Luc 21 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xxj.Christ yn canmol y weddw dlawd. Ef yn rac rybyddiaw am ddinistriat Caerusalem. O’r precethwyr gauawc. O’r arwyddion a’r trallodae ar ddyuot. O ddywedd y byd, Ac oei waith diwarnodawl.

1AC val ydd oedd ef yn edrych, y gwelas ef yr ei goludawc yn bwrw ei rhoddion ir tresorfa.

2Ac ef a welawð hefyt ryw vvreic‐weðw dlawd, yr hon a vwriawdd y mywn yno ddwy hatling,

3ac ef a ddyuot, Yn ddiau y dywedaf ychwy, ddarvot ir weddw dlawt hon vwrw ymywn vwy nac wyntwy oll.

4Canys wy oll o ei gormoddder y bwriesont ymplith y’r offrymae Duw: a’ hon oi phrinder a vwriawð y mywn yr oll vywyt oeð y‐ddei.

5Ac a’r ei yn dywedyt am y templ, val yr aðurnesit a main pryderth, ac a chyssegredic bethae, ef a ðyuot,

6Ai ’r pethae hyn ydd ych yn ei tremio? e ddaw ’r dyddiae yn yr ei ny edevvir maen ar vaen, a’r ny’s goyscerir.

7Yno y gofynnesont y‐ddaw, gan ðywedyt, Athro, and pa bryd y byð pethae y hyn? a ’pha ’r argoel vydd ar ddawot hyn i ben?

8Ac ef a ddyuot, Mogelwch rac cael eich twyllaw: can ys daw llawer yn vy Enw i, gan ddywedyt, Mi yw Christ, ac mae’r amser yn dynesau: ac am hyny nac ewch ar y hol hwy.

9A’ phan glywoch son am ryveloedd a’ thervyscoedd, nac ofner chwi: can ys dir yw ir pethae hyn ddyvot yn gyntaf, eithyr nad oes tervyn yn y man.

10Yno y dywedei wrth‐wynt, E gyuyt cenedl yn erbyn cenedl, a’ theyrnas yn erbyn teyrnas,

11a’ dayar‐grynfaë mowrion vyddant yn amrafael leodd, a’ newyn, a haint y cornwyt, a’ dychrynedigaethae, a signedd mawrion vyddant o’r nef.

12Eithyr cyn na hyn oll, y dodant ei dwylo arnoch, ac ich erlynant, gan ych roddi ir Synagogae, ac i garcharae, a’ch dwyn geyr bron Brenhinedd, a’ llywyawdwyr o bleit vy Enw i.

13A’ hyn a dry i chwi, yn testoliaeth.

14Dodwch gan hyny yn eich calonae, na vefyrioch, beth a atepoch.

15Can ys myvi a roðaf y‐chwy ’eneu a ’doethineb, yr hwn ny ddychon eich oll wrthwynebwyr ei wrthddywedyt na ei wrthladd.

16Ys bradychir chwi y can eich rieni, a’ chan eich broder, a’ch cydgenedl ach cereint, a’r ei o hanoch a ront y varwolaeth.

17A’ dygasoc vyddwch gan bavvb oll o bleit vy Enw i.

18Eithyr vn blewyn o’ch penn ny’s collir.

19Trwy eich ammynedd, meddiannwch eich eneidiae.

20A’ phan weloch Caerusalem wedy ’r amgylchynu gan vyddinoedd, yno gwybyddwch vot y diffeithiat hi yn agos.

21Yno ciliet yr ei ’sy yn Iudaia, ir mynyddedd: a’r ei ’sy yn y chenol, tynnan y maes: ac nac aed yr ei or orwlad, y mywn yddi.

22Can ys dyddiae dial yw ’r ei hyn, y gyflawny yr oll bethæ a ’r yscrivenwyt.

23A’ gwae yr ei beichiogion, a’r ei yn rhoi‐bronnae yn y dyddiae hyny: can ys‐bydd cyfingdra mawr yn y tir hvvn, a’ llid arucha y bopul hyn.

24Ac wy a gwympant ar vin y cleðyf, ac eu tywysir yn gaithion ir oll genetloedd, a’ Caerusalem a vysengir dan draed y gan y Cenetloeð, y n y chyflawner amsere y Cenetloeð.

25Yno y byð sygnedd yn yr haul, ac yn y lloer, a’r ser, ac a’r y ðaiar trallot ymhlith y cenetloedd, gyd a chyfing gycor: y mor a’r weilgi a ruant.

26Di enait vydd dynion gan ofn, a’dysgwyl am y pethae a ddawant ar vvartha ’r byd: can ys nerthoeð y nefoedd a yscytwir,

27ac yno y gwelant Vap y dyn yn dyuot yn wybren, y gyd a meddiant a’ gogoniant mawr.

28A’ phan ðechreuo y pethae hyn ddyvot, tremiwch i vynydd, a darchefwch eich pene, can ys‐bot eich prynedgaeth yn dynessau.

29Ac ef a ðyvot wrthynt y parabol hvvn, Gwelwch y fficuspren, a’r oll breneu,

30pan darddant ynawr gan ei gweled, y gwyddoch o hanoch eich unain bot yr haf yn awr yn gos.

31Ac velly chwithe, pan weloch ddyvot y pethae hyn, adnabyddwch vot teyrnas Duw yn agos.

32Yn wir y dywedaf y‐chwy, na bydd i’r oes hon vyned heibio, y n y wneler y pethe hyn oll.

33Nef a’ daiar a ant heibio, and y gairie meuvi nid ant dim heibio.

34Edrychwch arnoch eich hunain, rac bot vn amser trymhau eich calonhae gā gloðest a’ meddot, a’ gofalon y vuchedd hon, a’ rac dyvot y dydd hwnw ar ych vchaf eb wybot.

35Can ys val magl y daw ar ucha pavvb oll a’r a breswiliant ar wynep yr oll ddayar.

36Gwiliwch gan hyny a’ gweddiwch yn ’oystat, ar gahel bot yn deilwng y ddianc rac y pethe hynn oll ar ddyvot i ben, ac ar allu o hanoch sefyll geyr‐bron Map y dyn.

37Ac yn hyd y dydd y dyscei ef y bobyl yn y Templ, a’r nos ydd ai allan, ac yr arosei yn y mynyth a elwir mynydd yr olew‐wydd.

38A’r oll popul a ddeuent yn vorae ataw, y’w glywet yn y Templ.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help