1YN awr yn y dydd cyntaf o’r wythnos ar y cynddydd, y daethant ir vonwent, gan ddwyn yr aroglae, yr ei a arlwyesent wy, a’ gvvragedd ’r ei y gyd a’ hwy.
2Ac vvy a gawsant y maen wedy’r dreiglo ymaith ywrth y vonwent,
3ac aethant y mywn, ac ny chawsant gorph yr Arglwydd Iesu.
4Ac e ddarvu, ac wynt mewn irdang gan hyn, wely ddau wr yn ddysymwth a sefent wrth‐ynt mewn gwiscoedd dysclaer.
5Ac val ydd oeddent yn ofni, ac yn gestwng ei hwynebae tu ar ddaiar, y dywedesont wrth‐wynt, Paam y ceisiwch y byw, ym‐plith y meirw?
6Nid yw ef yman, eithyr e gyfodes: cofiwch pa ddelw y dyuot ef wrthych, pan oedd ef etvvo yn‐Galilaia,
7gan ddywedyt, davv y bydd dir rhoðy Map y dyn yn‐dwylo dynion pechaturus, a’ ei chael grogi, a’r trydydd dyð at cyuodi.
8A’ hwy a gofiesont y ’airiae ef,
9ac a ymchwelesont y wrth y vonwent, ac a vanegesont y pethe hyn oll i’r vn ar ðec, ac ir relyw oll.
10A’ Mair Magdalen, a’ Ioanna, a’ Mair mam Iaco a’ gvvragedd ereill y gyd ac wynt, oedd yr ei a ddywedesont y pethe hyn wrth yr Apostolon.
11Eithr ganthynt y gwelit y geiriae hwy, vegis ffugiant, ac ny chredesont y‐ddynt.
12Yno y cyuodes Petr, ac y rhedawdd i’r vonwent, ac edrychawð y mywn, ac a welawdd y llenllieniae wedy ei dodi yno wrthyn yhunain, ac ef aeth ymaith gan ryveddu ryngtho ac y hun gan y peth a ddarvesei.
Yr Euāgel ar ddie Llun Pasc.
13¶ A’ nycha ddau or discipulon oeð yn mynet y dref yr hon oedd o ywrth Gaerusalem triugain stad a’ i h’ enw Emmaus.
14Ac wy a ymchwedleynt wrth ei gylyd am yr oll pethae a wneuthesit.
15Ac e ddarvu, ac wynt yn cyd ymddiddan, ac yn ymðadlae, bot i’r Iesu yntef nesay, a’ myned gyd
16ac wynt eithyr y l’ygait wy a atdaliwyt val nad adwaenēt ef.
17Ac ef a ddyvot wrthwynt, Paryw ymadroddion yw’r ei hyn ’sydd genwch wrth y gylydd dan rodio a phaam ydd ych, yn dristion?
18Ac vn (ai enw Cleopas) a atepawdd ac a ddyvot wrthaw, A wyt ti yn vnic yn ddiethr yn Caerusalem, ac ny wyddost y pethae a darvu y dyddiae hyn?
19Ae ef a ddyvot wrthwynt, Pa pethae? Ac wy a dywedesant wrthaw, Am Iesu o Nazaret, yr hwn oeð Prophwyt, yn alluawc yn‐gweithret ac yn‐gair geyr bron Duw, a’r oll popul,
20a’ pha vodd y darvu ir Archoffeiraiait a’n llywyawdwyr i roði ef i varn angae, a’ ei groci.
21Anid ydd oeddem ni yn gobeithiaw mae ef oedd hwnn a ddelei i bryuu ’r Israel, ac am yr oll pethae hynn, heddyw yw’r trydydd dydd er pan ddarvuant.
22A’ hefyt’r ei o’r gwragedd o’n plith a yrrodd vraw arnam, yr ei ddeuthant yn vorae ir vonwent.
23A’ phryd na chawsāt y gorph ef, wy a ddaethant gan ddywedyt, welet o hanwynt wythae weledigaeth o Angelion, yr ei a ddywedynt y vot ef yn vyw.
24Can hyny yr aeth cyfran o’r ei oeddynt gyd nyni ir vonwent, ac a gawsāt yn y moð y dywedesei ’r gwrageð, anid ef ny’s gwelsant.
25Yno y dyvot ef wrthynt, chvvychvvy ynvydion a’ hwyrvrydic calon i gredy yr oll pethae a dyvot y Prophwyti,
26a nyd oedd rait i Christ ddyoddef y pethae hynn, a’ myned y’w ’ogoniant?
