Psalm 137 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Psalm .cxxxvij.Super flumina.

1WRth avonedd Babèl yr eisteddesam, ac yno yr wylesam, pan veddyliem am tSijòn.

2Ar yr helic yn hei chenol y crogem ein telyneu.

3Yno yr ei an ducsei yn gaith, y ovynent y ni gany cerdd, gwedy yni grogy gan ddywedyt, Cenwch y ni o ganueu tSijón.

4Py wedd y canwn, ganiat yr Arglwydd yn-tir estran?

5As ith angofiaf, Caerusalem, angofiet vy-deheu law ganu.

6Any chofiaf am danat, glyned vy-tavot wrth daflot vy-genae: any chodaf Gaerusalem yn benaf llewenydd ymy.

7Coffa Arglwydd blant Edóm, yn-dydd Caerusalem, yr ei y ddywedynt, Dynoethwch, dynoethwc-hi yd hei sailvan.

8A verch Babél, anrheithiedic, gwynvydedic yr hwn a dalo ’r pwyth yty, mal y teleist y nyny.

9Gwyn ei vyd ’r hwn a gymero dy rei bychein ac ei baidd wrth y main.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help