon, ac y cadwant y pethey ysydd yn escrivenedic yndi: cans y maer amser gayr llaw.
4Ioan, yr seith Eglwys ar ydynt yn Asia, Rrad vo gyd a chwi, a’ heðwch o ddiwrth yr Hwn ys ydd, yr Hwn vu, a’r Hwn vydd rrac llaw, ac o ddiwrth y seith Ysbryd y rrei ydynt gair bron y dron ef,
5Ac o ddiwrth Iesu Christ, yr hwn ys ydd tust ffyddlawn, yr enedigaeth cynta or meyrw, a Thywysog ddyvvch vrenhinoedd y ddayar, yddo ef yn caroedd ni, ac yn golchoedd ni oddiwrth yn pechodey yny waed, yhun,
6Ac yn gwnaeth yn Vrēhinoeð ac yn Effeirieid y Ddyw y dad ef, yddo ef y bo gogoniant ac ymherodraeth yn oes oesoedd. Amen.
7 Dyna, y may ef yn dyvod gydar nywl, a’ phob llugad ae gwyl ef, ar rrei hefyd y brathasant ef tryvvodd: ac wylovain y wnant arno ef holl ceneloedd y dayar, Velly y mae, Amen.
8Mi wyf α Alpha ω Omega, y dechre a’r diweð, með yr Arglwydd, yr Hwn y sydd, a’r Hwn vu, ac yr Hvvn ddaw rrac llavv, ’sef yr hollalluawc.
9Mi Ioan, ych brawd chwi, a chydynaith mewn cospedigaeth, ac yn y deyrnas ac mewn goddefaint Iesu Christ, oeddwn mewn ynys a elwir Patmos am ’eir Dyw, ac am dystolaeth yr Iesu Christ.
10Yr oyddwn yn yr yspryd yn dydd yr Arglwyð, ac y glyweis rrac vynghefen, lleis mawr, mal lleis trwmpet,
11Yn dywedyd, mi wyf α Alpha ac ω Omega, y cyntaf ar diwethaf, a’r peth yr wyt ti yny weled, escrivena mewn llyfr, a danvon yr seith Eglwys ar ydynt yn Asia, y Ephesus, ac y Smyrna, ac y Bergamus, ac y Thyateira, ac y Sardei, ac y Philadelphia, ac y Laodiceia.
12A mi ymchoyles yn vu ol y weled y lleis, a ðwad wrthy vi: a phan ymchoyles, mi a welwn seith canwylbren aur.
13Ac ynghanol y seith canwyllbren, vn yn debic y Vab y duyn, gwedy ymwysgo a gwisc hed y draed a’ chwedi gwisco gwregis aur ynghylch y vrone.
14Ey ben, ay wallt oeddent wnion mal gwlan gwyn, ac mal eira, ay lygeid oeddent mal fflam dan.
15Ay draed oeddent mal pres coeth, yn llosgi megis mewn ffwrneis: ay leis mal swn llawer o ðyfroedd.
16Ac yr oedd yn y law ðehe saith seren: ac o eney allan yrydoed yn myned cleddey llym doy vinioc: a discleiro a wnaeth y wyneb ef mal yr hoyl yn y ’rym ef.
17A phan y gweles i ef, my a syrthies wrth y draed mal marw, ac ef a ddodoedd y law dehe arnaf, dan ddwedyd wrthyf, nac ofna: mi wyf y cyntaf a’r diwethaf,
18Ac yr wyf yn vyw, ac y vym varw, a syna, yr wyf yn vyw yn oes oesoedd, Amen: ac y mae genyf yr allwyddey yffern a myrvolaeth.
19Escryvenna y pethey y weleist, ar pethey ysydd, ar pethey a ’orfydd bod rrac llaw.
20Dirgelwch y seith seren y weleist yn vy llaw ðechre, a’r seith canwyllbren aur, yvv hyn, Y seith seren Angylion y seith Eglwys ydynt: ar seith canwyllbren y weleist, y seith Eglwys ydynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.