1AM hyn, vymrodyr santeidd, cyfranogion or galwedigaeth nefawl, ystyriwch yr Abostol ac archoffeiriad eyn cyffes ni Christ Iesu:
2Ef fu ffyddlon yr neb ay gosodes ef, megis ac y bu Moyses ynghwbl oi dy ef.
3Cymynt yn wir rragor ’ogoniant tu hwnt y Voyses a hayddai hwn, ac y may mwy or vrddas ir neb a edyladawdd y ty, nog ir ty y hun.
4Can ys pob ty a edeilir trwy ryw vn, ar neb a wnaeth pob peth, Duw ydiw.
5A’ Moses yn wir a fu ffyddlon ynghwbl oi dy ef, megys gwasaethvvr, ir testelauthu y pethau y bydday son am danyn rrac llaw.
6Eythyr Christ megis mab, ar eu dy y hun, ty yr rwn ydym ni, os nyni a geidw ein hyder a’ gorhoffedd ein gobaith yn gyfan hyd y diwedd.
7Am hynny megis y dowaid yr yspryd glan, Heddiw o gwrandewch i y lais ef,
8Na chaledwch ych calonau, megis yn yr emryson, ar ddull dydd y tentasiwn yn y diffaithvvch.
9Lle y tentiason ych tadan chwi fi, ym profason, ac a welson fyngweithredoedd ðeugain mlynedd,
10Am hynny y sorais wrth genedleth honno, ac a ðoydais, Y mayntw fyth yny myned ar gam yn eu caloneu, ac nid adnabuont fy ffyrth i.
11Ac velly y tyngais yn fyniglloni, Os caent wy entrio ym esmwythdra vi.
12Disgwiliwch vymrodyr, rrac bod vn amser yn neb o honoch galon ddrwg, ac anffyddlon, y beri ymadel a Dyw byw.
13Eithyr cynghorwch bawb y gilidd beunyd, tra elwer Y dyð heddiw, rrac i neb o honoch ymgaledu trwy dwyll pechawd.
14Can ys cyfrannawg o grist eyn gwnaythbwyt ni, os cadwn ni y dechreuad drwyr hwn eyn cynhelir y fyny, yn gyfan hyd y dewedd.
15Lle y doydir, Heddiw os gwrandewch i y lais ef, na chaledwch ych caloneu, megis ac yn yr ymryson.
16Can ys rrai ar ol gwrandaw, y hannogasont ef‐y‐ðigio, ac etto, nid pawb ar a ðoythan or Ayfft trwy Voyses.
17Wrth pwy y bu ef sorredic ddeugain blynedd? onid wrth y rrai a bechasai, rrain a gwympasai eu cyrff yn y diffaethvvch?
18Wrth pwy y tyngodd na chaent wy entrio yw ’orphoysfa ef? onid wrth y rrai, nyd uvyddhaent?
19Ac ydd ym yn gweled na allent wy entrio herwydd angrrediniaeth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.