27Ac ef a ddechreawdd o Voysen a’r oll Prophwyti, ac a esponiawð yddwynt yn yr oll Scrythyrae y pethae oedd yn escrivenedic am danaw.
28Ac yð oeddent yn nesay at y dref, lle ydd oeddent yn myned, ac ef a gymerth arnaw vynet ym‐pellach.
29Eithyr wy a ei cympellesont ef, can ddywedyt, Aros gyd a ni: can ys y mae hi yn hwyrhay, a’r dydd wedy cerddet. Ac ef aeth y mewn y aros gyd ac wynt.
30Ac e ddarvu, val ydd oedd ef yn eistedd ar y bwrð gyd ac wynt, e gymerth y bara, ac a ddiolchawð, ac ei torawdd, ac ei rhoes yddwynt.
31Yno ydd egorwyt ei llygait, ac ydd adnabuont ef: an’d ef a divannawdd ymaith, oei golwc.
32Ac wy a ddywedesont wrthyn ei gylydd, anyd oedd ein calonae yn llosci ynam, tra ytoedd ef yn ymddiddan a ni ar y ffordd, a’ phan oeð e yn agory i ni yr Scrythurae?
33Ac wy a gyfodesōt yr awr hono, ac a ymchweleson i Gaerusalem, ac a gawsont yr vn ar ddec wedy ’r ymgynull yn‐cyt, a’r sawl oedd gyd ac wynt,
34yr ei a ddywedesant, E gyvodawdd yr Arglwydd yn wir, ac a ymddangosawdd y Simō.
35Yno y manegesont y pethae a vvnaethesit ar y fforð, a’ ph’odd ydd adnabysent ef ar doriat y bara.
Yr Euangel die Mawrth Pasc.
36¶ Ac val y dywedent y pethae hyn, y safoð yntef yr Iesu yn ei canol, ac y dyuot wrthyn, Tangneddyf ychwy.
37A braw ac ofn a vu arnynt, gan ddybieit yddwynt weled yspryt.
38Yno y dyvot ef wrthwynt, Paam ich trallodir? a’ phaam y mae traws veddyliae yn codi yn eich calonae?
39Welwch vy‐dwylo a’m traet, mae myvy yw ef: teimlwch vi, a’ gwelwch: can nad oes i yspryt gnawt ac escyrn, mal y gwelwch vot i mi.
40Ac wedy iddaw ddywedyt val hyn, e addangosawdd yddwynt ei ddwylo a’ ei draet.
41Ac wyntwy eto eb gredy gan lawenydd, ac yn rhyveddy, ef a ddyvot wrthwynt, A oes genwch yma ddim or llyniaeth?
42Ac wy a roesant ydd‐aw ddryll pyscotyn wedy ’rostiaw, ac o ddil mel,
43ac ef ei cymerawdd, ac ei bwytaodd geyr y bron hwy.
44Ac ef a ddyvot wrthwynt, Ll’yma’r gairiae a ddywedais wrthych, tra oeddwn eto gyd a chwi, nid amgen gorvot cyflawny yr oll pethae a yscrivenwyt am danaf yn‐Deddyf Moysen, ac yn y Prophwyti, a’r Psalme.
45Yno ydd agores ef y meddwl hwy, modd y dyallent yr Scrythurae,
46ac a ddyvot wrthynt, Val hyn yð escrivenwyt, ac val hyn ydd oedd yn rait i Christ ddyoddef, a’ chyvody drachefyn o veirw y trydyð dyð,
47a’ bot precethy ediveirwch a’ maddeuant pechatae yn y Enw ef ymplith y Cenetloedd oll, can ddechrae yn‐Caerusalem.
48Ac ydd yw chwi yn testion o’r pethae hyn.
49A’ nycha, mi ddanvonaf addewit vy‐Tat arnoch: a’ thrigwch yn‐dinas Caerusalem, y n ych gwiscer a nerth o ddvchelder.
50Yno ef y duc hwy allan i Bethania, ac ef a gyuodes eu ddwylo, ac y bendithiawdd hwy.
51Ac e ddarvu, ac ef e yn y bendithiaw, ymadel o hanaw y wrthynt, a’ei ddwyn i vynydd ir nef a wnaeth pwyt.
52A’ hwy y addolesont ef, ac a ymchwelesont i Caerusalem y gyd llawenydd mawr,
53ac oeddent yn ’oystat yn y Templ, yn moli ac yn clodvori Duw, Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.