Ephesieit 3 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. iij.Dangos y mae achos ei garchar. Deisyfu arnynt nad ymellyngent o ran y ’ovid ef, Ac erchi ar Dduw y mae ei cadarnhhan hwy yn ei Yspryt.Yr Epistol ar ddie ystwyll

1OBleit hyn ydd yvv vi Paul yn carcharor Iesu Christ dros‐y‐chwi y Genetloedd,

2a’s clywsoch ywrth y llywodraeth y Rat Duw a roed i mi yn eich cyfor,

3sef yvv hyny, bot Duvv gan ddatguddiat gwedy dangos y dirgelwch hyn y‐my (val yr scrivenais vchod yn ychidic ’airiæ,

4wrth yr hyn pan ddarllenoch y gellwch wybot vy‐dyall yn‐dirgelwch Christ)

5yr hwn yn oesoedd eraill ny’s eglurwyt i veibion dynion, val y mae’r awrhon wedy ddatguðiaw yw sainct Apostolion ef a’ Prophwyti gan yr Yspryt,

6’sef bot y Cenetloedd yn gyd etiueddion hefyt, ac yn cydcorph, ac yn gyfranogiō o y addewit ef in‐Christ gan yr Euangel,

7ir hon im gwnaed i yn wenidawc gan y ddawn y Rat Duw a roed y‐my erwydd grym y veddiant ef.

8Sef y mivi y lleiaf o’r oll Sainctæ y rhoðwyt y Rat hwn, ar vot i mi Euangelu ym‐plith y Cenetloedd anchwiliadwy ’olud Christ,

9ac y eglurhau y y bawp pa vn yw cymddeithas y dirgelwch, yr hwn o ddechreuad y byt oeð guðiedic yn‐Duw, ’r hwn a greawð bop dim trwy Iesu Christ,

10er mwyn bot yr awrhon ir llywodraethae ac ir meddiannae yn y lleoedd nefolion yn wybodedic yddyn trwy’r Eccles yr amrywliavvs doethinep Duw,

11erwydd y rrac ’osodiat tragyvythawl, ’rhwn a weithiawdd ef yn‐Christ Iesu ein Arglwyð,

12y gan yr hwn y mae i ni hyder a hyfforddrwydd wrth ’obaith, gan ffyð yndo ef.

Yr Epistol y xvi. Sul gwedy Trintot.

13Erwydd paam ydd archaf arnoch nac ymellyngoch o bleit vy‐blinderae i er eich mwyn, yr hyn yw eich gogoniant.

14O’r achos hyn y plygaf vy‐glinieu ar Dat ein Arglwydd Iesu Christ,

15(o ba vn yr henwir yr oll tuylwyth yn y nefoedd ac yn y ddaiar)

16val y rhoddo y‐chwy erwydd golud eu ’ogoniant, megis ich nerther yn gadarn gan y Yspryt ef yn y dyn oddymewn,

17modd y trico Christ yn ych caloneu gan ffydd, mal gwedy eich gwreiddier a’ch dysyler yn‐cariat,

18y boch abl y amgyffred y gyd a’r ol Sainctæ, beth yw lled, a’ hyd a’ dyfnder, ac vchelder:

19a’ gwybot cariat Christ, yr hwn ’sy tros wybodaeth, val ich llanwer ac oll gyflawnder Duw.

20Iddaw ef can hyny pwy a ddychon dra lliosocau bop peth ar archom nai a veddyliom, erwydd y meddiant ’sy yn gweithiaw ynom,

21y bo gogoniant yn yr Eccles yn‐Christ Iesu, trwy’r oll genetlaethae yn oes oesoeð. Amē.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help