1AC wy ðaethā drosoð ir ’lan arall i’r mor, y wlat y Gadarenieit.
2A’ gwedy y ðyvot ef allan o’r llōg, yn y man y cyfarvu ac ef o’r monwenti ðyn yn yr hwn ydd oedd yspryt aflan:
3yr vn oeð ai drigfa yn y monwenti, ac ny allei nep y rwymo ef, na’g a chadwynae, can yddo pan rwymit ef yn vynech a lleffetheirie a chadwyni, ef a vyscei ’r cadwy ni yn ddrylliae,
4ac e dorei ’r lleffetheiriae yn chvvilfrivv, ac ny allei nep y warhay ef.
5Ac yn ’oystat nos a’ dydd ydd oedd ef yn llefain yn y mynyddedd, ac yn y monwenti, ac yn ei guro ehun a main.
6A’ phan ganvu ef yr Iesu o hirbell, y rhedawdd ac yr a ddolawdd ef,
7ac a lefawdd a llef vchel ac a ddyvot, Beth ’sy i mi a vvnelvvyf a thi Iesu vap y Duw goruchaf? ith tyngedaf trvvy Dduw na phoenych vi.
8Can ys ef a ddywedesei wrthaw, Dyred y maes o’r dyn yspryt aflan.)
9Ac ef a ovynawdd iddo, Pa enw ’sy iti? Ac ef a atepodd, gan ddywedyt, Lleng ’sydd enw i mi: can ys llawer ym.
10Ac ef ei gweddiawdd yn vawr, na ddanvonei ef ddim hanynt allan o’r wlat.
11Ac ydd oedd yno yn y mynyddae genvaint vawr o voch yn pori.
12A’r oll gythraelieit atolygesant iddaw, gan ðywedyt, dAnvon nyni i’r moch, val y gallom vyned oei mewn vvy.
13Ac yn y man y rhoes yr Iesu gennad yddwynt. Yno ydd aeth yr ysprytion aflan y maes, a’ myned y mewn ir moch, a’ rhedec o’r genvaint bendro‐mwnwgl o ddiar y gaulan i’r mor, (ac yð oeddent yn‐cylch dwyvil ovoch) ac eu bodwyt yn y mor.
14A’r meichieid a ffoesont, ac a venagesont hyny yn y dinas, ac yn y wlat,
15a’ wy a ddaethant at yr Iesu, ac a welsant yr vn a vesei yn gythraelic, ac a lleng ynddaw, yn eistedd ac yn wiscedic, ac yn ei iawn synwyr: ac ofny a wnaethant.
16A’r ei a ei gwelawdd, a venegawdd yddwynt, pa beth a wneithit i’r vn y bysei ’r cythrael ynthaw, ac am y moch.
17Yno y dechreysont y weddiaw ef, ar vyned ymaith oei goror wy.
18A’ gwedy iddo vyned y mewn llong, y gweddiawdd arnaw yr hwn a vesei’r cythrael yntho, ar gael bot y gyd ac ef.
19A’r Iesu ny oddefawdd yddaw, eithyr dywedyt wrthaw, Dos ymaith ith tuy, at yr ei sy i ti, a’ menag yddynt pa ueint bethae a wnaeth yr Arglwydd y‐ty, a’ phodd y trugarhaodd wrthyt’.
20Ac ef aeth ymaith, ac a ddechreawdd gyhoeddy in Decapolis pa bethe eu meint a wnaethoeð yr Iesu yddaw: a’ phawp a ryveddesont.
21A’ gwedy myned yr Iesu trosodd mewn llong i’r tu arall, ydd ymgasclawdd tyrfa vawr ataw, ac ydd oedd ef wrth ’lan y mor.
22A’ nycha y deuth ataw vn o benaethieit y Synagog, a’ ei enw oedd Iairus: a’ phan y gwelawdd ef, y dygwyddawdd i lawr wrth ei draed,
23ac adolwyn yn vawr yddaw, gan ddywedyt, Y mae vy merch ym‐brō marw: adolvvyn yty ddyvot a dody dy law arni, val ydd iachaer hi, a’i byw.
24Yno ydd aeth ef cantho, a’ thorf vawr ei dilynawð, ac y gwascasont ef.
25(Ac yð oeð ryw wraic ac arnei waed‐lif es dauðec blynedd,
26ac a ddyoddefesei laweredd gan lawer o veddigon, ac a drauliesei gymeint ac oeð ar ei helw, ac eb lesy dim iddi, ’namyn y myned hi yn vwy gwaeth.
27Pan glypu hi son am yr Iesu, y hi a ddaeth yn y dyrfa y tu cefyn, ac a gyfyrddawdday wisc ef.
28Can ys hi ddywedesei, A’s caf gyfwrdd a y wiscoedd ef, im iacheir i.
29Ac yn ebrwydd y sychawdd ffynnonell y gwaet hi, a’ hi a synniawdd yn hei chorph ddarvot hiachay o’r pla honno.
30Ac yn y man pan wybu r’ Iesu yn daw ehun vyned nerth o honaw allā, ef a droes o yamgylch yn y dyrfa, ac a ddyvot, Pwy a gyfyrdawdd a’m dillat?
31A’ ei ddiscipulon a ðywedesont wrthaw, ti wely y dyrfa yn dy wascy, ac a ddywedy di, Pwy a gyfyrddawdd a mi?
32Ac ef a edrychawð o yamgylch, y weled hō a wnaethsei hyn.
33A’r wreic gan ofny a’ chryny: can ys‐hi a wyddiat beth a wnathesit ynthei, a ddaeth ac a gwympoð geyr y vron ef ac a ðyvot iðo yr oll wirioneð.
34Ac ef a ðyvot wrthi, Ha verch, dy ffyð ath iachoað cerða yn tangneðyf, a’ byð iach oth pla.)
35Ac ef etwa yn ymaddrodd, y deuth rei y wrth duy ’r pēnaeth y Sinagog gan ðywedyt, E vu varw dy verch: pa aflomydy a wnai di mwy ar y Dyscodr
36Er cynted y clypu ’r Iesu adroð y gair hwnw, y dyvot ef wrth bēnaeth y synagog, Nad ofna: cred yn vnic.
37Ac ny adoð ef ynep yw ei ddilyn, amyn i Petr ac Iaco, ac Ioan brawt Iaco.
38Yno y daeth ef i duy pennaeth y Synagog, ac y gwelawð y twrwf, a’r ei oeð yn wylo, ac yn ochain yn vawr.
39Ac ef aeth y mywn, ac a ddyvot wrthynt, Pa dyrfu, ac wylo ydd ych? ny bu varw yr dyn‐bach, amyn hunaw y mae.
40Ac wy a y gwatworent ef: ac ef y rhoes wy oll y maes, ac a gymerth dad, a’ mam y dyn‐bach, a’r ei oedd y gyd ac ef, ac aeth y mywn lle ddoedd yr enaeth yn gorwedd,
41a ’chan ymavlyd yn llaw yr enaeth, y dyvot wrthei, Talitha cumi, yr hyn yw oei ddeongyl, Yr enaeth (wrthyt’ y dywedaf) cyvot.
42Ac yn ebrwydd y cyfodes yr enaeth, ac y rhodiawdd: canys dau-ddec blwydd oed ytoedd hi. A’ braw anveidrawl aeth ynðynt.
43Ac ef a ’orchymynawdd yddwynt yn gaeth na chae nebun wybot hyny, ac a ddyvot am roi bwyt iddi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.